Cyhoeddwyd y postiad hwn yn gyntaf yn Mawrth 2018, ond gall y wybodaeth fod yn ddefnyddiol i fusnesau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Sylwch y mae'n bosib na fydd rhywfaint o wybodaeth yn gyfredol - gallwch ddod o hyd i'n canllawiau COVID-19 diweddaraf yma.

Cliciwch yma i gael cyngor COVID-19 diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr.


Siwrne’r defnyddiwr yw’r llwybr y mae ymwelydd yn ei ddilyn ar eich gwefan. Y nod ar gyfer siwrne'r defnyddiwr yn y pen draw yw gyrru'r ymwelydd tuag at nod penodol fel: prynu rhywbeth, cofrestru i dderbyn cylchlythyr, dilyn y brand ar gyfryngau cymdeithasol neu danysgrifio i wasanaeth.

 

Gallai hyn swnio'n hollol amlwg ond y ffordd hawsaf o wella siwrne’r defnyddiwr yw ei gwneud yn hawdd. Yn rhy aml mae busnesau’n gosod rhwystrau ar y llwybr sy’n golygu bod y siwrne’n hirach ac yn cymryd mwy o amser, yn gofyn mwy o ymdrech gan y defnyddiwr neu’n anodd ei dilyn.

 

Drwy adolygu siwrne'r defnyddiwr, gallwch feddwl pa gamau (e.e. tudalen neu broses fel clicio botwm) y gall defnyddiwr eu cymryd ar draws y wefan, pa mor hawdd yw cwblhau’r siwrne a pha mor hir y mae’n ei gymryd, fel y gallwch ei symleiddio a chreu mwy o fusnes.

 

Darllenwch y chwe pheth er mwyn cychwyn:

 

Mapio siwrneiau eich defnyddwyr

 

Dechreuwch drwy ddeall y gwahanol siwrneiau y gallai ymwelwyr fynd arnynt ar eich gwefan i wneud gwahanol dasgau neu i gyrraedd rhywle. Cofiwch y gall siwrne fod yn unrhyw beth o ymweld ag un dudalen heb lawer o ryngweithio, i siwrne drwy sawl tudalen gan gynnwys darllen blog, edrych ar adolygiadau, ymchwilio i gynhyrchion a chwblhau pryniant.

 

Bydd hyn yn fan cychwyn ar gyfer symleiddio a dileu unrhyw gamau, oedi neu broblemau diangen. Sut y mae gwahanol fathau o gwsmeriaid fel arfer yn symud drwy eich gwefan a beth yw'r prif gerrig milltir ar eu siwrne? Os oes tudalen gyffredin y mae defnyddwyr yn ei gadael, efallai ei bod yn rhwystro’r siwrne?

 

Perfformiad technegol

 

Er bod cynnwys, lluniau a’r camau a gymerir ar y wefan yn bwysig, bydd y cwbl yn ddiwerth os nad yw’r wefan yn gweithio’n dechnegol. Pa mor hir y mae tudalennau’n ei gymryd i lwytho? A oes unrhyw ddolenni marw? A oes unrhyw dudalennau sy’n gwrthod llwytho? Bydd hyn i gyd yn rhwystro’r siwrne ac yn eu gwneud yn fwy tebygol o adael y llwybr a chlicio allan o’ch gwefan.

 

Faint o gamau?

 

Meddyliwch a oes unrhyw gamau diangen ar y siwrne. Er y gallech boeni am golli gwybodaeth, byddwch efallai’n canfod bod tudalennau ar eich gwefan sy’n ailadrodd gwybodaeth gan wneud y siwrne’n hirach i’r defnyddiwr. Cofiwch fod pob tudalen neu weithred gan ddefnyddiwr yn gyfle iddynt golli diddordeb, diflasu neu golli ffocws. Dylai pob siwrne eu cyflwyno’n gryno gyda’r unig wybodaeth sydd ei angen arnynt i wneud penderfyniad a symud ymhellach i lawr y llwybr.

 

Botymau clir

 

Dylai eich botymau gweithredu (CTA) neu’r dolenni sy’n gyrru eich ymwelwyr at nod penodol fod yn glir a hawdd eu gweld. Peidiwch â dal cwsmeriaid brwd sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn ôl. Meddyliwch am leoliad y botymau neu’r dolenni ar y dudalen, eu maint, lliw, ffont a dyluniad. Dylent sefyll allan fel y cam amlwg nesaf – os nad ydynt, gallai’r cwsmer ddiflannu i rywle arall!

 

Ffurflenni cofrestru

 

Efallai bod gennych siwrne defnyddiwr wych drwy eich gwefan, sy’n arwain y cwsmer at bwynt lle maen nhw’n barod i brynu. Ond os ydynt yn wynebu ffurflen gofrestru gymhleth sy’n teimlo fel tipyn o drafferth, maen nhw’n debygol o golli diddordeb a rhoi’r gorau iddi.

 

Dechreuwch drwy asesu eich ffurflenni cofrestru a gofyn i chi eich hun:

  • Ydyn ni ond yn casglu’r manylion sydd gwir eu hangen?

  • Ydy’r ffurflen yn hawdd ei darllen a mynd trwyddi?

  • Ydy’r ffurflen yn hawdd ei llenwi?

  • A oes unrhyw flychau y gallwn eu tynnu allan?

  • Ydy’r ffurflen yn llwytho’n iawn ar ddyfeisiau symudol?

  • A oes gwir angen ffurflen gofrestru?

Gallai rhai busnesau benderfynu adael i gwsmeriaid gwblhau nodau penodol - fel symud drwy’r broses brynu - heb gofrestru. Ond os nad yw hyn yn realistig i’ch busnes chi, ceisiwch wneud y broses o gasglu manylion yn gyflym, hawdd a didrafferth i’r defnyddiwr.

 

A oes cam ar goll?

 

Yn ogystal â chreu llai o gamau i wneud siwrne'r defnyddiwr yn gynt a haws, dylech efallai ystyried a ydych yn colli cam neu wybodaeth bwysig a allai helpu cwsmeriaid ar eu llwybr.

 

Bydd dadansoddi eich gwefan yn helpu i ddangos a oes unrhyw bwynt ar y siwrne lle’r ydych yn colli darpar gwsmeriaid. Allech chi gynnwys tysteb yma? A oes unrhyw ddolen farw? A oes botwm gweithredu ar goll? Ydych chi’n symud defnyddwyr o un cam i'r nesaf yn rhy gyflym heb gynnig digon o wybodaeth i’w helpu i wneud penderfyniad? Bydd mapio eich siwrneiau yn eich helpu i ddeall a ydych wedi creu amrywiaeth o lwybrau gyda’r holl gamau angenrheidiol!

 

Os am dderbyn mwy o arweiniad ar sut i wella eich gwefan er mwyn gwerthu mwy, cofrestrwch nawr i fynychu’r gweithdy Llwyddo gyda Gwefannau gan Gyflymu Cymru i Fusnesau.

 

Am ehangu’ch dysg ond heb yr amser i fynychu digwyddiad?

Cymerwch olwg ar fodiwlau dysgu ar-lein newydd #cyflymubusnesau i dyfu’ch busnes!

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen