Grantiau Cyflymu Sêr Cymru ar gyfer Meithrin Gallu

 

Amcan Grantiau Cyflymu Sêr Cymru ar gyfer Meithrin Gallu yw cefnogi'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth y DU yn eu disgrifio yn y "Strategaeth Ddiwydiannol", gan ddathlu safle blaenllaw'r wlad ym maes ymchwil wyddonol y byd. Hwylusir hynny gan "Gronfa Strategaeth yr Her Diwydiannol" (£725m) fydd yn rhoi hwb i dwf yn y sectorau a'r prosiectau lle mae'r DU yn arwain ac yn gallu ysgogi datblygiad byd-eang.

Bydd y grantiau hyn yn help i feithrin a/neu gryfhau galluoedd ym meysydd arbenigol SMART (Gwyddorau Bywyd ac Iechyd; Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd; Uwch-Beirianneg a Deunyddiau; a TGCh a'r Economi Ddigidol) neu brosiectau ym Mhrifysgolion Cymru fydd yn eu galluogi i feithrin eu grwpiau ymchwil i baratoi ar gyfer gwneud cais am arian ymchwil ac ar gyfer cydweithio diwydiannol. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sydd â chysylltiad â buddsoddiadau cyfredol neu flaenorol gan Lywodraeth Cymru/WEFO/Sêr Cymru.

Mae 5 grant ar gael o dan y cynllun hwn, 2 ar gyfer y Dwyrain a 3 ar gyfer y Gorllewin a'r Cymoedd.

Bydd y grantiau cyflymu ar gyfer meithrin gallu'n para 2-3 blynedd ac yn werth rhyw £0.5m yr un, a gellir eu defnyddio i dalu cyflogau staff, teithio a chynhaliaeth, offer cyfalaf a/neu nwyddau traul.

 

Pwy sy'n Gymwys

  • Bydd gofyn i'r ceisiadau adlewyrchu Ardaloedd yng Nghymru o Arwyddocâd Strategol
  • Rhaid bod yr ymgeiswyr yn cael eu cyflogi gan Sefydliad yng Nghymru
  • Rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â'r egwyddorion moesegol sylfaenol a ddisgrifir yn yr adran am foesegau.
  • Rhaid bod gan ymgeiswyr gefnogaeth y sefydliad masnachol/academaidd y maent am weithio ynddo.
  • Rhaid i ymgeiswyr esbonio sut y bydd y grant yn gwella neu'n cynnal eu harbenigedd yng Nghymru.

Y Broses Ymgeisio

Bydd angen i ymgeiswyr gynnig prosiect addas i'w wneud mewn  sefydliad sy'n eu cynnal yng Nghymru sydd ar y rhestr.  

Bydd y prosiect ymchwil yn cael ei greu gan yr ymgeisydd ond mae'n rhaid iddynt drafod hyn gyda'u harolygydd posibl cyn ei gyflwyno.

Bydd  craffu moesegol ar bob prosiect a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu adran foeseg wedi'i chwblhau o fewn eu ffurflen gais.

Dylai'r ymgeisydd hefyd gyflwyno copi o'u CV diweddaraf o fewn eu ffurflen gais, dim mwy na 3 tudalen o hyd. Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am eu haddysg, eu gwaith blaenorol a phrofiad perthnasol arall, gwybodaeth am unrhyw seibiant yn eu gyrfa ar gyfer mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu ac ati; a rhestr o'u cyhoeddiadau a grantiau a ddyfarnwyd.

Dylai'r ymgeiswyr hefyd anfon enwau dau ganolwr sy'n gyfarwydd â'u gwaith a'r maes ymchwil arfaethedig yn yr e-bost i gyd-fynd â'u cais.

Dylai'r sefydliadau sy'n eu cynnal roi dadansoddiad o gostau gan ddefnyddio'r tablau o fewn eu ffurflenni cais.