Arddangosfeydd 2020/2021

Y Diwydiant Teithio a Digwyddiadau Busnes – Recriwtio

2020/21 Recriwtio arddangoswyr wedi'i hatal

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer hepgor y tâl am gyd-arddangos yn ein arddangosfeydd /digwyddiadau wedi cael eu hatal oherwydd sefyllfa presennol Covid-19.Oherwydd yr ansicrwydd presennol ynghylch â digwyddiadau, rydym wedi atal y cynllun peilot i gyd-arddangoswyr ar stondinau arddangos Croeso Cymru dros dro. Maes o law, unwaith i weithgareddau a chynlluniau ddod yn gliriach, byddwn yn eich hysbysu ar sut y byddwn yn gweithio’n agos gyda busenesau a sefydliadau y diwydiant teithio a phrynwyr digwyddiadau busnes yn ein marchnadoedd allweddol.
 


Bydd Croeso Cymru yn arddangos eto mewn amrywiol ddigwyddiadau yn ystod 2020/2021.  Isod mae’r digwyddiadau rydym wedi ymrwymo i ymweld â hwy ac rydym yn gwahodd cwmnïau y diwydiant yng Nghymru i arddangos ar y cyd â ni yn unol â’n cynllun gweithredu: Croeso i Gymru 2020 – 2025 – Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr

Ar gyfer tymor 2020/21, byddwn felly yn gweithredu cynllun peilot, ble na fydd cost ar gyfer lle i gyd-arddangos ar stondinau Cymru dan ofal Croeso Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb arddangos gyda ni bydd angen ichi 

  • gyflwyno ffurflen gais ar gyfer pob digwyddiad
  • bodloni ein meini prawf cymhwyster 
  • cytuno i’n telerau a’n hamodau 

Bydd panel asesu Croeso Cymru yn cynnwys aelodau staff sy’n arwain ar frand Cymru, cysylltiadau â diwydiant a marchnata yn gwerthuso bob cais i benderfynu pwy fydd yn gymwys a pha arddangoswyr ar y cyd ddylai fod yn bresennol.  Caiff y cyflenwyr eu hysbysu yn ysgrifenedig o’r penderfyniad.

Mae cyfyngu ar niferoedd yn y digwyddiadau.  Bydd Croeso Cymru yn anelu at sicrhau bod cydbwysedd rhwng cwmnïau rhanbarthol a chynnyrch ar y stondin.  Croeso Cymru fydd yn penderfynu pwy gaiff eu cynnwys.

Mae’r ffurflenni cais ar gyfer pob digwyddiad ar gael o dan y digwyddiad unigol.  Bydd angen ichi 

  • lofnodi a chyflwyno cais ar wahân ar gyfer pob digwyddiad yr hoffech fod yn bresennol ynddynt  
  • sicrhau bod eich ymateb yn dangos sut y bydd meini prawf a telerau ac amodau arddangos yn cael eu bodloni 
  • llofnodwch a dychwelwch un cytundeb o’r meini prawf cymhwyster, telerau ac amodau i bob cwmni/sefydliad

Dim ond un dogfen telerau ac amodau sydd angen ei dychwelyd. Nid oes angen dychwelyd yn ar gyfer pob digwyddiad.

Bydd yn rhaid i’r cwmni/sefydliad sy’n arddangos yn y digwyddiadau dalu y costau eraill i gyd gan gynnwys costau teithio a chynhaliaeth.

Bydd angen cadarnhad gan ddeiliad y gyllideb o gostau teithio a chynhaliaeth wedi’u cymeradwyo ar gyfer y cwmni/sefydliad a bydd angen cadarnhad gyda’r cais bod staff ar gael ar gyfer y digwyddiad er mwyn cyrraedd y cam gwerthuso.

Bydd angen dychwelyd yr holl ddogfennau uchod mewn e-bost at DigwyddiadauBusnesCroesoCymru@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau o dan bob digwyddiad.  Ni allwn dderbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno ar ȏl y dyddiad cau.
 

IMEX: 12–14 Mai 2020, Frankfurt, yr Almaen
Categori: Digwyddiadau Busnes 

Mae arddangos yn IMEX yn agor eich drws i benderfynwyr sydd â phŵer prynu profedig o amgylch y byd, gan gynnwys y farchnad werthfawr ar gyfer teithiau allan o’r Almaen. Gyda dros 7,500 o weithwyr proffesiynol o'r diwydiant cyfarfodydd a digwyddiadau yn mynychu, a thros 69,500 o gyfarfodydd yn cael eu cynnal, mae'r sioe yn croesawu dros 3,400 o arddangoswyr o'r DU a phedwar ban y byd, gan gynnwys gwestai, cwmnïau rheoli cyrchfannau, lleoliadau digwyddiadau, cwmnïau cymhellion, canolfannau cynadledda a chyflenwyr technoleg.   
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i fynychu oedd 6 Mawrth 2020.
 

 

Y Sioe Cyfarfodydd: 24–25 Mehefin, Olympia, Llundain
Categori: Digwyddiadau Busnes 

The Meetings Show yw'r Arddangosfa Digwyddiadau Busnes fwyaf yn y DU, lle mae'r diwydiant cyfarfodydd a digwyddiadau yn dod at ei gilydd am ddau ddiwrnod. Gyda dros 5000 o weithwyr proffesiynol o'r diwydiant cyfarfodydd a digwyddiadau yn mynychu, a thros 12,000 o gyfarfodydd yn cael eu cynnal, mae'r sioe yn croesawu dros 750 o arddangoswyr o'r DU a phedwar ban y byd, gan gynnwys gwestai, cwmnïau rheoli cyrchfannau, lleoliadau digwyddiadau, cwmnïau cymhellion, canolfannau cynadledda a chyflenwyr technoleg. 
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i fynychu oedd 6 Mawrth 2020.

 

World Travel Market: 2–4 Tachwedd 2020, Excel, Llundain
Categori: Y Diwydiant Teithio 

Mae World Travel Market yn rhoi'r platfform perffaith ar gyfer cwrdd â chwsmeriaid gweithredwyr/asiantiaid teithio, yn ogystal ag atgyfnerthu eich lle yn y diwydiant teithio. 
Yn ystod tri diwrnod mae World Travel Market yn Llundain yn croesawu dros 51,000 o ymwelwyr, gan gynnwys dros 9,000 o benderfynwyr allweddol sydd â phŵer prynu uniongyrchol, a thros 3,000 o newyddiadurwyr o bedwar ban y byd. Bydd bron 5,000 o gwmnïau yn cymryd rhan yn y sioe i arddangos eu cyrchfannau, eu cynhyrchion a'u gwasanaethau.  
 

 

IBTM World: 1–3 Rhagfyr 2020, Barcelona, Sbaen
Categori: Digwyddiadau Busnes 

IBTM World yw’r prif ddigwyddiad byd-eang ar gyfer y diwydiant cyfarfodydd a digwyddiadau, gyda phenderfynwyr sydd â phŵer prynu profedig yn dod o bedwar ban y byd. Gyda dros 15,000 o weithwyr proffesiynol o'r diwydiant cyfarfodydd a digwyddiadau yn mynychu, a thros 74,000 o gyfarfodydd wedi eu trefnu ymlaen llaw yn cael eu cynnal, mae'r sioe yn croesawu dros 2,600 o arddangoswyr o'r DU a phedwar ban y byd, gan gynnwys gwestai, cwmnïau rheoli cyrchfannau, lleoliadau digwyddiadau, cwmnïau cymhellion, canolfannau cynadledda a chyflenwyr technoleg. 
 

 

Vakantiebeurs: 13–17 Ionawr 2021, Utrecht, yr Iseldiroedd
Categori: Y Diwydiant a Chwsmeriaid Teithio

Mae Vakantiebeurs yn un o'r arddangosfeydd mwyaf yn Ewrop, ac mae'n croesawu dros 100,000 o ymwelwyr i'r digwyddiad pum diwrnod. Mae'r diwrnod cyntaf, sy'n cael ei neilltuo ar gyfer y diwydiant a'r cyfryngau, yn denu dros 13,000 o benderfynwyr o'r diwydiant, sy'n gobeithio cynnwys cynhyrchion a chyrchfannau yn eu rhaglenni. Mae’r digwyddiad yn denu dros 85,000 o ymwelwyr sy'n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eu cyrchfan gwyliau nesaf.

Noder Nid oes cyfle ar gyfer brandiau unigol yn y digwyddiad penodol hwn; bydd desg sengl gyda phamffledi marchnata yn rhan Cymru o bafiliwn House of Britain.

Ar gyfer y digwyddiad hwn nid oes system ar-lein ar gyfer trefnu cyfarfodydd â chysylltiadau o'r diwydiant a'r cyfryngau ymlaen llaw. Bydd angen i'r cyflenwr drefnu a chadarnhau pob apwyntiad yn uniongyrchol cyn y digwyddiad. 
 

ITB Berlin: 3–7 Mawrth 2021, Berlin, yr Almaen
Categori: Y Diwydiant a Chwsmeriaid Teithio

Ystyrir mai ITB Berlin yw'r prif blatfform ar gyfer arddangos cynhyrchion twristiaeth fyd-eang. Mae'r digwyddiad pum diwrnod ar agor i'r diwydiant a'r cyfryngau am y tri diwrnod cyntaf ac i gwsmeriaid am y ddau ddiwrnod olaf. Mae ITB Berlin yn boblogaidd dros ben, gyda dros 113,00 o benderfynwyr o'r diwydiant a 160,000 o ymwelwyr yn dod i'r digwyddiad. Mae 50% o'r mynychwyr o'r diwydiant yn dod o'r Almaen, gyda 44% yn dod o weddill Ewrop, UDA, Asia ac Affrica.

Noder Nid oes gan y digwyddiad hwn system ar-lein ar gyfer trefnu apwyntiadau gyda chysylltiadau yn y diwydiant a'r cyfryngau ymlaen llawn. Bydd angen i'r cyflenwr drefnu a chadarnhau pob apwyntiad cyn y digwyddiad.