Max Munday

Max Munday

Max yw Cyfarwyddwr yr Uned Ymchwil i Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd a Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr yng Nghaerdydd. Mae’n canolbwyntio ar bolisi rhanbarthol, datblygu economaidd rhanbarthol, ac economeg menter rhyngwladol.

Mae Max yn cydweithio’n glos â nifer fawr o sefydliadau Cymreig ac mae ar hyn o bryd yn arwain prosiect ymchwil pwysig gyda Llywodraeth Cymru i adolygu sut mae BBChau yn manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn. Un o’r prif gyflawniadau yw’r Arolwg Aeddfedrwydd Digidol, sy’n mesur y niferoedd sy’n manteisio ar fand eang a gwasanaethau sy’n cael eu galluogi gan fand eang, a’r canlyniadau sy’n deillio o hynny i fusnesau unigol ac i’r economi.