Gall troi at Y Rhyngrwyd Pethau (IoT) wneud eich busnes yn fwy craff ac yn fwy effeithlon ac mae’n haws nag y byddech yn ei ddisgwyl.

Mae’n ffaith syml, ond mae busnesau sy’n fwy craff yn fwy llwyddiannus. Mae’r busnesau craffaf yn fwy effeithlon, yn gweithio i dargedau, ac maent yn dibynnu ar ddata i wneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg iawn. Ond, sut mae bod yn fwy craff? Sut mae cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch pan fydd ei hangen arnoch fwyaf? Yr ateb, mewn sawl achos, yw Y Rhyngrwyd Pethau (IoT).

Yn y termau mwyaf sylfaenol, mae’r IoT yn cyfeirio at unrhyw ddyfais sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd. Yn fwy penodol, pan fyddwn yn siarad am IoT ar gyfer busnesau, rydym yn golygu cysylltu systemau â’r rhyngrwyd a defnyddio synwyryddion ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd i gasglu data pwysig.

A farmer in a barn with cows.

 

Er enghraifft, beth am gyfleuster gweithgynhyrchu, lle mae’r llinell gynhyrchu yn riportio diffygion ar unwaith er mwyn adfer yn gyflymach. Neu fferm lle mae’r ffermwr yn gwybod beth yw statws amser real amodau’r pridd neu leoliad anifeiliaid. Fel y gwelwch ar y tudalennau dilynol, mae Cymru ar flaen y gad o ran defnyddio IoT mewn sefyllfaoedd gwledig a dinesig, gan ddefnyddio technoleg Rhwydwaith Ardal Eang Pellter Hir (LoRaWAN) a ddyluniwyd yn arbennig.

Ond dyw IoT ddim yn ymwneud yn unig â’r hyn y gallwch ei ddefnyddio i wella’ch busnes yn y man gweithredu, mae hefyd yn ffordd o ail-edrych ar y cynhyrchion a’r gwasanaethau rydych yn eu gwerthu.

A oes modd i chi wneud bywyd yn well i’ch cwsmeriaid trwy sicrhau bod cynhyrchion a gwasanaethau ar gael iddyn nhw trwy ddefnyddio’r rhyngrwyd? Neu a oes yna gynhyrchion / gwasanaethau newydd y gallwch chi eu lansio sy’n manteisio ar dechnolegau IoT newydd? Yn hytrach na bod yn barth cwmnïau technoleg mawr, mae IoT yn creu posibiliadau all fod o fudd i fusnesau bach a chanolig eu maint hefyd. Dim ond eich creadigrwydd sy’n eich dal yn ôl ...

 

Gweler sut y gall Cyflymu Cymru i Fusnesau gefnogi eich busnes

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen