Penodi aelodau o'r bwrdd

Bydd angen i bob busnes cymdeithasol benodi ei Fwrdd yn unol â'r rheolau a nodiryn ei ddogfen lywodraethol. Bydd y rheolau'n nodi ystod o feini prawf cymhwysedd yn ogystal â phennu'r broses weinyddol ar gyfer penodi aelodau'r Bwrdd a rheoli cyfarfodydd y Bwrdd.

Maes i'w ystyried:

Nid oes unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer bod yn Gyfarwyddwr ond mae rheolau mewn deddfwriaeth cwmnïau ac elusennau sy'n nodi pryd y caiff unigolyn ei anghymhwyso (h.y. ei wahardd) rhag dod yn Gyfarwyddwr neu'n Ymddiriedolwr.

Mae’r Ddeddf Cwmnïauyn datgan bod angen i chi:

  • fod yn 16 oed neu drosodd
  • peidio â bod wedi’ch anghymhwyso rhag bod yn Gyfarwyddwr
  • peidio â bod yn fethdalwr
  • peidio â bod wedi’ch rhwystro gan y Llys rhag dod yn Gyfarwyddwr
  • peidio â bod wedi’ch anghymhwyso gan ddogfen lywodraethol y Cwmni ei hun.

Ar wahân i'r amodau anghymhwyso a methdaliad, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn enwebiadau ar gyfer unrhyw bobl y mae aelodau o fusnes cymdeithasol yn eu hystyried yn addas i weithredu yn y swydd honno.

Mae’r Comisiwn Elusennauyn datgan bod angen i chi:

  • fod yn 18 oed neu'n hŷn heblaw am gwmnïau elusennol neu SCE lle gall ymddiriedolwyr fod yn 16 oed neu'n hŷn
  • peidio â bod wedi’ch anghymhwyso’n awtomatig
  • 13-peidio â bod wedi’ch anghymhwyso gan y Comisiwn Elusennau.

Fel arfer, gofynnir i Ymddiriedolwyr lenwi ffurflen datganiad Ymddiriedolwr Elusennol i gadarnhau eu bod yn gymwys.

Canllawiau pellach:

Anghymhwyso Cyfarwyddwr Cwmni

Anghymhwyso Awtomatig

Datganiad Ymddiriedolwr Elusennol

Bydd y ddogfen lywodraethol yn nodi gwybodaeth sy'n benodol i fusnesau cymdeithasol am benodiadau'r Bwrdd, gan gynnwys:

  • sut a chan bwy y penodir a thynnir aelodau'r Bwrdd
  • gofynion busnes cymdeithasol penodol ar gyfer Aelodau'r Bwrdd, e.e. sgiliau, cynrychiolaeth, anghymhwysoac ati.
  • isafswm ac uchafswm aelodau'r Bwrdd
  • isafswm nifer aelodau'r Bwrdd y maeangen iddynt fod yn bresennol i gynnal ei fusnes (y Cworwm)
  • uchafswm nifer y blynyddoedd y gall aelod o'r Bwrdd eistedd ar y Bwrdd (Tymor y Swydd).

Mae gan aelodau'r Bwrdd ddyletswydd bob amser i osgoi gwrthdrawiad buddiannau ac i weithredu er budd y busnes cymdeithasol. Dylai busnesau cymdeithasol roi prosesau a gweithdrefnau ar waith i nodi a rheoli gwrthdrawiad buddiannau, gan gynnwys:

  • ffurflenni datganiad gwrthdaro buddiannau blynyddol;
  • datganiad ar wahân o unrhyw wrthdrawiad buddiannau mewn eitemau unigol ar yr agenda yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Canllawiau pellach

Tŷ'r Cwmnïau: Dyletswyddau Cyfarwyddwyr

Comisiwn Elusennau: Canllaw Gwrthdrawiad Buddiannau 

Mae angen ystyried Deddf Galluedd Meddyliol 2005 wrth asesu gallu unigolyn i ymgymryd â swydd fel aelod Bwrdd. Mae'n dweud 'tybiwch fod gan berson y gallu i wneud penderfyniad ei hun, oni bai y profir fel arall.'

Mae aelodau'r Bwrdd yn atebol ar y cyd. Fel Bwrdd o aelodau etholedig, mae pobl yn gyfrifol am wahanol dasgau a rolau i sicrhau bod y busnes yn cydymffurfio. Ar y cyd, bydd gan y Bwrdd gapasiti a dealltwriaeth gyffredin o'u rolau a'u cyfrifoldebau.

Bydd angen i chi sicrhau bod aelodau eich Bwrdd yn cael eu recriwtio i fodloni'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen i lywodraethu eich busnes cymdeithasol yn effeithlon ac yn effeithiol a bod ganddynt y gallu i gyflawni. 

Efallai yr hoffech gynnal archwiliad sgiliau o aelodau eich Bwrdd i benderfynu ble mae bylchau sgiliau y mae angen eu llenwi'n uniongyrchol. Os nad yw hyn ar gael, darparwch hyfforddiant perthnasol i uwchsgilio unigolion fel y gallant gyflawni eu dyletswyddau.

 

Yn yr adran hon:

Cyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd dros gydymffurfiaeth busnes

Penodi Aelodau'r Bwrdd

Rolau a chyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd

 

Eisiau trafod y pwnc ymhellach? Cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.