Dogfennau ffurfio cwmni a chamau nesaf

Cam 1

Mae angen i chi sefydlu dogfennau ffurfio eich cwmni. Gelwir hyn yn Gofrestr eich Cwmni. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflenni syml hyn a’u cadw mewn man diogel. Hefyd, mae’n werth cadw copi wrth gefn yn rhywle ar y ffeil.

Mae Cofrestr Cwmni yn cynnwys y ffurflenni canlynol:

Cam 2

Cofrestrwch gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM). Os nad ydych chi wedi gwneud hyn yn barod, gwnewch hynny nawr, oherwydd gallech gael eich dirwyo os gadewch i 3 mis fynd heibio heb wneud.

Cam 3

Sefydlwch gyfrif banc busnes.

Cam 4

Mae pethau’n newid, ond peidiwch â phoeni. Os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau, dyma’r ffurflenni mwyaf cyffredin y gall fod eu hangen arnoch chi:

Os ydych wedi ymuno â gwasanaeth ar-lein Tŷ’r Cwmnïau, byddwch yn gallu diweddaru gwybodaeth allweddol am gwmnïau ar-lein trwy wefan Tŷ’r Cwmnïau.

Cam 5

Cadwch mewn cysylltiad â’ch Cynghorydd Busnes gan ei fod/bod ar gael i’ch helpu ac i ateb unrhyw ymholiadau neu cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop