Rhestr wirio ar gyfer cynllunio ac integreiddio system TG
Wrth gynllunio’ch systemau TG gallwch wella’ch gwaith cyfathrebu a galluogi pobl i weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol. Serch hynny, dylech gynllunio’n ofalus cyn cychwyn arni er mwyn gwneud yn siŵr y bydd eich system newydd yn cwrdd â’ch anghenion.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- adnabod eich prosesau allweddol
- adnabod unrhyw gyfyngiadau yn eich system newydd
- canfod beth yw gofynion eich cwsmeriaid a’ch cyflenwyr
- deall y gwahanol ddewisiadau technegol, gan geisio cyngor arbenigol annibynnol os bydd angen
- asesu costau a manteision pob dewis, yn cynnwys y rhai hirdymor neu a all fod yn guddiedig
- ystyried rhai cyfyngiadau fel sgiliau TG eich cyflogeion a’ch cyllideb
- paratoi briff trylwyr ar gyfer eich cyflenwyr posib
- paratoi cynllun wrth gefn, yn enwedig os ydych ynghlwm ag un cyflenwr penodol, rhag ofn y cyfyd unrhyw broblemau
- llunio cytundeb clir gyda chyflenwyr ar ganlyniad y datrysiad
- gwirio a yw’r cytundeb yn cynnwys cymorth parhaus gan y cyflenwyr
- penderfynu a fyddai’n well gennych weithredu’n raddol neu ar unwaith
- creu cyllideb realistig, yn cynnwys adnoddau ar gyfer hyfforddiant
- gosod amserlen realistig, yn cynnwys amser i brofi
- caniatáu ar gyfer unrhyw gostau neu oedi annisgwyl
- cynllunio sut y byddwch yn cynnwys cyflogeion a goresgyn unrhyw wrthwynebiadau i newid
- caffael yr arbenigedd i reoli’r prosiect – e.e. drwy hyfforddiant rheoli prosiect neu drwy gyflogi ymgynghorydd