2020: Blwyddyn Awyr Agored Cymru

2020 yw ein gwahoddiad i ymwelwyr a thrigolion Cymru i ddathlu'r gorau o’r awyr agored. Rydyn ni'n gofyn i bobl 

  • ddod i aros yn ein gwestai, ein gwersylloedd a'n bythynnod. 
  • agor eu drysau a darganfod atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd nad ydynt wedi'u profi eto. 

Rydym yn annog ymweliadau â gwahanol gorneli o'r wlad drwy gydol y flwyddyn, gan y gallwch deimlo’n dda mewn unrhyw dymor. 

Mae profiadau awyr agored wedi bod wrth wraidd teithio byd-eang erioed. Heddiw, mwy nag erioed o’r blaen, rydym yn datblygu ymwybyddiaeth o'r cysylltiadau rhwng ein profiad o deithio, y dirwedd a'n naws am le. P'un ai ydym ni'n meddwl am ddylunio mewnol, iechyd a lles neu fwyd, rydyn ni'n "mwynhau’r awyr agored". Wrth wneud hynny, rydyn ni'n ennill gwell dealltwriaeth o'n lles meddyliol a chorfforol, ac o fanteision cysylltiad cryf â natur a'r awyr agored.

Yng Nghymru, bu perthynas gynhenid erioed rhwng pobl a'r awyr agored. Nid yn unig mae’n tirweddau yn ysbrydoledig; maent wedi'u trwytho yn hanes byw iaith a diwylliant hynafol. Mae’r emosiynau cynhyrfus a gaiff eu hysgogi gan awyr agored Cymru wedi ysbrydoli ein beirdd, ein llenorion a'n hartistiaid ers canrifoedd.

Am fwy o ysbrydoliaeth, lawrlwythwch eich copi o ganllaw i’r diwydiant ar gyfer Blwyddyn yr Awyr Agored
 

Ethos a negeseuon yr ymgyrch

Y prif gysyniad sydd wrth wraidd ymgyrch Blwyddyn yr Awyr Agored yw fod Cymru’n wlad sy’n cynnig “croeso heb furiau”. Yr Awyr Agored Arbennig.

Prif nod yr ymgyrch yw cyflwyno’r Gymru go iawn. Nid dim ond yr hyn a gynigir i dwristiaid ond hefyd y croeso a’r ymdeimlad o gymuned, gan gysylltu’r awyr agored ag Iechyd a llesiant. Bydd digwyddiadau diwylliannol hefyd yn rhan fawr o ymgyrch eleni.

Mae’r geiriau Dyma Gymru. Dyma Groeso yn cael eu defnyddio er mwyn ysbrydoli pobl i “ymweld â’r Gymru go iawn”. Mae ‘Dyma groeso’ yn cynnig posibiliadau di-ri – croeso i bobl fanteisio ar lety, cynhyrchion, gweithgareddau a thirweddau tra’u bod yng Nghymru. 

Cafodd y flwyddyn ei lansio ar 1 Ionawr, a chafodd yr hysbyseb newydd ei dangos ar y teledu a fideos ar alw.