Ers newid o systemau papur i systemau digidol, mae A&M Generators, sy’n cyflenwi ac yn profi generaduron i awdurdodau lleol, yr heddlu, ein cyflenwadau dŵr a hyd yn oed y BBC, wedi gweld cynnydd o 20% mewn busnes newydd ac wedi sicrhau enillion cynhyrchiant drwy arbed 600 o oriau y mis. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar elw’r cwmni, ond mae hefyd yn caniatáu iddo leihau’r amser y mae’n ei gymryd i gynnal profion ar safle a gwneud adroddiad ar offer hanfodol, o wythnos i 24 awr.

Fel nifer cynyddol o fusnesau yng Nghymru, mae A&M yn defnyddio datrysiadau digidol, fel Google Drive, i hybu cynhyrchiant ym mhob agwedd ar ei fusnes - o waith cynhyrchu arweiniol i amcangyfrifon swyddi a chyfrifyddu. Ond mabwysiadu GoCanvas, pecyn meddalwedd rheoli swyddi y gellir ei addasu, sy’n cael ei ddefnyddio gan fusnesau peirianneg, sydd wedi gwneud gwahaniaeth hanfodol i allu’r cwmni i ragweld problemau ac ymateb i argyfyngau cwsmeriaid.

A generator provided by A & M Generators

“Gallwn fewnbynnu data ar safle mewn amser real fel bod modd rhannu adroddiadau ar unwaith â’n cwsmeriaid”

“Mae data ar gyfer pob un o’n generaduron yn cael eu storio’n ddiogel yn y Cwmwl a gellir cael mynediad atynt drwy gyfrwng cyfrifiadur personol neu ap tra mae peirianwyr yn gweithio ar y dasg. Mae’n swnio’n fater bach, ond mae’n golygu y gallwn fewnbynnu data ar safle mewn amser real fel bod modd rhannu adroddiadau ar unwaith â’n cwsmeriaid, sy’n cytuno ar gamau unioni yn y fan a’r lle. Mae’n bwysig oherwydd bod gallu trefnu gwaith atgyweirio a thynnu sylw at faterion posibl yn ymwneud â chydymffurfio yn golygu y gallwn gynllunio’n rhagweithiol a chwblhau gwaith yn effeithlon, a thrwy hynny sicrhau llif arian,” meddai rheolwr datblygu busnes A&M, Shaun Harrison.

Erbyn hyn mae bron i dri chwarter busnesau bach a chanolig Cymru yn defnyddio platfformau ar-lein i sicrhau enillion cadarnhaol, yn ôl Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru 2018 a gynhyrchwyd gan Brifysgol Caerdydd. Yn achos A&M mae hyn wedi lleihau’r gwaith papur drwy awtomeiddio prosesau i sicrhau cydweithredu mwy clyfar, gan arbed 600 awr y mis. Gwnaeth hyn i’r cwmni sylweddoli ei fod mewn sefyllfa dda i gynyddu nifer ei gwsmeriaid, felly ymunodd â rhaglen sy’n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru, Cyflymu Cymru i Fusnesau, lle cafodd hyfforddiant a chyngor busnes un i un i’w helpu i wella ei wefan a’i strategaeth cyfryngau cymdeithasol er mwyn denu ymholiadau newydd.

A & M Generators' van.

“Mae manteision buddsoddi mewn systemau digidol wedi bod yn amlwg ac mae ymwneud â’r rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau yn ddiweddar wedi bod yn hwb arall i ni”

“Un o’r pethau cyntaf wnaethon ni oedd buddsoddi mewn pecyn dadansoddeg newydd er mwyn i ni allu tracio ein perfformiad ar-lein a gweld pa dactegau oedd yn gweithio,” meddai Harrison. “Rydyn ni’n dal i ddefnyddio Google AdWords i redeg ymgyrchoedd hysbysebu y telir amdanynt ond mae mwy na thraean o’r traffig i’n gwefan bellach yn dod o ffynonellau organig, o’i gymharu â dim ond un rhan o bump chwe mis yn ôl. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod cynnwys y wefan yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd er mwyn gwella gwelededd peiriannau chwilio a rhoi mwy o bwyslais ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook a LinkedIn. Mae hyn wedi caniatáu i ni leihau costau hysbysebu ar-lein a chynyddu traffig cyffredinol i’r wefan.”

“Mae gweithio ar system cwmwl wedi gwneud popeth yn gyflymach ac yn haws”

O ganlyniad i lwyddiant ei strategaeth ddigidol, mae A&M Generators yn bwriadu datblygu ei wefan ymhellach, o bosibl drwy ychwanegu platfform e-fasnach i’w alluogi i dderbyn archebion a thaliadau ar-lein, a sicrhau cysylltiad uniongyrchol â QuickBooks, system gyfrifyddu ar-lein y cwmni. “Mae manteision buddsoddi mewn systemau digidol wedi bod yn amlwg ac mae ymwneud â’r rhaglen Cyflymu Cymru i Fusnesau yn ddiweddar wedi bod yn hwb arall i ni,” meddai Harrison.

“Mae gweithio ar system cwmwl wedi gwneud popeth yn gyflymach ac yn haws, o rannu ffeiliau mawr â chleientiaid i ddod o hyd i ddyfyniadau neu adroddiadau hanesyddol am gynnal a chadw generaduron. Mae’r arbedion effeithlonrwydd hyn wedi’n galluogi i ddarparu gwell gwasanaeth ac i fuddsoddi rhagor o amser yn gwneud y pethau y mae angen i ni eu gwneud er mwyn i’r busnes dyfu.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen