Os ydych yn datblygu tudalen lanio bwrpasol annibynnol, mae'n debygol bod gennych un peth mewn golwg: trosi cwsmeriaid. 

 

Gall tudalen lanio fod yn unrhyw dudalen ar eich gwefan lle cyfeirir ymwelydd ati gyda'r bwriad i gwblhau cam penodol.  Mae'r dudalen hon yn debygol o gynnwys gwybodaeth allweddol am gynnyrch penodol, gwasanaeth neu gamau a ddymunir yn unig.  P'un a ydych yn annog rhywun i danysgrifio i’ch gwasanaeth, brynu neu gofrestru ar gyfer eich e-gylchlythyr, bydd angen i chi ddylunio tudalen lanio sy'n effeithiol o ran cynhyrchu trosiadau. 

 

Os ydych chi am i'ch tudalen lanio arwain cwsmeriaid tuag at weithred benodol, dyma 6 pheth allweddol y gall eich busnes ddechrau eu gwneud nawr! 

 

Cydweddwch eich negeseuon

 

Sicrhewch fod copi a dyluniad eich tudalen lanio yn gynrychioliadol o'r hysbyseb, e-bost neu ddeunydd marchnata sydd wedi cyfeirio’r ymwelydd at y dudalen hon. Mae hyn yn bwysig gan y bydd yn rhoi sicrwydd i'r ymwelydd fod y dudalen lanio yn gredadwy.  Sicrhewch fod eich pennawd, prif gopi, llinellau tag, delweddau a chynllun lliw yn debyg fel bod yr ymwelydd yn gwybod ei fod wedi cyrraedd y lle iawn. Y mwyaf hylaw yw’r newid, y mwyaf tebygol yw y bydd yr ymwelydd yn trosi. 

 

Rhowch un opsiwn yn unig

 

Y demtasiwn yw darparu ymwelwyr â nifer o opsiynau er mwyn trosi. Ni fyddwch am golli allan ar gyfleoedd eraill i drosi neu werthu. Fodd bynnag, gall hyn fod yn groes i reddf. Bydd eich tudalen lanio yn llawer mwy effeithiol os ydych yn cynnig un opsiwn yn unig.  Cyfyngwch ar ymyrraeth posibl a rhowch lai o bethau i’r ymwelydd eu hystyried cyn trosi. 

 

Ffocysu eich dyluniad

 

Cynlluniwch eich tudalen glanio o amgylch beth yw eich nod yn y pen draw. Pan fydd yr ymwelydd yn clicio trwodd i'r dudalen lanio dylai’r hyn y maent yn edrych arno a’r camau yr hoffech iddynt eu cymryd fod yn glir ar unwaith. Er enghraifft, os cynlluniwyd y dudalen i annog tanysgrifiadau i wasanaeth neu gylchlythyr e-bost penodol, dylai gynnwys gwybodaeth allweddol am yr hyn y maent yn cofrestru amdano yn unig a darparu ffurflen danysgrifio syml. Gofynnwch am y wybodaeth hanfodol sydd ei angen arnoch yn unig - po fwyaf o fanylion byddwch yn gofyn amdanynt, y mwyaf tebygol yw y bydd y defnyddiwr yn colli diddordeb a chlicio i ffwrdd.

 

Galwad glir i weithredu

 

O'r ffont a’r dyluniad i’r safle ar y dudalen, mae’r ffordd rydych yn defnyddio eich botwm galwad i weithredu (CTA) yn hanfodol.  Dylid cynllunio eich tudalen lanio o amgylch y ffordd y bydd eich CTA yn ymddangos ar y dudalen. Yn y pendraw, mae'r botwm yn arwain yr ymwelydd i gymryd y camau nesaf tuag at drosi. Felly, mae angen i'r botwm neu ddolen fod yn glir, yn unigryw, yn hylaw ac yn gryno. Efallai y byddwch hefyd yn dewis defnyddio geiriau sy'n cyflwyno mater o frys, er nad yw hyn yn angenrheidiol bob amser. 

 

Dylai dyluniad eich tudalen lanio ddenu sylw at eich CTA. Gallai hyn fod mor syml â gadael llawer o le gwag o gwmpas fotwm lliw amlwg. Gallech hyd yn oed ddefnyddio saethau neu giwiau gweledol eraill. Beth bynnag y dewiswch ei wneud, gwnewch yn siŵr na fydd eich galwad i weithredu’n pylu o’r golwg!   

 

Prawf cymdeithasol

 

Mae'n hawdd dweud wrth eich ymwelwyr eich bod yn wych, ond pam ddylen nhw eich credu? Prawf Cymdeithasol yw’r hyn sy’n rhoi hygrededd i'ch brand. Mae'n hanfodol os ydych yn ceisio perswadio darpar gwsmer i wneud rhywbeth gan y bydd pobl yn rhoi gwerth uwch i rywbeth sydd wedi’i argymell iddynt neu sydd wedi ei gymeradwyo gan eraill. Beth am gynnwys gair o ganmoliaeth ar eich tudalen lanio gydag enw ac, os yn bosibl, llun o bwy fu’n canmol?  Prawf cymdeithasol arall yw nifer y bobl sydd eisoes wedi ymuno â’ch gwasanaeth neu nifer y dilynwyr cyfryngau cymdeithasol sydd gennych.

 

Cyfleu’r gwerth

 

Er y dylai’r dudalen lanio fod yn drefnus ac wedi’i chynllunio ar gyfer testun cyfyngedig, mae'n bwysig eich bod yn cyfleu’r gwerth y bydd yr ymwelydd yn ei gael os ydynt yn cwblhau'r camau gweithredu a ddymunir. Peidiwch â chanolbwyntio ar yr hyn mae’r cynnyrch neu'r gwasanaeth yn ei wneud, ond yn hytrach, sut y bydd o fudd i'r darllenydd. Rhowch wybod iddynt beth yw’r gwerth iddynt a’r hyn byddant yn ei elwa o gwblhau eich galwad i weithredu. Gallech gynnig mwy o abwyd drwy gynnig treial neu ddisgownt am ddim. Fodd bynnag, peidiwch â gorlwytho’r ymwelydd. Cadwch yn glir, yn gryno ac i'r pwynt. Nid oes angen i chi restru pob mantais unigol i gadw diddordeb y defnyddiwr, dim ond y rhai allweddol! 

 

O ddilyn y cynghorion hyn, byddwch ar y trywydd iawn i greu tudalen lanio a fydd yn trosi cwsmeriaid rif y gwlith.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen