Strwythur sefydliadol

Elite Paper Solutions

Mae llunio strwythur sefydliadol yn rhan allweddol o sefydlu busnes cymdeithasol.

Prif ddiben eich dogfen strwythur sefydliadol fyddai amlinellu sut mae’r cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng gwahanol rolau a’i gynnal gan amryw reolau i sicrhau bod y busnes yn gweithio tuag at ei nodau. 


Beth yw strwythur sefydliadol mewn busnes?

Mae rhai swyddogaethau’n hanfodol i bob busnes, fel llywodraethu a chynllunio strategol, rheoli ariannol, marchnata, rheoli adnoddau dynol a gweithrediadau. Mae angen i’r rhain gael eu cyflawni gan unigolion, timau neu adrannau.

Yn eich strwythur sefydliadol, disgrifiwch sut y bydd y rhain a swyddogaethau eraill sy’n benodol i’ch model busnes yn cael eu rheoli.

Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi ddeall y gwahaniaeth rhwng llywodraethu a rheoli. Mae rheoli’n ymwneud â sicrhau bod y busnes yn cael ei gynnal yn unol â pholisïau. Mae llywodraethu, ar y llaw arall, yn ymwneud â gosod polisïau a strategaethau. Bydd angen i chi gael strwythurau ar gyfer y ddau. 


Templed hierarchaeth sefydliadol

Nid oes angen i chi gael siart sefydliadol fanwl ar gyfer eich busnes cymdeithasol ar y cam hwn, ond gallwch lunio un os ydych eisiau. Y brif flaenoriaeth yw gallu disgrifio’r berthynas rhwng y prif grwpiau sy’n ffurfio’r busnes. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Perchnogion
  • Bwrdd cyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr
  • Aelodau (lle mae perchnogaeth ar agor i unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer aelodaeth)
  • Aelodau cyswllt (sydd â llai o hawliau a chyfrifoldebau nag aelodau llawn), aelodau prawf (sydd ar y ffordd i fod yn aelodau llawn) neu gategorïau eraill aelodaeth
  • Rheolwyr 

Strwythurau busnes partneriaeth

Gallech ystyried rhywbeth mwy cymhleth, fel consortiwm o aelod-sefydliadau neu system freinio. Neu gallech fwriadu i’ch sefydliad ffurfio partneriaethau neu berthnasoedd agos â sefydliadau eraill a chyrff statudol. Os yw hyn yn wir am eich busnes cymdeithasol chi, dylech nodi’r perthnasoedd hyn yn benodol.

Os ydych yn bwriadu i’r aelodau berchen ar y busnes a’i reoli’n ddemocrataidd, gallech ddymuno mabwysiadu strwythur cydweithredol. Mae nifer o wahanol fathau o gwmnïau cydweithredol, ond maen nhw i gyd yn cydymffurfio â set benodol o  egwyddorion. Gallwch gael gwybod mwy am beth yw cwmni cydweithredol ar wefan Co-operatives UK.

Os ydych yn ystyried sefydlu cwmni cydweithredol, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’n benodol pa fath o gwmni cydweithredol rydych chi’n ei ystyried a pha fanteision yr ydych yn disgwyl i’r ethos cydweithredol arwain atynt.

Gallech hefyd ddewis model sy’n cynnwys perchnogaeth gan weithwyr. Dysgwch fwy am hynny ar ein tudalen Perchnogaeth gan Weithwyr


Cysylltiadau defnyddiol

Gweithio mewn consortia

Creu timau o sefydliadau.

Rhyddfreinio Cymdeithasol

Darparu pecyn i alluogi sefydliadau eraill i ddyblygu eich llwyddiant.