Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Gorffennaf 2018, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Mae cael eich busnes i gyrraedd y brig ar Google yn gyflawniad mawr.

 

Os ydych chi’n gweithio mewn diwydiant cystadleuol neu eich bod chi’n ceisio cael gwefan eich busnes bach i gyrraedd safle uwch na’ch cystadleuwyr, gall fod yn rhwystredig meistroli’r byd o optimeiddio peiriant chwilio (SEO).

   

Dyma rai newidiadau ac awgrymiadau i’ch helpu chi guro eich cystadleuwyr o ran optimeiddio peiriant chwilio!

 

Talu mwy o sylw i’ch cynnwys

 

Ffordd hawdd i wneud yn siŵr bod eich gwefan yn cyrraedd safle uwch ar beiriannau chwilio yw ei diweddaru’n gyson â chynnwys newydd, creadigol a diddorol. Allech chi wella ansawdd neu faint i gynnwys rydych chi’n ei rannu?

 

Er na ddylech sbamio pobl â blogiau diddiwedd, ailadroddus, mae llawer yn haws i beiriannau chwilio fel Google eich rhoi chi mewn safle uwch os oes gennych chi gynnwys deniadol sy’n denu pobl i ddod yn ôl o hyd, ac sy’n gyfoethog o ran allweddeiriau sy’n ymwneud â’ch busnes.  

 

Datblygu strategaeth allweddeiriau

 

Peidiwch â gadael i’r gair ‘strategaeth’ godi ofn arnoch. Nid oes angen iddo fod yn gymhleth, mae angen i chi gael cynllun targedig sy’n tynnu eich cynlluniau marchnata a’ch gweithgareddau SEO at ei gilydd. Trwy wneud yn siŵr bod y rhain yn alinio, byddwch yn gallu cynhyrchu ymwybyddiaeth well o’ch safle a’ch busnes.

 

Dylai eich ymgyrchoedd marchnata cynlluniedig eich helpu chi i ffurfio eich allweddeiriau ac i’r gwrthwyneb. Trwy ddeall pam rydych chi’n defnyddio allweddeiriau penodol, byddwch chi’n gallu adolygu a gwneud newidiadau i’r rheiny sydd ddim yn gweithio cystal. Gallwch chi hefyd gymharu sut mae eich allweddeiriau’n cymharu i rai eich cystadleuwyr a gwneud newidiadau os bydd angen.

 

Ni ddylech orlenwi eich safle a’ch cynnwys ag allweddeiriau. Darllenwch yma ein blog ar gamgymeriadau SEO y dylech eu hosgoi bob amser.

 

Gwyliwch weithgarwch SEO ar y safle cystadleuwyr

 

Beth maen nhw’n ei wneud yn dda nad ydych chi eisoes yn ei wneud?

 

Dechreuwch trwy adolygu allweddeiriau cystadleuwyr, y maeth o gynnwys y maen nhw’n ei rannu a pha mor rheolaidd y maen nhw’n diweddaru’r safle. Trwy fonitro eu gweithgarwch yn rheolaidd, byddwch yn sylwi os byddan nhw’n gwneud unrhyw newidiadau mawr. Trwy wneud hyn, efallai y gallwch ragweld strategaeth newydd neu fwy effeithiol yn eich sector. 

 

Efallai y byddwch yn penderfynu edrych y tu hwnt i’ch cystadleuwyr hefyd, i geisio ysbrydoliaeth ac arweiniad gan y busnesau rydych chi’n ceisio cyrraedd eu twf. Bwrwch olwg ar beth maen nhw’n ei wneud â’u gwefan ac ystyriwch sut gallai hyn drosi i’ch busnes chi.

 

Ceisiwch y newyddion diweddaraf am SEO

 

Mae’r tirlun SEO yn newid yn barhaus. Os ydych chi eisiau bod y tu blaen i’ch cystadleuwyr o ran tueddiadau neu dechnegau newydd, bydd angen i chi ddod yn gyfarwydd â gwirio’r newyddion ar gyfer diweddariadau ynghylch sut mae SEO yn newid.

 

Dilynwch y cyfrifon perthnasol ar-lein, sefydlwch ddiweddariadau awtomataidd am dermau SEO penodol ar-lein, neu neilltuwch amser i ddarllen am dueddiadau SEO newydd yn rheolaidd.

 

Bydd dod i’r arfer hwn yn eich helpu chi i weithredu’n gynt na’ch cymheiriaid i wneud yn siŵr nad ydych chi ar ei hôl hi ond hefyd bod mewn safle da o ran y peiriannau chwilio!

 

I gael cymorth SEO mwy teilwredig, cofrestrwch ar gyfer gweithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau yn agos atoch chi.

Darganfyddwch ym mha safle mae Google wedi’ch gosod chi a beth ddylech chi fod yn ei wneud i wella eich safle. Trefnwch le nawr

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen