Heb os, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy na dim ond ffasiwn fyrhoedlog – ac nid oes golwg o hyn yn pallu ychwaith. Gan dyfu 10% rhwng Ionawr 2015 a 2016, mae nifer defnyddwyr gweithgar y cyfryngau cymdeithasol bellach dros 2.3 biliwn (WeAreSocial).

Er bod lle a diben o hyd yn y tirlun marchnata presennol i ddulliau marchnata traddodiadol, fel hysbysebu mewn print a phost uniongyrchol:

Byddai anwybyddu’r cyfryngau cymdeithasol yn drychineb i fusnesau o unrhyw faint sy’n gweithredu mewn oes ddigidol

Pam ddylai fy musnes ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?

Dod i adnabod eich cwsmeriaid – Dysgwch beth sydd o ddiddordeb i’ch cynulleidfa, sut maen nhw’n ymddwyn ar-lein ac ennill gwybodaeth bwysig y gallwch ei defnyddio i ateb eu hanghenion yn well.

Tyfu eich busnes trwy gyrraedd cynulleidfa ehangach – Gallwch ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol nid yn unig i ymgysylltu a meithrin perthynas â chleientiaid presennol, ond ymestyn allan i gynulleidfaoedd newydd hefyd.

Gwella gwasanaeth cwsmeriaid – Mae defnyddwyr bellach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â brandiau a gallai methu ag ymgysylltu â’ch cwsmeriaid ar y llwyfan o’u dewis arwain at golli cyfleoedd trosi neu gyfleoedd i ddelio â chwynion cyn i chi golli rheolaeth arnynt. 

Creu ymwybyddiaeth brand – Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig llwyfan gwych arall i helpu i ddatblygu gwelededd eich brand ar-lein, yn ogystal â sefydlu eich hun yn eich diwydiant. 

Datblygu personoliaeth brand – Gall llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol, fel Twitter neu Instagram, fod yn ddulliau gwych ar gyfer rhoi llais, delwedd a phersonoliaeth i’ch brand. Trwy ddewis eich naws ac arddull cyfathrebu, gall defnyddwyr ennill dealltwriaeth well o’ch brand. 

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn gwych ar gyfer busnes, ac mae’n debygol bod eich cwsmeriaid eisoes yn ymwneud ar-lein – ond a ydych chi’n gwybod pa lwyfannau maen nhw’n eu defnyddio, neu beth yw’r ffyrdd gorau o gyfathrebu â nhw? 

Sut gallaf i ddod o hyd i leoliad fy nghynulleidfa ac ymgysylltu â nhw’n effeithiol?  

Deall eich cynulleidfa darged – Cyn i chi ddechrau rhoi negeseuon ym mhobman, mae’n bwysig ystyried demograffeg eich cynulleidfa. Datblygwch ddealltwriaeth glir o bwy sy’n defnyddio’ch busnes trwy ddewis set o briodweddau a nodweddion penodol (fel oedran, rhyw, lleoliad a galwedigaeth). Gall y wybodaeth helpu i chi benderfynu ble mae eich cynulleidfa yn debygol o fod yn ymgysylltu ar-lein a’r math o gynnwys a fydd o ddiddordeb iddi. 

Sefydlu proffiliau – Nid oes angen i’ch busnes fod yn bresennol ar holl lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol, dim ond y rhai a fydd o fudd penodol i’ch cwsmeriaid a’ch busnes. Ar ôl i chi benderfynu pa lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol sy’n fwyaf perthnasol, sicrhewch fod eich proffiliau’n cynnal hunaniaeth ar-lein gyson. Gallai hyn gynnwys dewis enw defnyddiwr perthnasol, cynnwys gwybodaeth gyswllt bwysig a sicrhau bod brandio’n cael ei ddefnyddio’n briodol.  

Cymryd rhan – Beth mae eich cynulleidfa yn siarad amdano? Os oes newyddion pwysig, tueddiadau allweddol neu bynciau llosg yn eich diwydiant, mae gennych y cyfle perffaith i gymryd rhan mewn trafodaethau sydd eisoes yn digwydd. Chwiliwch am allweddeiriau neu hashnodau ar y llwyfan o’ch dewis a cheisiwch ychwanegu gwerth at y sgwrs. 

Gwrando cymdeithasol – Treuliwch amser yn adolygu sut mae pobl eisoes yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â’ch busnes. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio’ch gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol wrth fynd ymlaen. Dylai gwrando cymdeithasol fod yn weithgaredd rheolaidd, oherwydd bydd yn caniatáu i chi ymateb i ymholiadau, sylwadau, adborth a chwynion cwsmeriaid mewn modd amserol ac effeithiol. 

Annog sgwrs – Pan fyddwch wedi datblygu eich llwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr bod eich cwsmeriaid yn gwybod ymhle y gallant ymwneud â chi. Er enghraifft, gallwch gynnwys botymau cyfryngau cymdeithasol yn eich marchnata drwy’r e-bost, creu eich hashnod eich hun, neu annog cwsmeriaid i rannu eu barn, eu hadborth a’u ffotograffau gyda chi ar gyfryngau cymdeithasol. Dyma ffordd wych o ddatblygu cysylltiadau â chwsmeriaid a gwneud defnydd da o gynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr. 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen