Does dim angen cyllideb fawr i greu gweithgaredd marchnata digidol effeithiol a’i ddosbarthu. 

Mae llawer o dactegau sydd am ddim neu sy’n gost-isel y gallwch chi eu defnyddio i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o frand, denu cwsmeriaid newydd neu gadw rhai presennol a rhoi hwb i werthiannau. 

Laptop with patterned screen up and wording

 

Dyma 8 o hoff dechnegau marchnata digidol cost-isel Cyflymu Cymru i Fusnesau 

Marchnata drwy e-byst 

Mae marchnata drwy e-byst yn dacteg wych ar gyfer busnesau o bob maint, sy’n dal i gynnig yr opsiwn gorau pan ddaw i fuddsoddiad gan fusnesau bach. Mae datblygu cylchlythyron e-byst effeithiol neu e-byst marchnata awtomatig yn ffordd wych o gadw cysylltiad rheolaidd gyda’ch dilynwyr a’ch cwsmeriaid. Bydd cyfathrebu rheolaidd â’ch cynulleidfa yn eich helpu i gadw eich brand chi yn eu pennau, datblygu perthnasoedd hir dymor a chynyddu cyfleoedd i werthu mwy a chroeswerthu.  

Mae Mailchimp yn ddewis poblogaidd ar gyfer marchnata e-byst. Os ydych chi’n newydd i hyn oll, gall y fersiwn am ddim eich helpu i gychwyn arni. Mae’r fersiwn am ddim yn cynnig hyd at 500 o gysylltiadau ac anfon  hyd at 2500 o e-byst y mis, ynghyd â llawer o opsiynau eraill y bydd eu hangen arnoch i ddechrau wrth i chi sefydlu eich cronfa ddata. Mae’n werth gwneud y buddsoddiad yn yr hir dymor i ehangu eich cronfa o gwsmeriaid. Mae Mailchimp yn cynnig opsiynau uwch hefyd, ar gyfer yr effaith orau.  

Cynnwys campus!  

Cynnwys gwych, rheolaidd a pherthnasol fydd yn sicrhau y bydd eich cwsmeriaid yn dychwelyd o hyd i’ch gwefan a’ch busnes. Boed yn erthyglau sy’n rhoi cyngor, darnau o ymchwil, newyddion neu ddiweddariadau, bydd cynnwys defnyddiol sy’n tanlinellu eich arbenigedd neu’r newyddion yn eich maes busnes yn ychwanegu mwy o werth at daith y cwsmer, gan sicrhau bod eich gwefan a’ch sianeli cymdeithasol o hyd yn gyfoes ac yn berthnasol. Mae offerynau gwych am ddim y gallwch chi eu defnyddio i ddilyn y diweddaraf yn eich maes, fel gosod hysbysiadau Google er enghraifft.  

Bydd hyn yn rhoi cynnwys perthnasol a hwylus sy’n seiliedig ar eiriau allweddol o’ch dewis. Nid yn unig y bydd hyn yn denu ymwelwyr, ond bydd yn rhoi deunydd gwych ar gyfer eich proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau marchnata e-byst, gan helpu eich busnes i godi’n uwch yn awgrymiadau peiriannau chwilio. 

Byddwch yn weladwy gyda fideos 

Beth am roi cynnig ar greu fideos llawn gwybodaeth neu arddangos i helpu eich cwsmeriaid? Y dyddiau hyn, mae darpar gwsmeriaid yn hoffi gweld y brand y tu ôl i’r camera. Mae fideos y tu ôl i’r llenni a ‘sut i’ yn ennyn diddordeb y bobl sy’n eu gwylio. Daeth hyn yn fwy amlwg byth pan ddaeth y pandemig ac, yn sydyn, bu’n rhaid i fusnesau symud ar-lein. Dyma pryd y daeth llwyfannau fel TikTok i fod yn llwyfannau gwych i fusnesau, wrth i’r ddemograffeg ar gyfer y math hwn o sianel gynyddu’n gyflym drwy gydol Covid. Gellir creu cynnwys fideos am ddim ac yn rhwydd yn fewnol gan fod y rhan fwyaf o gynnwys fideos yn cael ei greu ar ddyfeisiau symudol a gellir ei addasu’n rhwydd drwy ddefnyddio apiau amrywiol.  

Byddwch yn gymdeithasol a rhowch gynnig ar rwydweithio 

Manteisiwch i’r eithaf ar y nifer gynyddol o rwydweithiau cymdeithasol i gysylltu â’ch cwsmeriaid, rhannu eich cynnwys a datblygu personoliaeth eich brand. Drwy drefnu diweddariadau rheolaidd, gallwch sicrhau bod gan eich busnes bresenoldeb amlwg ar-lein bob amser, hyd yn oed yn ystod cyfnodau gweithio prysur. Mae llawer o offerynnau trefnu ar gael yn rhad neu am ddim, gan ddibynnu ar sawl sianel sydd gennych chi ar y cyfryngau cymdeithasol, megis Hootsuite. Mae’n bwysig cofio nad oes rhaid i’ch busnes chi fod ar bob un sianel ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Os nad yw eich cynulleidfa chi’n debygol o ddefnyddio sianel mewn perthynas â’ch math chi o fusnes, does dim pwynt cael cyfrif segur. Er enghraifft, os oes gennych chi fusnes ffotograffiaeth, bydd eich cynulleidfa darged fwy na thebyg ar lwyfan fel Instagram. Ar y llaw arall, os ydych chi’n fusnes sy’n cynnig newyddion bydd y rhan fwyaf o’ch cynulleidfa darged fwy na thebyg ar Twitter.  

Ailgylchwch hen gynnwys 

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i syniadau newydd am gynnwys, gallech chi ystyried ffyrdd creadigol o ailddefnyddio’r cynnwys sydd eisoes gennych chi. Gallech chi droi ymchwil yn ffeithlen, creu fideo sy’n seiliedig ar gynnwys mewn hen erthygl (cyhyd â’i fod yn berthnasol o hyd) neu ystyried ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfa ehangach i’ch cynnwys. Mae’n annhebygol y bydd eich holl gwsmeriaid wedi gweld eich cynnwys presennol, yn enwedig wrth gofio’r holl algorithmau ar lwyfannau cymdeithasol, felly mae digon o gyfleoedd i fod yn graff ac yn ddyfeisgar!  

Meddyliwch am gynnwys sy’n fythol ddiddorol. Mae cynnwys bythol ddiddorol yn cyfeirio at gynnwys sy’n parhau i fod yn berthnasol. Dyma gynnwys sydd wedi’i optimeiddio i fod yn fythol berthnasol i ddarllenwyr. Mae hefyd yn gynnwys nad yw’n sensitif o ran amser neu’n dymhorol iawn. Er enghraifft, bydd blogiau marchnata digidol bob amser yn berthnasol oherwydd bod bob amser angen amdano, ond fyddai cynnwys sy’n ymwneud â Covid-19 ddim yn cael ei ystyried i fod yn gynnwys bythol ddiddorol.  

Gwneud y gorau o awgrymiadau cwsmeriaid  

Mae llafar gwlad yn ffordd bwerus o dyfu busnesau oherwydd gall yr argymhellion hyn, am ddim, helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ac ysgogi gwerthiant. Hefyd, bydd pobl yn cymryd yr argymhellion hyn ac yn dechrau gwneud ymchwil ar sail adolygiadau a chymeradwyaeth. Mae’n bwysig annog eich cwsmeriaid presennol a gorffennol i roi adolygiad ar Google, Facebook etc. Wrth feddwl am gadw cwsmeriaid presennol a denu rhai newydd, mae creu rhaglen atgyfeirio’n ddull defnyddiol. Gallech chi annog cwsmeriaid i rannu e-bost neu ddolen gyda’u ffrindiau er mwyn i’r ddau ohonoch chi gael gostyngiad neu anrheg pan fydd y darpar gwsmer yn troi’n gwsmer go iawn. Y dyddiau hyn, mae gan lawer o fusnesau gynlluniau atgyfeirio/ffyddlondeb.  

Cynnwys a grëir gan ddefnyddwyr 

Anogwch eich cwsmeriaid i rannu eu lluniau, eu hadolygiadau a’u fideos nhw drwy eich gwefan neu’ch cyfryngau cymdeithasol. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o’r busnes ymhlith eu cylchoedd nhw o ddilynwyr a ffrindiau, mae’n cynnig cynnwys gwych a grëir gan ddefnyddwyr y gallwch chi, gyda’u cydsyniad nhw, ddefnyddio i ddangos eich cynnyrch neu’r gwasanaeth wrthi’n cael ei ddefnyddio. Mae’r gymeradwyaeth bywyd go iawn hon yn gweithredu fel argymhelliad gwych ar-lein arall i annog darpar gwsmeriaid. 

Partneriaethau a chydweithio 

A oes cyfle i chi weithio mewn partneriaeth neu gydweithio â busnesau eraill yn eich maes neu mewn sectorau perthynol? Er y gallai fod yn wrthreddfol, os ydych chi’n dewis y busnes iawn i weithio gyda chi, gallech chi helpu i drawshyrwyddo’r ddau fusnes a chynyddu gwerthiannau i’r ddau ohonoch chi. Gallech chi gynyddu eich twf mewn gwerthiannau drwy godi eich proffil yn y maes, cyrraedd cynulleidfa newydd sbon a chynyddu ymwybyddiaeth o’ch busnes.  

Mae cydweithio a rhoi cymeradwyaeth wedi dod yn arferol ar lwyfannau megis Instagram, yn aml ar ffurf pobl enwog a phartneriaethau â thâl. Mae brandiau’n defnyddio wynebau adnabyddus i gymeradwyo eu brandiau. Yn amlwg, nid yw opsiynau fel hyn ar gael i fusnesau bach ond gallai gydweithio â chyflenwyr, er enghraifft, ledaenu’r neges yn y ddwy ffordd. Wedi’r cwbl, heb gyflenwyr, sut byddai eich busnes chi yn cyflawni’r cynnyrch/gwasanaethau? Meddyliwch am y gwerth maent yn ei ychwanegu i’ch cynnyrch/gwasanaeth ac arddangoswch hynny.  

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen