Wrth i Flwyddyn Antur Cymru 2016 gychwyn mae Bwyd a Diod Cymru mewn partneriaeth â Croeso Cymru wedi trefnu digwyddiad i arddangos y gorau o fwyd a diod o Gymru – dathliad o’r wlad yn gyrchfan antur.

Yr wythnos yma (Dydd Llun 18fed Ionawr) cynhelir digwyddiad ‘Arlwy Fwyd Anturus’ yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin o 11am tan 2pm. Mae’r digwyddiad yn gyfle i unrhyw un sy’n ymwneud â’r diwydiant twristiaeth, hamdden, lletygarwch a manwerthu yng Nghymru ddod at ei gilydd a helpu datblygu syniadau bwyd a diod newydd a blaengar.

Wrth gyfeirio at y bartneriaeth hon dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd, Rebecca Evans, “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Croeso Cymru i drefnu’r digwyddiad masnach rhanbarthol hwn. Mae gennym gasgliad rhagorol o gynhyrchwyr yng Nghymru yn darparu cynnyrch arobryn o’r radd flaenaf. Mae gwneud bwydydd lleol a rhanbarthol yn fwy amlwg a gweladwy mewn siopau ac ar fwydlenni yn cynnig manteision uniongyrchol ac ar unwaith i’n heconomi lleol.

“Mae bwyd yn rhan annatod o’r ddarpariaeth i ymwelwyr yng Nghymru. Mae galw cryf a chynyddol am fwyd a diod lleol. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn gynyddu nifer y cyrchfannau bwyd safon byd a hyrwyddo a darparu bwyd a diod o ansawdd o Gymru fel rhan o’r profiad cyffredinol a gaiff ymwelwyr.”

Bydd nifer o gynhyrchwyr bwyd a diod gwahanol yn mynychu’r digwyddiad, o gynhyrchwyr cig, cyflenwyr cynnyrch llaeth, delicatessens, melysion a sawsiau lleol i nifer o wasanaethau bwyd eraill a chefnogaeth i’r sector twristiaeth bwyd a lletygarwch.

Un cwmni o’r De Orllewin fydd yno yw Casa Del Cymru, cynhyrchwyr pasta yn Llechryd, Ceredigion. Meddai’r perchnogion Simon a Gina Sarracini Pope, “Rydym yn edrych ymlaen at fod yn y digwyddiad hwn. Mae’n rhoi llwyfan a chyfle gwych inni arddangos ein cynnyrch, trafod wyneb yn wyneb gyda manwerthwyr a chyflwyno prynwyr newydd posib i’n cwmni.”

Bydd Guy Morris o Ffwd-Food, gwasanaeth arlwyo bwyd awyr agored yn Abergwaun yn paratoi nifer o seigiau gwahanol gan ddefnyddio cynnyrch lleol i greu syniadau brecwast egni uchel, byrbrydau bwyta wrth fynd a gofynion dietegol bwyd eraill. Yn ogystal â rhannu syniadau am beth fydd yn gweithio’n dda ar fwydlenni mewn lleoliadau gwahanol, bydd myfyrwyr arlwyo Coleg Sir Gâr hefyd yn cynorthwyo gyda’r arddangosiadau coginio.

Mae uchafbwyntiau’r digwyddiad yn cynnwys:

  • Cyfle i gyfarfod cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru
  • Arddangosfa o 170 o gynhyrchion a enillodd wobrau Great Taste
  • Arddangosiadau coginio a chinio rhad ac am ddim yn defnyddio cynnyrch lleol o ansawdd yn ei dymor
  • Syniadau bwyd a diod ar gyfer twristiaeth antur a nwyddau anrhegion
  • Arddangosfa ‘Ar y Plât’ ac ‘Ar y Fwydlen’
  • Gwasanaeth dod o hyd i gynhyrchion un i un, rhad ac am ddim

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i gynadleddwyr. Er mwyn cael mwy o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â foodanddrinkwales@menterabusnes.co.uk

Share this page

Print this page