1. Crynodeb

Mae band eang cyflym iawn yn agor y ffordd i fusnesau llai sy’n defnyddio technolegau ar-lein gystadlu gyda brandiau mwy neu rhai mwy sefydledig. Wrth gwrs, mae angen i chi ddarganfod elfen arbenigol sy’n apelio i’ch marchnad, ac sy’n ddigon gwahanol i gwmnïau o’r un math. Ond wedi hynny, mae’r fantais gystadleuol yn debygol o fynd i’r cwmni mwyaf deinamig, arloesol.   

 

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu chi i barhau’n berthnasol wrth i ddisgwyliadau  cwsmeriaid ddatblygu yn sgil newidiadau wedi’u hysgogi gan y rhyngrwyd. Bydd yn datgelu na fydd angen i chi fod yn arbenigwr mewn technoleg cwmwl i feithrin enw da llwyddiannus. A bydd yn dangos i chi sut i ganolbwyntio ar gyflwyno ymarfer busnes a gwasanaeth cwsmeriaid gwell na’ch cystadleuwyr, er mwyn i chi allu osgoi llethr llithrig brwydr brisiau.

2. Pa fuddion alla’ i eu disgwyl?

  • Costau rheoledig: Mae meddalwedd cwmwl a storfeydd data yn defnyddio model talu wrth ddefnyddio, y gellir ei raddio ar unwaith i fodloni’ch anghenion presennol ac yn y dyfodol.
     

  • Atgyrchion craffach: Gan fod nifer o gymwysiadau SaaS yn integreiddio’n gymharol hawdd, gallwch ymateb i anghenion y farchnad a gwneud newidiadau’n gyflym ac yn gost effeithiol.
     

  • Cydweithrediad iachach: Pan mae systemau’n cydweithio ar draws adrannau ac isadrannau, mae cyfle i ddadansoddi a gweithredu ar ddata marchnad cryfach.
     

  • Cynnydd mewn gwerthiant: Mae strategaeth gydlynol sy’n gweithredu ar draws pob sianel marchnata yn ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid eich argymell chi ac annog twf esbonyddol.
     

  • Cynnydd mewn teyrngarwch cwsmeriaid: Gallwch gynyddu nifer y cwsmeriaid rydych chi’n eu cadw trwy ddefnyddio Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a’r cyfryngau cymdeithasol, i feithrin perthnasoedd.
     

  • Gwasanaeth cwsmeriaid gwell: Gallwch ddefnyddio dadansoddiadau ac adroddiadau rheoli cysylltiadau cwsmeriaid i gynllunio ymgyrchoedd marchnata a chyflwyno gwasanaethau a chymorth gwell i gwsmeriaid.
     

  • Mwy o gynhyrchiant: Mae cymwysiadau ar sail cwmwl yn caniatáu staff oddi ar y safle i ddiweddaru gwybodaeth mewn amser real yn hytrach na gorfod dod yn ôl i’r swyddfa.
     

  • Dewisiadau doethach: Mae newid cyfarfodydd wyneb yn wyneb i gyfarfodydd rhith yn caniatáu i chi leihau costau, lleihau’r defnydd o danwydd, ac adennill amser teithio a gollir.

3. Enghraifft go iawn

Mae cwmni peirianneg fanwl o ogledd Cymru yn dathlu ehangu ar draws marchnadoedd llewyrchus, a chynnydd o 20% mewn refeniw dros y 12 mis diwethaf. “Yn ein diwydiant, mae’n hanfodol ein bod ni gam ar y blaen, felly roeddem yn teimlo y dylem ni alinio ein gweithrediadau busnes â’n henw da am gyflwyno cydrannau o ansawdd uchel”, meddai Josh Harris, Rheolwr TG Tarvin Precision, yn Sir y Fflint.  

 

Picture of man on a computer

 

Gan fod nifer fawr o gleientiaid Tarvin yn rhai byd-eang, mae uwchraddio i gysylltiad band eang cyflym iawn i gynyddu cyflymder lawrlwytho i fwy nag 80Mbps wedi gwneud eu cyfathrebiadau’n llawer mwy dibynadwy. Arweiniodd hyn at arbediad o 50% mewn costau ar gyfer eu cyllideb telegyfathrebu flynyddol, a fydd yn cynyddu i 75% ar ôl bodloni cost ariannu’r buddsoddiad, mewn oddeutu 12 mis. 

 

Mae’r galluoedd hyn wedi hybu effeithlonrwydd mewn meysydd eraill o’r busnes, gan gynnwys trafod galwadau i mewn, marchnata, a rheoli data cleientiaid o ddydd i ddydd, y gellir ei anfon a’i dderbyn yn hawdd erbyn hyn, ni waeth pa mor fawr yw’r ffeiliau data. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig i nifer o gyfrifon cleientiaid allweddol, sydd hefyd wedi cael eu darbwyllo gan y cysylltiad diogel i staff gyrchu’r gweinyddwr o bell.

4. Creu mantais gystadleuol

Mae cyflwyno band eang cyflym iawn yn caniatáu i fusnesau arbed arian, gwella gwerthiant a hybu twf busnes.

 

Dyma rai ffyrdd y gellir cyflawni hyn.

5. Bod yn symudol

Yn fewnol, gall dyfeisiau symudol, fel ffonau clyfar a llechi, roi mynediad i staff o bell at systemau busnes craidd, ar gyfer diweddariadau cyflymach ynghylch gwybodaeth am gynhyrchion a stoc, a thasgau swydd. Yn allanol, mae gwefannau wedi’u ffurfweddu ar gyfer dyfeisiau symudol yn rhoi profiad syml a diogel i gwsmeriaid, sy’n debygol o arwain at deyrngarwch.

 

Bydd y strategaeth symudol gywir yn galluogi prosesau a thrafodion i ddigwydd mewn amgylchedd diogel ac integredig, gan hybu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd staff, a galluogi perthnasoedd cwsmeriaid mwy proffidiol.

6. Apiau gwneud eich hun

Mae systemau gwneud eich hun wedi cael eu creu ar gyfer anghenion busnesau bach heb lawer o adnoddau datblygu neu ddim o gwbl. Mae’r apiau mwyaf llwyddiannus yn rhoi buddion go iawn i gwsmeriaid. Mae’r rhain yn cynnwys talebau a chynigion lleol, opsiynau talu biliau a phrynu, ffurflenni cais hawdd i’w llenwi, gwybodaeth y gallant ei rhannu ar draws y cyfryngau cymdeithasol, a mynediad syml at ddogfennau cynhyrchion, awgrymiadau a chyngor.

 

Cofiwch, penderfyniad busnes yw hwn. Gwnewch ychydig o waith ymchwil i’r farchnad i weld beth hoffai eich cwsmeriaid ei gael ar eu dyfeisiau symudol. Yna, defnyddiwch eich apiau i helpu cynhyrchu busnes, agor posibiliadau marchnata, a helpu i symleiddio gwasanaeth cwsmeriaid.

7. Rheoli Prosesau Busnes (BPM)

Mae Rheoli Prosesau Busnes yn ymagwedd systematig at wneud llif gwaith sefydliad yn fwy effeithiol, yn fwy effeithlon, ac yn fwy galluog i addasu i amgylchedd sy’n newid yn barhaus. Anghofiwch am y camsyniad bod rheoli prosesau busnes ar gyfer mentrau mawr yn unig a all fforddio meddalwedd arbenigol drud.

 

Mae buddsoddi mewn rheoli prosesau busnes yn ffordd wych i gael golwg gyflawn ar sut mae eich busnes yn gweithredu. Gallwch ei ddefnyddio i amlygu oedi ac anghysondebau a allai gostio amser ac arian. Gallai’r buddion gynnwys proffidioldeb gwell a chael gwybodaeth dda wrth law i wneud penderfyniadau busnes.   

8. Marchnata ar-lein

Mae marchnata ar-lein yn bendant yn rhywbeth i’w ystyried os hoffech ennillmantais gystadleuol. Mae nifer o ffyrdd i wneud hyn, gan gynnwys gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol, a marchnata trwy negeseuon e-bost. Ond nid yw marchnata ar-lein llwyddiannus yn digwydd dros nos.

 

Mae angen ymagwedd gyson, hirdymor yn ymgysylltu â chwsmeriaid, i fedi’r buddion. Ond os gwnewch chi bethau’n iawn, bydd yn agor nifer o ddrysau i gyrraedd cynulleidfaoedd targed mwy, cynhyrchu buddion gweithredol, ac arbed costau hefyd.  

9. Cyfrifiadura Cwmwl

Gall bron unrhyw system fusnes graidd – ariannol, adnoddau dynol, rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, cynhyrchiant swyddfa – gael ei chaffael a’i gweithredu trwy’r cwmwl. Gallai hyn leihau costau trwyddedau, cynnal a chadw, uwchraddio a chostau gweithredol ar gyfer busnesau bach – uwchlaw popeth, oherwydd ei fod yn osgoi’r angen i fuddsoddi mewn gweinyddwyr a seilwaith drud. Mae hefyd yn meddwl bod systemau menter na ellid eu fforddio’n flaenorol, ar gael i BBaChau.

10. Optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)

Mae optimeiddio peiriannau chwilio yn wych i unrhyw berchennog busnes sydd o ddifrif am feithrin a datblygu busnes ar-lein mewn amgylchedd fwyfwy cystadleuol.

 

Fodd bynnag, oni bai bod gennych chi arbenigedd mewnol, gweithio gyda phartner sy’n arbenigo mewn optimeiddio peiriannau chwilio yw’r ateb gorau i fusnesau bach, fwy na thebyg. Byddan nhw’n eich helpu chi wneud yn siŵr eich bod chi’n mwynhau manteision yr offer a’r meddwl diweddaraf yn y maes hwn sy’n symud yn gyflym.

11. Contractio TG yn allanol

Mae dod o hyd i bartner cymorth TG i gyflawni gwaith cynnal a chadw caledwedd a systemau, a darparu gwasanaethau desg gymorth, yn ffordd fwyfwy poblogaidd i fusnesau leihau eu gwariant gweithredol.

 

Mae’n allweddol dod o hyd i ddarparwr gwasanaeth sy’n deall anghenion eich busnes ac yn gallu cynnig cytundeb lefel gwasanaeth priodol a fydd yn sicrhau argaeledd systemau, cysondeb busnes ac adfer ar ôl trychineb os bydd amhariad. Bydd hyn yn caniatáu i chi leihau eich dibyniaeth ar arbenigedd mewnol, ac yn eich gwneud chi’n fwy main ac yn fwy cystadleuol. 

12. Rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM)

Mae rheoli cysylltiadau cwsmeriaid yn ffordd o weithio yn hytrach na chynnyrch neu dechnoleg, er bod darparwyr systemau rheoli cysylltiadau cwsmeriaid yn cynnwys enwau mawr fel Microsoft, Sage a Salesforce.

 

Ar ei lefel symlaf, mae cymhwysiad fel cronfa ddata cysylltiadau yn fath o reoli cysylltiadau cwsmeriaid, oherwydd pan gaiff ei rannu gan eich holl weithwyr, gall ddarparu un o fuddion pwysicaf rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, sef canoli’r holl wybodaeth am bob cwsmer, neu ddarpar gwsmer, mewn un man. Mae hyn yn rhoi mynediad i bawb at fanylion cwsmeriaid cyfredol, fel na chaiff gwaith ei ddyblygu, a chaiff gwallau eu hosgoi. Mae mathau amrywiol o reoli cysylltiadau cwsmeriaid, gan gynnwys:

 

  • Awtomeiddio’r gweithlu gwerthu: mae’n cynorthwyo’r tîm gwerthu trwy ddarparu un storfa wybodaeth lle caiff holl fanylion cwsmeriaid a chysylltiadau eu cofnodi.
     

  • Gwasanaeth cwsmeriaid: gallwch ddefnyddio meddalwedd gwasanaeth cwsmeriaid i olrhain cysylltiadau gyda chanolfan alw, rhoi gwybodaeth gyfredol i asiantau, a rheoli eu llif gwaith.
      

  • Marchnata: gallwch ddefnyddio rheoli cysylltiadau cwsmeriaid ar gyfer marchnata i ddadansoddi data cwsmeriaid, yn ogystal â monitro bodlonrwydd cwsmeriaid, i amlygu unrhyw angen ar gyfer gwella.

13. Rheoli eich enw da ar-lein

Erbyn hyn, mae’n arferol iawn i gwsmeriaid siarad am fusnesau a’u cynhyrchion ar-lein. Ac er bod hyn yn swnio’n frawychus, mae’n gyfle enfawr i feithrin perthnasoedd â chwsmeriaid sy’n ymatebol ac â ffocws pendant.

 

Mae peidio ag ymateb i feirniadaeth neu sylw penodol, neu hyd yn oed methu cydnabod argymhelliad cadarnhaol, yn gyfle coll.  A’r peth olaf sydd ei angen ar fusnes bach mewn marchnad gystadleuol, yw adborth negyddol.  

 

Bydd defnyddio strategaeth integredig a rhagweithiol ar gyfer rheoli enw da ar-lein, yn caniatáu i fusnesau gynhyrchu cyfathrebu cadarnhaol gyda’u cwsmeriaid ac adeiladu hygrededd fel sefydliad sy’n canolbwyntio ar y cwsmeriaid. I gael cyngor manwl ar ddatblygu brand ar-lein, mae’n werth darllen trwy ein canllaw am farchnata ar-lein.

14. Pwyntiau gweithredu ac awgrymiadau argymelledig

  • Mae perthynas â chwsmeriaid yn hanfodol: cadwch mewn cysylltiad â’ch cwsmeriaid i ddeall beth maen nhw’n ei werthfawrogi am eich cwmni, oherwydd mae unrhyw beth arall yn wastraff, yn y bôn.
     

  • Deall eich cystadleuwyr: dadansoddwch gyfrifon ar-lein eich cystadleuwyr ac olrhain eu gweithgarwch a’u hymgysylltiad â sefydliadau eraill, a allai eich helpu chi i ddeall beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud.
     

  • Ymchwil i’r farchnad: treuliwch amser ar-lein yn cysylltu â phobl, yn monitro’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn dod i adnabod eich cwsmeriaid presennol, eich dilynwyr ffyddlon, ac amlygu unrhyw botensial yn y dyfodol.
     

  • Monitro tueddiadau: byddwch y cyntaf i droi tuedd yn gyfle masnachol trwy ymchwil ar-lein a dadansoddi data.
     

  • Symleiddio a pharhau’n fain: trwy wella effeithlonrwydd a lleihau costau, gall busnesau ddisgwyl arbedion gwell i hybu elw. 

15. Gwybodaeth ychwanegol

Defnyddiwch Gyfeiriadur Meddalwedd Cyflymu Cymru i Fusnesau i archwilio’r meddalwedd a allai eich helpu i redeg eich busnes.