Mae perchennog busnes, a symudodd o Gaerdydd i Lanilltud Fawr er mwyn bod mewn lleoliad mwy gwledig, yn ffynnu er gwaethaf gofidiau cychwynnol na fyddai’n gallu cael mynediad i gysylltiad rhyngrwyd cryf a dibynadwy – rhywbeth sy’n allweddol er mwyn i’w fusnes lwyddo.

 

Mae angen cyflymdra rhyngrwyd cyflym ar Darren Witts, sy’n cynnal y cwmni dylunio graffig Treganna Design, er mwyn rhannu ffeiliau graffig mawr gyda chleientiaid. Ac mae, nid yn unig wedi cyflawni ei nod o gael y cydbwysedd cywir rhwng gwaith a bywyd, ond y mae wedi cael y cyswllt gorau posibl drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd ymgysylltiol er mwyn denu chwe chleient newydd.

 

Picture of a man

 

Roedd Darren yn byw’n flaenorol yng nghanol y ddinas, ond erbyn hyn mae’n byw bywyd llai prysur mewn lleoliad gwledig. Mae mynd â’r ci am dro yn y caeau cyfagos ac ar hyd llwybrau’r arfordir, yn ogystal â rhedeg o gwmpas yr ardal leol, erbyn hyn yn rhan o’i ddiwrnod gwaith.

 

Mae’r busnes wedi cychwyn yn llewyrchus yn y dref, diolch i’r ffaith fod Darren yn defnyddio Twitter mewn ffordd glyfar. Yn ogystal ag ennill cytundebau newydd, mae wedi sylwi ar gynnydd o 23% yn yr ymwelwyr ar ei wefan, y mae’n gobeithio bydd yn arwain at ymholiadau pellach. 

 

Er mwyn cael cymorth i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol, mynychodd Darren ddosbarth meistr cyfryngau cymdeithasol Cyflymu Cymru i Fusnesau a oedd, yn ei farn ef, yn amhrisiadwy.

 

Meddai: “Roedd yn trafod popeth, o’r pethau i’w gwneud neu beidio â’u gwneud i’r elfennau mwy strategol gan gynnwys yr amser gorau i gyhoeddi cynnwys a beth sy’n gweithio’n dda. Er enghraifft, mae negeseuon trydar gyda lluniau yn cael eu hail-drydar 150 y cant yn fwy na’r rhai heb luniau felly dw i’n ceisio defnyddio gymaint o ddeunydd gweledol â phosibl. 

 

“Mae’r math o waith dwi’n ei wneud yn dibynnu ar gael cyswllt rhyngrwyd cyflym er mwyn lawrlwytho a lanlwytho meintiau ffeiliau mawr iawn i’r cwmwl ac o’r cwmwl.  Roedd gen i bryderon mawr y byddai cyflymdra’r band eang yn fy arafu ac y byddai’r ffibr yn rhy ddrud. Buddsoddais mewn band eang ffibr, a oedd yn gost-effeithiol, tua £30 y mis, ac eisoes ar gael yn yr ardal, a dw i ddim wedi edrych yn ôl.

 

“Mae gen i gymaint mwy o hyder wrth ymdrin â’r cyfryngau cymdeithasol. Dwi bellach hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau yn yr ardal er mwyn eu cynorthwyo nhw gyda’u cyfryngau cymdeithasol. Dw i hyd yn oed wedi creu cyfrif Twitter dw i bellach yn ei reoli, sef @LovingLlantwit, sy’n cefnogi ac yn dathlu busnesau a digwyddiadau yn y dref.”

 

Mae argaeledd band eang cyflym iawn wedi tyfu yng Nghymru, gyda dros wyth o bob 10 safle bellach yn gallu cael mynediad iddo, o gymharu â dros hanner yn 2014. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal cynllun talebau i fusnesau, gan roi’r opsiwn iddyn nhw o gael mynediad i gyflymdra cyflym iawn.

 

Mae’r llwyddiannau o ran cytundebau wedi cynnwys brandio ar gyfer dechrau a chynllunio ar y we i sefydliadau sefydledig, ac mae Darren yn integreiddio ei werthiannau ar-lein ac all-lein a’i weithgaredd marchnata gan gynnwys rhwydweithio ac aelodaeth er mwyn hybu canlyniadau.

 

Ychwanegodd: “Mae tagio pobl mewn sylwadau yn cynyddu ymgysylltiad, felly pan dw i’n mynychu digwyddiad rhwydweithio dw i bob amser yn tagio’r trefnwyr yn fy nghynnwys ac yn defnyddio hashnodau perthnasol. Mae cynnwys hashnod yn golygu bod y cynnwys 33 y cant yn fwy tebygol o gael ei ail-drydar. Yn sgil hyn dw i’n sylwi ar gynnydd o ran dilynwyr a thraffig y wefan. Gall un peth ar y cyfryngau cymdeithasol arwain at gyfleoedd newydd, felly mae cael Wi-Fi dibynadwy a dysgu mwy am y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn hanfodol i gynyddu’r busnes fan hyn.

 

“Bu cynnydd o 23 y cant mewn traffig i’r wefan. Dw i’n gwirio fy Google Analytics bob diwrnod neu ddau er mwyn gweld o ble mae’r ymwelwyr wedi dod, ac mae cysylltiad fel arfer rhwng gweithgareddau marchnata ac ymweliadau â’r safle.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen