Mae busnes o Ben-y-bont ar Ogwr wedi sicrhau bargeinion proffidiol gyda dau o frandiau enwog America mewn gwasanaethau ariannol a bwyd cyflym, drwy ddefnyddio technoleg ddigidol i roi mynediad ar-lein i gleientiaid prysur at raglenni hyfforddi gweithredol.

 

Mae Accolade Academy yn defnyddio technoleg hyfforddi newydd sy'n ei helpu i gyflwyno rhaglenni effeithiol gan leihau'r tarfu ar y diwrnod gwaith, mewn datblygiad sydd wedi ei alluogi i gystadlu â darparwyr hyfforddiant yng Nghanada a'r Unol Daleithiau, yn ogystal â ledled y Deyrnas Unedig a rhannau o Ewrop.

 

“Mae hyfforddi a mentora gweithredol wedi datblygu llawer mwy mewn marchnadoedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn enwedig ar gyfandir Gogledd America, felly mae'n bwysig i ni aros ar flaen y gad o ran y rhaglenni rydyn ni’n eu darparu a'r ffordd rydyn ni’n eu cyflwyno,” esboniodd Paul Rees, cyfarwyddwr a hyfforddwr gydag Accolade Executive Business Coaching.

 

Cynrychiolwyr ar eu hennill drwy ddysgu ar-lein

 

Yn flaenorol, byddai'n rhaid i weithredwyr amsugno dogfennau hir cyn mynd i sesiynau tiwtorial wyneb yn wyneb a sesiynau datblygu gweithredol er mwyn cwblhau eu rhaglenni. Ond mae'r feddalwedd newydd yn eu galluogi i ymgysylltu â hyfforddwyr a mentoriaid busnes drwy gyfrwng rhyngweithiadau 'e-Ffurflenni' a fideo.

 

Mae'r penderfyniad strategol i symud holl ddeunyddiau'r rhaglen o fformatau PDF sefydlog i lwyfan digidol rhyngweithiol wedi ei deilwra wedi trawsnewid y busnes. Mae’r broses wedi gwneud y gwaith o gyfathrebu â chynrychiolwyr yn fwy effeithlon, ac ar yr un pryd mae’n rhoi'r profiad dysgu gorau posibl iddyn nhw. 

 

“Erbyn hyn, mae gan gleientiaid hyfforddi y dewis i ymuno â’n rhaglenni pwrpasol fel maen nhw'n dymuno, gan weithiau dreulio cyn lleied â 15 munud mewn sesiwn,” ychwanegodd Paul. “Gan fod yr hyfforddwr neu'r mentor yn cael diweddariadau amser real ar gynnydd unigolion neu aelodau gwahanol o fewn grŵp mentora, maen nhw hefyd yn gallu cynnig cymorth wedi ei deilwra ar yr adeg briodol.”

 

Mae'r potensial ar gyfer twf yn enfawr

 

Yn ogystal â rhoi modd i Accolade fod yn amlwg ymhlith ei gystadleuwyr, mae'r newid i ddeunyddiau digidol yn golygu bod y cwmni'n gwella ansawdd ei raglenni’n barhaus drwy adolygu perfformiad a monitro hyfforddi a mesur canlyniadau dysgwyr. Mae'r dull pwrpasol hwn wedi sicrhau cleient mawr newydd i Academi Accolade yn Nhalaith Ohio yr Unol Daleithiau, i gyflwyno rhaglen na fyddai wedi gallu digwydd heb y dechnoleg newydd.

 

Wrth i'r busnes barhau i ddiweddaru ei raglenni, a symud i farchnadoedd newydd, mae'r potensial ar gyfer twf yn enfawr. Yn ôl Paul, mae Accolade Executive Business Coaching yn “fusnes o Gymru sy’n ffynnu ac sydd ar fin tyfu’n enfawr,” gyda rhagamcan y bydd y contract newydd yn Ohio yn helpu i gynyddu trosiant blynyddol y cwmni hyd at 350%. Ar hyn o bryd mae ganddo bum hyfforddwr busnes ar ei lyfrau, gan gynnwys un sydd wedi ei leoli’n barhaol yn yr Unol Daleithiau, ond mae'n gweld y potensial i ddyblu'r nifer hwn dros y tair blynedd nesaf.

 

“Mae gennym ragor o amser i’w fuddsoddi mewn datblygu'r busnes”

 

Er mwyn ategu'r uchelgais hon, mae angen i Accolade barhau i fod yn gystadleuol, felly mae'n ystyried defnyddio technolegau eraill a allai ychwanegu gwerth. Mae hyn yn cynnwys cyfrifiaduron tabled ysgrifennu electronig o'r radd flaenaf sy'n galluogi hyfforddwyr i gynnal sesiynau bwrdd gwyn rhithwir a rhoi diweddariadau ar unwaith i'w cleientiaid; yn ogystal ag arloesiadau eraill wrth iddyn nhw ddod ar gael. Yn ogystal, ceisiodd y cwmni gymorth gan Cyflymu Cymru i Fusnesau gyda’i fwriad i wneud y mwyaf o botensial technoleg wedi ei alluogi gan fand eang, gan ddal gafael yn yr ymagwedd 'bersonol' sydd wedi bod o gymorth mawr i’r busnes ers iddo gael ei lansio yn 2005.

 

“Mae'n dal i fod yn bwysig i ni gadw lefel benodol o ryngweithio wyneb yn wyneb gyda'r swyddogion busnes; ac rydyn ni hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chleientiaid i sicrhau bod ein rhaglenni'n cael eu mireinio'n barhaus i ddiwallu eu hanghenion sefydliadol,” ychwanegodd Paul. “Fodd bynnag, y gwahaniaeth erbyn hyn yw bod hyn yn cyfrif am oddeutu chwarter ein rhyngweithiadau, yn hytrach na'r 75% fel yr oedd pethau o'r blaen, sydd nid yn unig yn gwneud y broses yn fwy effeithlon, ond hefyd yn ein galluogi i fuddsoddi llawer mwy o amser wrth ddatblygu'r busnes.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen