Catrin Williams

Mae Catrin wedi bod yn gynghorydd busnes ers dros 20 mlynedd, ac wedi gweithio gydag ystod o gwmnïau cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar gyllid a chyfrifyddu a phob agwedd o farchnata. Mae ei meysydd arbenigol yn cynnwys marchnata digidol a chyfryngau cymdeithasol, gyda phrofiad sector penodol yn niwydiannau twristiaeth a lletygarwch, manwerthu ar-lein yn ogystal â bwyd a diod.