Gall symud i’r cwmwl fod yn gyfle gwych ar gyfer busnesau bach, gan gynnig model ‘talu wrth fynd’, mwy o hyblygrwydd a mynediad at y dechnoleg a’r gefnogaeth ddiweddaraf. Fodd bynnag, gall y trawsnewidiad o’r traddodiadol i ddewisiadau cwmwl fod yn heriol os nad ydyn nhw’n cael eu rheoli yn effeithiol.

 

Darllenwch 11 o’n prif awgrymiadau er mwyn gwneud mudo llwyddiannus mor esmwyth ag sy’n bosibl

 

Datblygu ein nodau busnes eglur

 

Dechreuwch drwy ddeall eich nodau busnes a sut y gall TG gefnogi’r rhain. Bydd hyn yn eich rhoi chi mewn gwell sefyllfa i benderfynu ai’r cwmwl yw’r dewis gorau ar eich cyfer chi a sut y byddwch chi mewn gwirionedd yn ei ddefnyddio.

 

Nodi cyfleoedd ar gyfer defnyddio’r cwmwl

 

Meddyliwch ynglŷn â’r cymwysiadau neu’r prosesau posibl y gellid eu symud i’r cwmwl yn eich busnes chi. Er enghraifft, a ydych chi ar fin uwchraddio cymhwysiad cyn bo hir neu a oes maes newydd o’r busnes a allai gael budd o’r cwmwl? Wrth i chi ddechrau yn y lle cyntaf, mae’n gwneud synnwyr i nodi’r meysydd risg isel ar gyfer eu mudo yn gyntaf, fel y gallwch chi ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiad wrth i chi fynd, cyn i chi symud ymlaen at brosiectau mudo mwy.

 

Deall y tri model o wasanaeth cyfrifiadura cwmwl

 

Darllenwch am y mathau o fodelau cwmwl sydd ar gael i chi. Y rhain yw Meddalwedd fel Gwasanaeth (MfG) sy’n cynnig cymwysiadau a chyfresi o feddalwedd parod ar-lein; Platfform fel Gwasanaeth (PfG) sy’n darparu offer a chydrannau ar-lein ar gyfer datblygu cymwysiadau; ac Isadeiledd fel Gwasanaeth (IfG) sy’n cynnig adnoddau cyfrifiadura fel gweinyddion rhithwir a storio data.

 

Ymchwilio i’ch dewisiadau

 

Mae llawer o ddewisiadau cwmwl ar gael i fusnesau, ac felly sicrhewch eich bod yn chwilio am y fargen orau. Cloriannwch y ffactorau pwysig fel anghenion eich busnes, y gost, cefnogaeth dechnegol, diogelwch, telerau’r gontract ac unrhyw wybodaeth arall a all effeithio ar eich busnes yn awr neu wrth i chi ddatblygu yn y dyfodol.

 

Nodi’r buddion cost

 

Meddyliwch ynglŷn â’r gwir fuddion cost o symud rhannau o’ch busnes neu eich busnes i gyd i’r cwmwl. Bydd hyn angen i chi adolygu costau’r gwerthwr cwmwl posibl, ond yn ogystal y costau cysylltiedig yr ydych chi’n debygol o’u talu wrth symud. Gallai hyn gynnwys cynnal a chadw, uwchraddio’r rhaglenni, adnoddau mewnol a symud data. Fodd bynnag, gallwch chi gymryd yr amser hwn yn ogystal i ystyried y buddion y gallwch chi gasglu yn gyfnewid, fel arbed arian ac amser, gwella effeithiolrwydd a hybu cynhyrchiant.

 

Creu strategaeth ar gyfer mudo i’r cwmwl

 

Unwaith yr ydych chi wedi penderfynu ar ‘beth’ a ‘lle’, rydych chi angen meddwl ynglŷn â ‘sut’. Dylai eich cynllun ar gyfer symud i’r cwmwl nodi cyfnodau amlwg er mwyn sicrhau bod pob cam o’r symudiad yn cael ei ddefnyddio yn gywir, cyn symud yn rhy bell yn y broses a gweld problemau a allai fwrw’r mudo llwyddiannus i’r cwmwl oddi ar y cledrau.

 

Ystyriwch yr anghenion integreiddio

 

Fel y crybwyllwyd o’r blaen, mae’n bwysig bod eich ateb newydd, sy’n seiliedig ar gwmwl, yn gallu integreiddio â’r systemau mewnol sydd gennych chi’n barod. Fodd bynnag, mae’n hanfodol yn ogystal i feddwl am yr atebion cwmwl yr ydych chi’n debygol o’u cael yn y dyfodol hefyd. Mae Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (RhRhC) yn chwarae rhan gynyddol bwysig mewn galluogi integreiddio o’r fath.

 

Dod o hyd i gytundeb lefel gwasanaeth priodol (CLG)

 

Wrth brynu gan ddarparwyr gwasanaeth cwmwl, mae’n rhaid i chi un ai dderbyn eu CLG safonol neu geisio cytuno ar amrywiad ar hyn. Os ydych chi’n dibynnu ar gyfrifiadura cwmwl ar gyfer rhannau hanfodol o TG eich busnes, yna mae darparwr dibynnol yn hanfodol. Fel arall, gallwch chi drafod CLG sy’n cynnwys cosbau sylweddol am beidio â chyflawni’r lefel cytunedig o wasanaeth.

 

Sefydlu perchnogaeth y data

 

Mae’n bwysig eich bod chi’n ystyried sut yr ydych chi’n storio’r data yn y cwmwl, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion cydymffurfio. Dylech chi sefydlu beth sy’n digwydd i’ch data os yw cytundeb gwasanaeth yn cael ei derfynu, neu pe byddai busnes y darparwr yn dod i ben. Peidiwch ag anghofio i brofi eich copiau wrth gefn o’r cwmwl a pheidiwch â chymryd yn ganiataol y byddan nhw’n gweithio!

 

Nodi galluogrwydd diogelwch

 

Rydych chi’n debygol o fod yn storio data busnes pwysig yn y cwmwl, ac felly sicrhewch fod eich darparwr dewisedig yn cynnig llawer o’r lefelau diogelwch sydd eu hangen, gan gynnwys rheolaeth adnabod, rheolaeth mynediad, awdurdodiad a dilysiad.

 

Penderfynu ar eich strategaeth ymadael

 

Fel gydag unrhyw ddarn arall o feddalwedd yr ydych chi’n ei ddefnyddio, mae’n bwysig darganfod yn syth sut y byddwch chi’n cael eich data yn ôl gan ddarparwr trydydd parti pe baech chi’n penderfynu gadael, neu os yw busnes y darparwr yn dod i ben. Bydd hyn yn helpu i osgoi cael eich cloi mewn contract drwy sefydlu pa mor hawdd y gallwch chi adael, a oes unrhyw gostau ynghlwm a hyn a pha mor hir y bydd yn ei gymryd.

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen