A yw fy musnes yn gymwys?

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu'n benodol at fusnesau twf uchel sydd am symud ymlaen i'w cam twf nesaf ac sydd â'r potensial a'r penderfyniad i'w gyrraedd.


Er mwyn i'ch busnes gael ei dderbyn ar y rhaglen, mae'n rhaid bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli yng Nghymru a dylai fod ganddo lai na 250 o gyflogeion

 

Rhaid i chi hefyd allu dangos bod gennych y potensial i wneud y canlynol:

  • Cynyddu trosiant o leiaf 20% y flwyddyn neu, yn achos cwmnïau iau, sicrhau bod trosiant yn cynyddu o leiaf £2 filiwn dros dair blynedd 

  • Creu o leiaf 10 swydd newydd mewn tair blynedd, y mae cyfran ohonynt yn talu cyflog sy'n uwch na chyfartaledd Cymru

  • Dechrau neu feithrin eich gallu i ddatgloi cyfleoedd mewn marchnadoedd rhyngwladol sy'n barod i dyfu

  • Derbynnir mentrau newydd a rhai sydd heb ddechrau eto ar yr amod eu bod yn dechrau masnachu o fewn 12 mis ac yn bwriadu cyflawni twf ar y lefelau a nodwyd uchod

Dynamic Graphic

I ddechrau gwahoddir busnesau sydd am ymuno â'r Rhaglen i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb, a fydd yn ymdrin â'r meini prawf cymhwysedd, a gaiff ei ystyried.

Ar ôl i hyn gael ei gadarnhau, y cam nesaf fydd cynnal asesiad diagnostig manwl o'r syniad busnes a'r potensial i dyfu ac amlinellu'r cymorth sydd ei angen er mwyn datblygu'r busnes.  Ar ôl cynnal asesiad diagnostig, os ystyrir nad ydych yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Twf, cynigir cymorth amgen i chi drwy Wasanaeth Busnes Cymru.