Gall dyfeisiau sydd wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd ddatgloi potensial llawn busnesau, gan agor marchnadoedd newydd a chreu ffyrdd mwy effeithiol fyth o weithio.

Yn ei ystyr ehangaf bosibl, mae y Rhyngrwyd Pethau (IoT) yn cyfeirio at unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd, o ffôn clyfar i gar heb yrrwr. Agweddau allweddol dyfeisiau IoT yw eu gallu i gyfathrebu gwybodaeth a chael eu rheoli o bell. Er mor eang yw’r diffiniad hwn, mae IoT yn golygu rhywbeth llawer symlach i fusnesau mewn gwirionedd: cyfle.

Gellir gweld effaith IoT a’r buddion a ddaw yn ei sgil yn y ffaith ei fod yn tyfu ar raddfa fawr. Yn ôl rhagolygon gan IDC, bydd 41.6 biliwn o ddyfeisiau IoT wedi’u cysylltu erbyn y flwyddyn 2025, gan gynhyrchu 79.4 zettabytes (ZB) syfrdanol o ddata.

Ymhell o fod yn barth busnesau mawr, mae technoleg IoT yn fwyfwy hygyrch i gwmnïau o bob maint. Mae’r hygyrchedd hwn yn rhoi cyfle i fusnesau ledled Cymru gael cyrhaeddiad byd-eang ac i allu gwasanaethu eu marchnadoedd domestig yn well gyda nodweddion mwy craff ac estynedig.

Mae dwy brif ffordd y gall busnesau ddefnyddio dyfeisiau IoT. Yn gyntaf, o ymgorffori cysylltedd rhyngrwyd yn eu cynhyrchion, gall busnesau Cymru gyflwyno mwy o nodweddion i gwsmeriaid ac ehangu eu cyrhaeddiad. Mae dyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r Rhyngwyd yn farchnad sy’n tyfu, gyda phopeth o synwyryddion amgylcheddol i ddyfeisiau cartref craff eisoes yn cyfathrebu dros y rhyngrwyd.

Y rheswm bod gan gynifer o ddyfeisiau gysylltiad rhyngrwyd yw eu bod yn ymestyn yr hyn y gall cynnyrch ei gyflawni. Mae buddion nodweddiadol dyfeisiau IoT yn cynnwys rheoli o bell, megis gallu troi’r gwres ymlaen o unrhyw fan yn y byd; awtomeiddio, fel troi goleuadau ymlaen ac i ffwrdd yn awtomatig; a chyfathrebu, gan rybuddio’r defnyddiwr os yw larwm yn canu.

Mae Tendertec o Gaerdydd yn enghraifft dda o’r hyn y gall IoT ei gyflawni. Disgwylir i’r cwmni lansio ei system monitro cartrefi ar gyfer yr henoed yn fuan, a fydd yn gallu monitro cwympiadau, amodau nad ydynt yn iach, amodau dan do anarferol ac unigrwydd, gan gyfathrebu â gofalwyr trwy ap symudol. Yma, bydd cysylltedd IoT yn galluogi pobl oedrannus fyw eu bywydau tra’n darparu tawelwch meddwl i ofalwyr, ni waeth ble maen nhw.

Dyw IoT ddim yn ymwneud yn unig â chynhyrchion y bydd defnyddwyr yn eu prynu, gan fod y dechnoleg yr un mor berthnasol i ddiwydiant ac ydyw i sefyllfaoedd domestig. Mae dyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd yn darparu synnwyr ac ystyr yn awtomatig i fusnesau, gan roi mynediad iddynt i ddata amser real a’u galluogi i wneud penderfyniadau mwy craff a hyd yn oed arbed arian. Gyda llinell gynhyrchu er enghraifft, gall synwyryddion fwydo manylion problemau yn ôl i gonsol canolog yn awtomatig. Os bydd y llinell gynhyrchu yn stopio, gellir cyflymu’r gwaith o ddiagnosio’r broblem, gan fod y consol canolog yn dweud wrthych ble a beth yw’r broblem. Mae’r dyfodol yn anelu at gynnal a chadw rhagfynegol, yn hytrach nag adweithiol, lle mae synwyryddion yn monitro statws offer ffatri a deallusrwydd artiffisial yn olrhain y data i ragweld diffygion cyn iddynt beri problemau difrifol.

Mae olrhain yn agwedd fawr arall ar IoT diwydiannol, gan ddefnyddio synwyryddion integredig i olrhain lleoliad amser real asedau. P’un a yw’n offer, cydrannau ar gyfer llinell gynhyrchu, cynhyrchion mewn warws, neu hyd yn oed ddefaid ar fferm, mae IoT yn lleihau’r amser y mae pobl yn ei dreulio yn chwilio am bethau, a hyd yn oed yn creu’r posibilrwydd o adfer yn awtomatig.

Yn syml, mae IoT yn ei gwneud hi’n haws i weithredu llawer o brosesau, gan ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol yn gyflymach, a’i gwneud hi’n haws awtomeiddio prosesau. Mae hon yn daith yr aeth Rototherm o Bort Talbot arni, pan benderfynodd y cwmni, sydd wedi bod yn gwneud synwyryddion am dros 170 o flynyddoedd, ddefnyddio IoT a darparu dyfeisiau cysylltiedig i’w gwsmeriaid. Gyda’i system fonitro newydd ar lefel tanc, gall cwsmeriaid reoli stocrestr tanciau tanwydd mewn munudau, yn hytrach na dyddiau, lle mae’r system adroddiadau canolog yn rhoi statws cyflawn o danciau sydd wedi’u dosbarthu’n ar hyd a lled.

Mae Rototherm yn enghraifft arall sy’n dangos pŵer IoT o’r ddwy ochr. Fel gwneuthurwr cynnyrch, roedd defnyddio IoT yn caniatáu i’r cwmni ddarparu cynhyrchion newydd a mwy craff. I gwsmeriaid, cawsant fynediad at gynnyrch a oedd yn gwneud gwaith anodd yn haws.

Dyma sut y dylai pob cwmni ddefnyddio IoT, gan edrych i weld a ellir symleiddio prosesau a thechnoleg sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd neu a ellir ei ddefnyddio i wella’u cynnyrch.

Fel yr esboniodd Oliver Conger, perchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr Rototherm Group: “Os ydych chi wir eisiau medi buddion technolegau newydd a’r IoT yn eich busnes gweithgynhyrchu yng Nghymru, yna ystyriwch syniadau newydd ac anarferol a rhowch gynnig ar rywbeth newydd, a dysgwch. O herio’ch busnes i esblygu gyda thechnoleg wedi’i diweddaru gallwch wella ei safle mewn sector sy’n newid yn gyflym ac yn esblygu.”

Mae cydrannau i adeiladu cynhyrchion IoT yn gymharol rhad, ac mae twf yn nifer y cynhyrchion a alluogir gan IoT ar gyfer diwydiant, gan roi’r dechnoleg gyffrous hon o fewn ffiniau cwmnïau bach a mawr. Y peth allweddol yw cymryd yr amser i ddeall y dechnoleg ac adeiladu ar yr hyn y gellir ei gyflawni.

Dywedodd Conger y treuliodd y cwmni ddwy flynedd yn gweithio ar y prosiect a bod angen i gwmnïau “fuddsoddi amser i ddeall yr hyn y gall technolegau newydd a’r IoT ei wneud i’w busnesau.” Felly, dechreuwch feddwl. Sut y gall dyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd chwyldroi’r hyn a wnewch chi?

 

Gweler sut y gall Cyflymu Cymru i Fusnesau gefnogi eich busnes

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen