Ydych chi’n gwybod beth sy’n cael ei ddweud am eich busnes ar-lein?

 

Os nad ydych yn monitro’r sgwrs ddigidol sy’n digwydd am eich brand neu ddiwydiant, gallech fod yn methu allan ar gyfleoedd hanfodol i yrru ymwybyddiaeth, denu darpar gwsmeriaid a datblygu eich gwasanaeth cwsmeriaid.

 

Sut allwch chi ddarganfod beth mae pobl yn ei ddweud?

 

Mae gwrando cymdeithasol – neu fonitro’r cyfryngau cymdeithasol – yn ymwneud â’r ffordd rydych chi’n gwylio, adnabod ac olrhain yr hyn sy’n cael ei ddweud am eich busnes neu’ch cynnyrch/gwasanaethau ar-lein. Gall gwrando cymdeithasol sicrhau eich bod yn clywed y newyddion diweddaraf am eich diwydiant, am ddylanwadwyr allweddol yn y maes, am gyfleoedd i hyrwyddo’ch busnes a barn eich cwsmeriaid.

 

Wrth i gyfryngau cymdeithasol barhau i dyfu ac wrth i ddefnyddwyr leisio’u barn ac adolygiadau mwy mwy ar-lein mewn fforymau cymdeithasol, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r ffordd mae eich brand yn cael ei drafod. Yn ogystal â darparu mewnwelediadau allweddol i chi o’r ffordd mae eich cwsmeriaid yn gweld eich brand a’r ffordd mae eich diwydiant yn datblygu, gall gwrando cymdeithasol fod yn ffordd effeithiol o leihau niwed yng nghyd-destun adborth negyddol. Gall methiant i ymateb i sylwadau o’r fath eich gadael yn agored i feirniadaeth bellach ac enw drwg.

 

Ym mha ffordd gall eich busnes ddefnyddio gwrando cymdeithasol?

 

Monitro geiriau allweddol sy’n ymwneud â’ch busnes a’r diwydiant

 

Un ffordd bwysig i gychwyn olrhain sgyrsiau digidol yw monitro set o eiriau allweddol penodol sy’n ymwneud â’ch busnes, eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau, a’r diwydiant rydych yn rhan ohono. Gall hynny eich cynorthwyo i ddod o hyd i, a bod yn rhan o sgyrsiau pwysig gyda darpar gwsmeriaid neu gwsmeriaid presennol. Sylwch ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud er mwyn darganfod beth sy’n bwysig i’ch cynulleidfa a’r peth nesaf o bwys a fydd yn digwydd i’ch diwydiant. Bydd hynny’n helpu eich busnes i aros yn berthnasol yn ogystal â’ch cynorthwyo chi i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol a hirbarhaol gyda’ch cymuned ar-lein.

 

Monitro geiriau allweddol eich cystadleuwyr er mwyn manteisio ar gyfleoedd

 

Ffordd arall i dyfu eich busnes ac ymgysylltu â darpar gwsmeriaid yw monitro geiriau allweddol sy’n ymwneud â phroblemau neu rwystredigaethau penodol. Gall y rhwystredigaethau hyn fod mewn perthynas â chynnyrch neu wasanaeth cystadleuydd hyd yn oed. Trwy olrhain pethau megis “nid yw [y cystadleuydd] yn gwneud...” neu “nid ydw i’n gallu gwneud...” gallwch ymateb i ddarpar gwsmeriaid a chyfathrebu gwerth eich busnes a’r manteision sydd gennych i’w cynnig. Yn ogystal, gallwch ddefnyddio’r mewnwelediadau hyn i sicrhau bod eich busnes yn diwallu anghenion a disgwyliadau eich cynulleidfa darged wrth symud ymlaen.

 

Gwella eich gwasanaeth cwsmeriaid

 

Yn ogystal ag olrhain eich cystadleuwyr ac enghreifftiau lle nad ydynt wedi diwallu disgwyliadau eu cwsmeriaid, mae’n bwysig nad ydych yn dilyn hysbysiadau cadarnhaol mewn perthynas â’ch brand yn unig. Mae’n hollbwysig eich bod yn monitro pryd a ble mae cwsmeriaid yn postio adborth negyddol am eich busnes ar-lein. Bydd hynny’n rhoi cyfle i chi ymateb yn briodol, mynd i’r afael â’r mater yn brydlon a throi profiad niweidiol o bosibl yn enghraifft gadarnhaol o wasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel.

 

Deall a dod o hyd i’ch cymuned

 

Gall gwrando cymdeithasol ddarparu mewnwelediadau allweddol i chi o’r prif lwyfannau y mae pobl allweddol yn eich diwydiant yn eu defnyddio a lle mae eich cynulleidfa darged yn cyfathrebu ar-lein. Bydd hynny’n eich galluogi chi i neilltuo mwy o amser ac i roi mwy o sylw i’r llwyfannau hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar lwyfannau nad yw eich cwsmeriaid yn eu defnyddio. Adolygwch yr hyn mae eich cynulleidfa yn siarad amdano er mwyn deall beth sydd wir yn bwysig iddynt a’r hyn ddylai eich brand fod yn rhannu ar-lein.

 

Adnabod dylanwadwyr ac eiriolwyr

 

Cadwch i fyny gyda’r hyn sy’n cael ei drafod ar-lein er mwyn adnabod y dylanwadwyr yn eich diwydiant ac eiriolwyr eich brand. Mae’r ddau yn bwysig gan y gall datblygu perthnasoedd gyda dylanwadwyr gynyddu cyrhaeddiad ac ymwybyddiaeth o’ch busnes yn sylweddol, yn enwedig os ydynt yn cyfeirio at eich brand ar-lein neu’n ymgysylltu â chi mewn sgwrs. Achubwch ar bob cyfle i gyfathrebu â’r dylanwadwyr hyn er mwyn tynnu sylw at eich gwybodaeth o’r diwydiant a’ch credadwyedd. Mae adnabod a gwerthfawrogi eiriolwyr brand yn hollbwysig oherwydd gall y cwsmeriaid hyn ddarparu geirda ardderchog o’ch busnes a gweithredu fel math o ‘dystiolaeth gymdeithasol’ neu ddilysrwydd i ddarpar gwsmeriaid sydd heb gael eu hargyhoeddi eto.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen