Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Chwefror 2018, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Beth bynnag y diwydiant, mae gwella perfformiad o ran gwerthiant a chynyddu trosiant yn un o'r targedau allweddol. Dyma saith cam pwysig y gellir eu cymryd ar unwaith i gynyddu eich gwerthiant ar-lein gyda chymorth technoleg a marchnata digidol.

Gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn gweithio ar ddyfeisiadau symudol ac yn hylaw

Pa bynnag ffordd mae eich cwsmeriaid yn dewis prynu oddi wrthych, gwnewch yn siŵr bod y broses mor syml â phosib. Gall defnyddwyr ddewis prynu trwy eu dyfais symudol, yn hytrach nag ar eu gliniadur neu gyfrifiadur personol. Gwnewch yn siŵr y gallant lywio a phrynu yn hawdd drwy eich gwefan neu’r llwyfan a ddewiswyd beth bynnag fo’r ddyfais a ddefnyddir.

Adeiladwch restr o danysgrifwyr e-bost ffyddlon

Gwnewch y mwyaf o'ch marchnata e-bost drwy ei hyrwyddo ar draws bob pwynt cyswllt ar-lein megis eich gwefan, blog a chyfryngau cymdeithasol. Unwaith byddwch wedi dechrau adeiladu rhestr data ymgysylltiol, bydd gennych nid yn unig gynulleidfa o ddefnyddwyr sydd â diddordeb ac y gallwch gysylltu â nhw yn rheolaidd ond gallwch hefyd anfon cynigion personol i yrru tanysgrifwyr at eich gwefan. Bydd y cysylltiad uniongyrchol hwn yn helpu cynyddu cyfleoedd i drosi.

Dewiswch eich iaith a chopi’n ofalus

Dylai eich copi o ran gwerthiant ennyn ymdeimlad o frys gan eich ymwelwyr, yn eu cymell i brynu nawr. Mae’r iaith a ddefnyddiwch yn chwarae rôl bwysig yn y broses gwerthiant felly dewiswch iaith bositif, weithgar sy'n gyrru'r darllenydd i brynu. Gwnewch y mwyaf o gamau  galw-i-weithredu eglur a phrofwch ostyngiadau neu gynigion gydag amser cyfyngedig.

Cynigwch gynnwys gwerthfawr, rhad ac am ddim

Dylech osgoi ffocws ar werthiant yn bennaf drwy gynnig cynnwys o ansawdd uchel. Os byddwch yn bombardio ymwelwyr i gymell prynu wrth iddynt gyrraedd y wefan, rydych yn debygol o’u troi i ffwrdd. Trwy gynnig gwybodaeth 'am ddim' i’ch ymwelwyr, byddwch yn datblygu eich enw da fel ffynhonnell wybodaeth awdurdodol, ddibynadwy. Mae defnyddwyr yn fwy tebygol o brynu gan frand maent yn adnabod ac yn ymddiried ynddo, felly canolbwyntiwch ar ddatblygu cysylltiadau ymgysylltiol cyn mynd ati i gymell prynu.

Mae lluniau’n bwysig!

Gall swnio'n syml, ond mae lluniau/delweddau yn helpu eich cynnyrch i ymddangos yn fwy 'real' a phendant. Ystyriwch beth fyddai eich ymwelwyr yn hoffi ei weld o’r cynnyrch (megis onglau gwahanol neu luniau cwsmeriaid) a'r lle gorau i’w rhoi ar y dudalen brynu. Gall delweddau o ansawdd uchel roi hwb i ddymunoldeb eich cynnyrch a helpu darpar gwsmeriaid i ddychmygu eu bod yn berchen ar yr eitem arbennig.

Adolygwch olwg a chopi eich gwefan

Mae'n bwysig myfyrio ar apêl eich gwefan, unrhyw ddeunydd gweledol a ddefnyddir ac amrywiaeth y cynnwys. A all ymwelwyr ddeall y copi yn hawdd? A yw'r wybodaeth allweddol yn glir? I ba rannau o’r wefan cânt eu denu? Mae'n bwysig diweddaru eich cynnwys yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn berthnasol ac yn gyrru cwsmeriaid tuag at gamau penodol. Os ydych yn dymuno gwneud newidiadau, gallech roi cynnig ar ddefnyddio fformatio neu ffontiau amgen ac amrywio hyd y paragraffau, is-benawdau neu bwyntiau bwled.

Beth yw eich proses ddilynol?

Dylai cwsmeriaid deimlo eich bod yn eu gwerthfawrogi, ble bynnag maent yn y broses werthu - ac mae hynny'n cynnwys y diwedd! Bydd hyn yn y pen draw yn helpu creu gwerthiannau yn y dyfodol gan fydd y defnyddiwr yn cadw eich brand mewn cof ac yn helpu i ddatblygu perthynas gadarnhaol. Gall negeseuon e-bost awtomataidd sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn e-bost 'diolch' ar ôl prynu a gallwch gynnig gostyngiadau personol i ysgogi gwerthiannau pellach.

Sut gall technoleg ddigidol helpu eich busnes i ddenu a chadw cwsmeriaid?

Ymunwch â Chyflymu Cymru i Fusnesau i gael cyngor ymarferol yn un o’r Gweithdai Ysgogi Newid a gynhelir ledled Cymru. Cofrestrwch nawr!

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen