Ydych chi wedi ystyried sut gallai deallusrwydd artiffisial (AI) drawsnewid y ffordd rydych chi’n rheoli eich busnes, yn trafod gwerthiannau, ac yn cefnogi eich cysylltiadau cwsmeriaid?

 

Ar gyfer busnesau bach, efallai bod AI yn ymddangos fel rhywbeth yn y dyfodol, neu ffuglen wyddonol. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, nid yw y tu hwnt i’ch cyrraedd.

 

Gall deallusrwydd artiffisial fod mor hawdd a fforddiadwy â gosod ap ar eich ffôn – ond gallai ffurfio rhan hanfodol o’ch sylfeini TG ar gyfer y dyfodol.

 

Yn ôl Forrester, mae 12% o fusnesau eisoes yn defnyddio technolegau AI mewn nifer o agweddau o’r sefydliad.

 

I grynhoi, mae AI yn derm ymbarél sy’n cynnwys nifer o dechnolegau gwahanol, fel awtomeiddio, dysgu peiriannau, dadansoddi data, ac adnabod llais. Er enghraifft, gallai hwn fod yn rhywbeth mor syml â defnyddio meddalwedd adnabod llais i gadarnhau pwy ydych chi wrth fewngofnodi i’ch ap bancio symudol.

 

Y dyddiau hyn, gall busnesau ddefnyddio AI i wella nifer o systemau mewnol, a gwasanaethau wyneb yn wyneb â chwsmeriaid i drawsnewid y ffordd y mae eich busnes yn rhedeg. Gall y systemau AI hyn roi’r offer i chi droi tasgau cymhleth, drud, sy’n cymryd llawer o amser, i fod yn rhai cyflym a hawdd i’r rheoli.

 

Dau faes allweddol lle gall busnesau bach elwa ar AI yw o fewn y timau gwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid. Er enghraifft, mae’n debygol y bydd gan eich tîm gwerthu lu o wybodaeth am eich cwsmeriaid, ond gall dethol y data ystyrlon fod yn her. Bydd offeryn fel SalesforceIQ yn gwneud y gwaith caled ac yn helpu i ddatgelu arweiniadau gwerthu posibl.

 

O ran gwasanaeth cwsmeriaid, mae wedi bod yn ffocws allweddol ar gyfer AI dros y blynyddoedd diwethaf. Gallai AI gefnogi’r rôl hon trwy ddefnyddio ‘asiantau rhith’ gan gwmnïau fel Cogito i helpu cwsmeriaid â’u cwestiynau.

 

Mae gwella gwasanaeth cwsmeriaid yn bwysig i unrhyw fusnes o unrhyw faint. Gallai defnyddio technoleg i gefnogi’r gweithgaredd hwn helpu i gynyddu effeithlonrwydd galw eich busnes, hybu gwasanaeth cwsmeriaid a gwella ffyddlondeb – gan arwain at gynnydd mewn elw.

 

Felly, mae’n bell o fod yn rhywbeth yn y dyfodol, mae’n bosibl i fusnesau bach fanteisio ar gyfleoedd AI heddiw. O apiau AI i helpu rheoli eich busnes, i fotiaid AI i gyflawni tasgau penodol, mae AI yn offeryn digidol arall a allai helpu eich busnes i dyfu.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen