Aelodau Gwasanaethau Bwyd Bydeang Yn Awchu Am Gyflenwyr O Gymru
Yn ddiweddar cafodd cynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru y cyfle unigryw i gyfarfod darparwyr gwasanaethau bwyd byd-eang blaenllaw er mwyn ceisio cryfhau ac ehangu eu busnes. O dan nawdd Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, cynhaliwyd seminarau yng Nghaerdydd a Wrecsam. Roedd y prif siaradwyr yn y seminarau yn cynnwys Sodexo, Compass a Brakes, a dywedodd pob un ohonynt eu bod...