Arwyddion Brown a Gwyn

Llywodraeth Cymru a'i Gweinidogion sy'n gyfrifol yn uniongyrchol am draffyrdd a chefnffyrdd Cymru. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am yr holl ffyrdd eraill yng Nghymru.

Beth yw'r arwyddion twristiaeth?
Mae arwyddion twristiaeth yn arwyddion brown unigryw â thestun gwyn arnynt ac fe’u defnyddir i gyfarwyddo gyrwyr i gyrchfan yn ystod camau olaf eu taith.

Sut y diffinnir cyrchfan i dwristiaid?
Mae cyrchfannau i dwristiaid yn atyniadau neu gyfleusterau (e.e. sefydliadau llety, darparwyr gweithgareddau, bwytai, ayyb).
 

Os yw eich cyrchfan i dwristiaid yn atyniad, mae angen ichi ddarganfod a yw'n gymwys i gael arwyddion twristiaeth o'r gefnffordd neu'r draffordd.

Mae'n bosibl bod cyfleusterau yn gymwys i gael arwyddion o'r gefnffordd hefyd.
Darllenwch y gyfres ganlynol o gwestiynau, ynghyd â'r siart lif a'r tabl sy’n dangos y costau tebygol ac yna cwblhewch y rhestr wirio fer cyn penderfynu a ddylid cyflwyno ffurflen gais ffurfiol.

A yw'r cyrchfan yn cael ei gydnabod gan Croeso Cymru ac yn cymryd rhan yn ei gynllun sicrhau ansawdd neu gynllun tebyg sy'n briodol i'r cyrchfan?

  • I fod yn gymwys i gael arwydd twristiaeth, rhaid i bob cyrchfan i dwristiaid gael ei gydnabod gan Croeso Cymru.
  • Rhaid i atyniadau i dwristiaid gymryd rhan yng Nghynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr Croeso Cymru.
  • Rhaid i gyfleusterau gymryd rhan mewn Cynllun Sicrhau Ansawdd priodol Croeso Cymru neu gynllun cyfwerth sy'n cael ei gydnabod gan Croeso Cymru.

A oes modd cael mynediad yn uniongyrchol i'r cyrchfan o'r gefnffordd?

  • Gan ddefnyddio'r map a'r wybodaeth yn y tabl hwn, nodwch y gefnffordd sydd agosaf i'r cyrchfan. Dim ond os bodlonir y meini prawf cymhwysedd ac os yw'r Awdurdod Priffyrdd Lleol yn cytuno i ddarparu arwyddion ar y ffordd sirol y darperir arwyddion o'r gefnffordd. Dim ond os yw'r cyrchfan yn llai na 6 milltir o'r gefnffordd neu 10 milltir o draffordd y darperir arwyddion ar ei gyfer. Dim ond atyniadau sy'n cael arwyddion o'r draffordd.
  • Noder os mai ffordd sirol sy'n arwain at gyrchfan (h.y. ffordd nad yw wedi'i ddangos ar y map), dylid cyflwyno'r cais cychwynnol i'r Awdurdod Priffyrdd Lleol.

A oes digon o bobl yn ymweld â'r atyniad?

  • Ffactor allweddol o ran penderfynu a yw atyniad yn gymwys i gael arwydd twristiaeth yw nifer y bobl sy'n ymweld ag ef bob blwyddyn. Mae'r tabl hwn yn rhoi manylion ynghylch isafswm yr ymwelwyr sy'n gorfod ymweld ag atyniad er mwyn iddo fod yn gymwys i gael arwydd o fath penodol o gefnffordd. Mae'r isafswm hwn hyd yn oed yn llai ar gyfer atyniadau yr ydych yn eu cyrraedd drwy Lwybr Tymhorol i Dwristiaid. Mae'r map yn nodi'r llwybrau hyn.
  • Nid yw isafswm ymwelwyr yn berthnasol i gymwysterau ond ystyrir llif traffig, maint y busnes, ayyb.

A oes digon o fannau parcio ar y safle?

  • Dylid darparu parcio digonol mewn atyniadau ar gyfer ceir ac, os oes angen, ar gyfer minibysiau a choetsys. Fel arall, dylid darparu digon o fannau parcio gerllaw a hynny gyda caniatâd gweithredwr y maes parcio.

Mae'n bwysig nodi na fyddwch yn gymwys yn awtomatig i gael arwyddion twristiaeth os ydych yn bodloni’r meini prawf. Rhaid ystyried sawl ffactor arall megis arwyddion presennol, a oes lle ar gyfer arwyddion newydd a diogelwch ar y ffyrdd. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau terfynol ynghylch darparu arwyddion o'r fath. 
 

Nid oes cost am wneud y cais cychwynnol am arwydd twristiaeth i Lywodraeth Cymru. 

Yn dilyn derbyniad a chytundeb mewn egwyddor o’r cais, bydd rhaid i astudiaeth ddichonoldeb cychwynnol gael ei chynnal gan ein hasiant cefnffyrdd. Pwrpas yr astudiaeth yw canfod a all yr arwyddion arfaethedig gael eu lleoli ar ddarn penodol o’r gefnffordd ac i ddatblygu amcangyfrif o’r gost o adeiladu’r pecyn arwyddion traffic yn ei gyfanrwydd. Bydd cost yr astudiaeth ddichonoldeb rhwng £3,000 hyd at £10,000 ac yn ddibynadwy ar ddosbarth y ffordd y mae’r arwyddion yn cael eu lleoli a’r nifer o arwyddion a ofynnir amdanynt. Bydd y dichonoldeb yn cynnwys, fel a ganlyn:

  • Cynllun amlinellol a dyluniad yr arwydd, yn cynnwys cynhyrchiad o luniad wynebol yr arwydd
  • Sgrinio amgylcheddol 
  • Sgrinio geodechnegol
  • Asesiad ataliaeth ffordd gychwynnol.

Nid yw’r rhestr uchod yn drwyadl gan fod gwahanol leoliadau efallai angen ymchwiliadau ychwanegol. Os yw’r ymgeisydd yn hapus gyda’r amcangyfrif, bydd cost y dichonoldeb yn cael ei chynnwys yn yr anfoneb derfynol. Os nad yw’r ymgeisydd eisiau parhau, byddai dal yn atebol am gost yr astudiaeth ddichonoldeb. 

Bydd angen i ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod cost cymudo yn cael ei chynnwys yn yr amcangyfrif. Pwrpas hwn yw ychwanegu at y gronfa o gostau cyfredol cynnal arwyddion. 

Mae ymgeiswyr fel arfer yn synnu at faint y mae arwyddion traffig yn costio oherwydd nad ydynt yn ymwybodol o'r holl waith sydd ynghlwm wrth eu gweithgynhyrchu a'u gosod.

Mae dadansoddiad syml o'r camau a gymerir i osod arwydd o fewn ffin y briffordd fel a ganlyn:

  • Dylunio Arwydd
  • Asesiadau Risg a Diogelwch ar y Ffyrdd
  • Gweithgynhyrchu Arwydd
  • Archwilio Safle
  • Rheoli Traffig (conau)
  • Sylfeini
  • Pyst
  • Gosod arwydd
  • Ffensys Diogelwch (os oes angen) 

Bydd y costau hefyd yn dibynnu ar natur y ffordd lle y bydd yr arwyddion yn cael eu gosod ac ar y pellter i'r cyrchfan. Mae arwyddion mwy o faint yn ofynnol ar ffyrdd cyflymder uchel megis ffyrdd deuol a'r draffordd. Bydd mwy o arwyddion yn ofynnol ar y rhwydwaith ffyrdd sirol os yw'r cyrchfan ymhellach i ffwrdd o'r gefnffordd.
Mae costau bras i'w gweld yn y tabl hwn i ganiatáu i ymgeiswyr benderfynu a yw arwyddion twristiaeth yn briodol ar gyfer eu busnes.
 

Os ydych yn ystyried gwneud cais am arwyddion twristiaeth, yn gyntaf dilynwch y siart lif a chwblhau’r rhestr wirio fer, i weld a yw eich busnes yn gymwys ac i ddeall y costau tebygol os byddwch yn llwyddiannus. 

Byddwch yn ymwybodol y bydd yr holl fanylion a ddarperir hyd yma yn cael eu rhannu â thîm Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac y byddant yn cynghori’n uniongyrchol am eu prosesau trin data a’u Hysbysiad Preifatrwydd yn y man cyswllt cychwynnol. 
 

Ble i gael rhagor o wybodaeth?

Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau ar y canllawiau neu'r cynlluniau sicrhau ansawdd, ac i ble y dylid cyflwyno eich ffurflenni cais: 

Llywodraeth Cymru
Croeso Cymru
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
Ceredigion.
SY23 3UR

Gwe: https://businesswales.gov.wales/tourism/cy/ser-graddio-ansawdd

Rhif Ffôn: 03000 622418

E-bost: Quality.tourism@llyw.cymru