Mae’r corff Addysg Bellach sy'n helpu i godi proffil addysg bellach ledled Cymru wedi ymgymryd â gwaith ailstrwythuro digidol sylweddol dros y 18 mis diwethaf, fel rhan o'i strategaeth i baratoi ei hun ar gyfer yr heriau sylweddol mae'r sector yn eu hwynebu.

 

Mae ColegauCymru wedi cynnal adolygiad llawn o'i wefan, wedi buddsoddi mewn systemau newydd yn y cwmwl i gynyddu effeithlonrwydd a hyblygrwydd ei weithlu, ac wedi cynyddu ei weithgarwch marchnata digidol - y cyfan yn rhan o ddull integredig o wella cyfathrebu allanol a rhoi hwb i dwf mewn refeniw. Yn ogystal, mae'r sefydliad wedi uwchraddio i rwydwaith band eang ffibr yn ei swyddfeydd yn Nhongwynlais.

 

Laptop

 

Mae ColegauCymru yn sefydliad nid er elw sy'n cael ei arwain gan ei aelodau, sy'n cynrychioli pob un o'r 13 o golegau a sefydliadau addysg bellach ar draws y wlad, gan hyrwyddo manteision addysg a dysgu gydol oes ôl-orfodol, a gweithredu fel llais ar y cyd wrth ymwneud â’r Llywodraeth a llunwyr polisi.  Fel elusennau eraill, mae'n wynebu nifer o heriau, yn enwedig bwriad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2019. Gan ei fod yn gweithredu mewn marchnadoedd Ewropeaidd a rhyngwladol, mae'n elwa ar ffrydiau cyllido prosiectau symudedd Erasmus+ ar hyn o bryd, sy'n darparu cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr o Ewrop yng Nghymru ac i'r gwrthwyneb; nid yw'n glir eto a fydd y cyllid hwn yn parhau.

 

Mae staff yn gallu gweithio'n hyblyg drwy’r cwmwl

 

Aeth ColegauCymru i weithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau ar gysylltedd digidol, a symudodd ei staff i lwyfan newydd yn y cwmwl, gan roi modd i weithio’n fwy hyblyg - yn enwedig i'r rhai sydd angen gweithio o bell. Mae'r newidiadau wedi arwain at welliannau sylweddol o ran diogelwch data, gan osgoi'r angen i ddefnyddio cofau bach USB neu drosglwyddo data i ffwrdd o'r gweinydd.

 

Mae buddsoddi mewn Office 365 wedi bod yn fuddiol wrth i staff weithio ar brosiectau gyda chontractwyr allanol a’r angen i rannu gwybodaeth gyda'i gilydd, gan feithrin dull mwy cydweithredol. Mae gweithwyr yn defnyddio SharePoint i gael mynediad at gyfathrebu diogel, mewnol sydd wedi helpu'r busnes i gael ei dystysgrif Cyber ​​Essentials ac wedi rhoi hwb i’w ymdrechion i sicrhau bod ei holl rwydweithiau'n cael eu hamddiffyn yn ddigonol rhag seiber-ymosodiadau.

 

Mae Gwasanaethau Fforwm - adain fasnachol yr elusen - eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol yn ei weithgarwch o ganlyniad uniongyrchol i'r strategaeth ddigidol, ac mae cynlluniau ar y gweill erbyn hyn i recriwtio gweithiwr newydd i oruchwylio ailddatblygu ei bresenoldeb ar-lein ar y we, yn ogystal ag arwain ar ei uchelgais i gynyddu ei weithgarwch marchnata digidol.

 

Mae buddsoddi mewn digidol yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell

 

“Ein nod yw dod yn sefydliad 'digidol yn gyntaf' ac edrych ar bob dewis i wneud y gorau o'r buddion sy'n deillio o ddatblygiadau mewn technoleg,” meddai Julie Osman, cyfarwyddwr gweinyddu busnes ColegauCymru.  “Rydyn ni’n dod yn fwy hyfedr yn barod wrth ddefnyddio cyfryngau digidol i rannu a lledaenu gwybodaeth gyda chwsmeriaid, rhanddeiliaid a'r gymuned ehangach.

 

“Mae'r heriau rydyn ni’n eu hwynebu nawr yn wahanol iawn i’r rhai a oedd yn bod tua deg neu bymtheg mlynedd yn ôl. Mae newidiadau strwythurol a chyfuno colegau wedi golygu gostyngiadau parhaus mewn cyllid a gostyngiad mewn tanysgrifiadau aelodaeth. Gan hynny, mae angen i ni fod ar flaen y gad o ran cynhyrchu ein hincwm ein hunain yn y dyfodol, yn ogystal â rhagfynegi tueddiadau cwsmeriaid a’r farchnad, er mwyn sicrhau ein cynaliadwyedd parhaus mewn cyfnod ansicr o safbwynt economaidd.

 

“Bydd gwedd newydd ein presenoldeb ar y we a'n strategaeth marchnata digidol newydd yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau y gallwn barhau i gynrychioli anghenion a dyheadau'r sector ac na fyddwn ni ar ei hôl hi wrth i’r farchnad ddatblygu. Mae'r buddsoddiad rydyn ni wedi ei wneud - o ran amser ac arian - wrth hyfforddi staff mewn adnoddau digidol, hefyd yn golygu ein bod yn gallu gweithio'n fwy effeithiol a sicrhau gwell gwerth am arian drwy'r tanysgrifiadau elusennol a gawn ni.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen