Cymru lewyrchus
Sut ydym yn cyflawni Cymru ffyniannus? Y cam cyntaf yw sicrhau busnes ffyniannus
-
busnes arloesol, cynhyrchiol a charbon isel, gan ddefnyddio adnoddau yn effeithlon a chymesur.
Cymru Gydnerth
Gall busnes cydnerth arwain at Gymru gydnerth
-
gweithio tuag at amgylchedd busnes sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â'r capasiti a'r gallu i newid.
Cymru Iachach
Gall busnes ac amgylchedd iachach arwain at Gymru iachach
-
busnes sy'n edrych ar ôl llesiant corfforol a meddyliol ei weithwyr ac sy'n cydnabod bod unrhyw ddewisiadau a newidiadau ymddygiadol y mae'n eu datblygu yn effeithio'n gadarnhaol ar iechyd ei weithwyr yn y dyfodol ac iechyd pobl o fewn yr ardal leol a Chymru gyfan yn y dyfodol.
Cymru Fwy Cyfartal
Gall amgylchedd mwy cyfartal yn eich busnes arwain at Gymru fwy cyfartal i weithio a byw ynddi
-
Busnes sy'n galluogi eu staff, eu cadwyn gyflenwi a'u cwsmeriaid i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.
Cymru o Gymunedau Cydlynus
Mae busnesau sy'n cefnogi cymunedau cydlynus yn cefnogi twf y cymunedau hynny yng Nghymru
-
busnes sy'n sicrhau bod eu gweithgareddau mewnol ac allanol yn helpu i greu cymunedau a lleoedd atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da i fyw a gweithio ynddynt.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Mae modd cynnal diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu drwy'r gweithgareddau hynny yn eich busnes
-
busnes sy'n helpu i hyrwyddo a gwarchod y Gymraeg a diwylliant Cymru; annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang
Gall busnes sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang helpu Cymru i ddod yn fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang
-
busnes sy'n ystyried a yw ei gamau gweithredu yn cyfrannu'n gadarnhaol at lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a llesiant byd-eang yn y pendraw.