Sêr Cymru – Mynd i’r afael â Chynigion ar gyfer Ymchwil i COVID-19
Sêr Cymru – Mynd i’r afael â Chynigion ar gyfer Ymchwil i COVID-19
Mae Swyddfa Llywodraeth Cymru dros Wyddoniaeth yn gwahodd prifysgolion yng Nghymru i gyflwyno ceisiadau ar gyfer cyllid am gynigion newydd ar gyfer ymchwil allai gyfrannu at neu hybu datblygiad gwaith ymchwil sy’n cael effaith ar COVID-19. Bwriad y gronfa hon yw helpu i ariannu gwaith ymchwil a ble yn berthnasol, osod y sylfeini ar gyfer cynigion mwy i ffrydiau cyllido eraill.
Dylai’r ceisiadau gynnwys meysydd megis (ond heb eu cyfyngu i) feiroleg; imiwnoleg; imiwnedd; diagnosteg; gwyddor ymddygiad; canlyniadau iechyd meddwl; materion amgylcheddol; gan fod yn sail i waith ymchwil megis profion neu fodelau anifeiliaid; neu seilwaith/offer hanfodol.
Gallai cynigion fynd i’r afael â’r bygythiad presennol neu sefyllfaoedd yn y dyfodol ond mae’n rhaid i bob cais allu cyflawni’r prosiect yn llwyddiannus er gwaethaf y cyfyngiadau gweithio presennol.
Byd y cyllid hwn ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol (2020/2021) yn unig, felly bydd yn rhaid i geisidau llwyddiannus fod yn amserol, yn gallu dechrau yn gyflym, ac yn galluogi sefydlu canlyniadau ymchwil cynnar a gwerthfawr.
Y disgwyliad yw y bydd y ceisiadau ar gyfer astudiaethau datblygiadol/peilot/prawf o egwyddor. Fodd bynnag, gallai gwerth y grantiau amrywio yn unol ag anghenion y prosiect ymchwil. Fel gyda cylchoedd blaenorol Sêr Cymru, bydd angen i ymgeiswyr gynnig achos cryf i dderbyn cefnogaeth, cyfiawnhad clir o’r cais am adnoddau ac i ddangos gwerth am arian. Bydd y costau cymwys yn cynnwys defnyddiau traul, prynu offer, costau cyhoeddi, costau teithio hanfodol (os/pryd fydd teithio yn bosibl) a chostau cyflogau ymchwilwyr. Bydd costau llawn y prosiect yn cael eu darparu ond anogir ariannu cyfatebol (naill ai mewn arian neu nwyddau) gan y sefydliad sy’n cynnal.
Dylai’r ceisiadau ar gyfer cymorth fod ar ffurf achos pedair tudalen sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
Enw
Teitl y Prosiect
Crynodeb: Crynodeb byr o’r gwaith fydd yn cael ei wneud
Cyflwyniad
Nodau, Amcanion a gweledigaeth eich gwaith ymchwil: Disgrifiwch eich gweledigaeth a’r cynlluniau ar gyfer eich ymchwil a sut y caiff ei ddatblygu drwy’r wobr.
Methodoleg Ymchwil: Rhowch drosolwg o’r math o weithgareddau ymchwil ac arloesi a gynigir. Cynhwyswch hefyd gyfiawnhad o’r costau y gofynnwyd amdanynt ac atodwch dabl ariannol i’ch cynnig.
Cynnwys ystyriaethau moesegol os yn berthnasol.
Amgylchedd Ymchwil: Rhoi tystiolaeth o hanes ac arbenigedd ymchwilwyr a’r amgylchedd y caiff yr ymchwil ei wneud ynddo.
Gwreiddioldeb: Egluro y cyfraniad y mae disgwyl i’r prosiect ei wneud i ddatblygiadau o fewn maes y prosiect.
Disgrifiwch unrhyw gysyniadau, agweddau neu ddulliau newydd fydd yn cael eu defnyddio.
Effaith: Disgrifiwch unrhyw effeithiau tebygol allai ddod o’r ymchwil hwn e.e. datblygiadau posibl mewn gwyddoniaeth, neu weithredu technoleg newydd.
Disgrifiwch sut y bydd y gwaith ymchwil hwn yn eich helpu i wneud cais am ragor o gyllid gan sefydliad megis UKRI ac ati...
Disgrifiwch sut yr ydych yn bwriadu dosbarthu eich canlyniadau ac unrhyw weithgareddau cysylltu â’r cyhoedd yr hoffech eu cynnal.
Dylai’r ceisiadau hefyd gynnwys CV byr (2-3 tudalen) ar gyfer y Prif Ymgeisydd a’r Cyd-ymgeiswyr, gan dynnu sylw at bedwar papur gorau pob archwilydd
Bydd cynigion yn cael eu hystyried yn unol â’r meini prawf canlynol, gan ystyried cyngor pwyllgor adolygu gan gymheiriaid annibynnol:
- Llwyddiant gwyddonol yr ymgeisydd yn y gorffennol a’u posibilrwydd am lwyddiant yn y dyfodol
- Dangos cysylltiadau ymchwil
- Ansawdd, ehangder a perthnasedd strategol llwyddiannau gwyddonol yn y dyfodol fydd yn cael eu galluogi gan y gwaith ymchwil
- Unrhyw bosibilrwydd o gynhyrchu data ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol am gyllid allanol ac/neu i gyflymu effaith yr ymchwil
- Gwerth am arian – gan gynnwys pa mor effeithlon a fforddiadwy yw y costau rhedeg a mynediad, a gostyngiadau ar gostau prynu cyfalaf ac ati
- Posibilrwydd ifod o fudd sylweddol yn y frwydr yn erbyn COVID-19
- Synergedd neu gysylltiadau â gwaith neu bolisïau eraill sy’n gysylltiedig â COVID-19
Dylid cyflwyno ceisiadau at sercymruII@gov.wales erbyn 1af Gorffennaf 2020. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu yr hoffech drafod yr alwad hon ymhellach, cofiwch gysylltu â thîm Sêr Cymru ar yr un cyfeiriad neu Delyth Morgan ar delyth.morgan@gov.wales