Oeddech chi’n gwybod bod 41% o berchnogion busnesau bach yn dweud na fyddai eu busnes wedi goroesi heb ddigidol yn ystod y pandemig?  

open laptop, plant, notebook and a person holding a cup of coffee


Ac nid goroesi’n unig y mae busnesau gyda digidol, ond ffynnu. Yn wir, mae’r rhifyn diweddaraf o Lloyds Bank Business Digital Index yn dangos bod busnesau sy’n croesawu digidol bron dwywaith yn fwy tebygol o fod wedi cynyddu eu trosiant. 

Mae’r adroddiad hwn yn dangos hefyd fod 61% o fusnesau’n bwriadu parhau â’r arferion digidol newydd roedden nhw wedi’u mabwysiadu yn ystod y pandemig. 

Does dim dwywaith nad yw technoleg wedi gafael yn barhaol. Felly beth yw’r offer digidol hanfodol fydd yn gallu helpu’ch busnes i gynyddu gwerthiant, arbed amser, a dod yn gryfach? 

Dyma’r tri hanfodol: 

Cynyddu Gwerthiant drwy Gyfryngau Cymdeithasol 

Cyfryngau cymdeithasol yw un o’r ffyrdd mwyaf costeffeithiol i gyrraedd cwsmeriaid newydd ar-lein. Roedd nifer y bobl sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol drwy’r byd wedi cyrraedd 4.55 biliwn yn Hydref 2021, ac mae mwy nag un miliwn o ddefnyddwyr newydd yn ymuno bob diwrnod, yn ôl Digital 2021 October GS

Felly y gwir amdani yw bod eich cwsmeriaid eisoes yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ôl pob tebyg, fel bod angen i chi fod ar yr un llwyfannau â nhw, yn ymgysylltu â nhw. Drwy wneud hynny, bydd gennych chi fantais gystadleuol ar-lein a byddwch yn creu gwell cyfleoedd i werthu.   

Un enghraifft dda o hyn yw’r gwneuthurwr gemwaith arbenigol WoodenGold.  Roedd y perchennog Stephen Cichocki wedi gweld bod 90% o’i gwsmeriaid yn defnyddio Instagram, felly roedd wedi adolygu ei strategaeth ddigidol i adlewyrchu hynny, ar ôl cael cyngor gan Cyflymu Cymru i Fusnesau. Drwy dargedu’r marchnata drwy gyfryngau cymdeithasol ar Insta a gwella ei wefan, cafodd gymorth i gynyddu ei werthiant ar-lein 837% yn ystod y pandemig.   

“Drwy feithrin hyder prynwyr a chynyddu nifer y dilynwyr ar Instagram roedd mwy o gwsmeriaid am roi’r modrwyau ar eu bysedd,” meddai Cichocki. 

 

Dewch i weld sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ein gweminar rad ac am ddim  

A computer screen and keyboard, smartphone and tablet on desk

 

Arbed amser gyda’r Cwmwl 

Os ydych chi’n defnyddio e-bost, rydych chi eisoes yn defnyddio’r cwmwl. Nid yw technoleg cwmwl yn ddim mwy nag offer ar-lein neu ar y we, yn cynnwys pethau fel apiau swyddfa, offer cynhyrchiant, mannau i storio data a’u cadw wrth gefn, galwadau fideo, a llawer mwy. Drwy newid o ddefnyddio papur i’r cwmwl, gall hynny fod o help i chi arbed amser a lleddfu pwysau drwy ddarparu mynediad rhwydd at eich gwaith o bell drwy’r amser.

Ac mae’n ymddangos bod busnesau Cymru yn troi fwyfwy at ddefnyddio swyddfa ar-lein yn hytrach na phapur. Mae’r adroddiad ar yr Arolwg Aeddfedrwydd Digidol ar gyfer Cymru 2020 yn dweud bod mwy na 70% o fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru wedi defnyddio systemau cwmwl syml fel e-bost, meddalwedd swyddfa, rhannu ffeiliau a storio. Yn ogystal â hynny, dywedodd 47% eu bod yn cytuno neu’n cytuno’n gryf bod mynediad at wasanaethau band eang yn caniatáu iddynt wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau cwmwl.

Roedd y cwmwl wedi bod yn achubiaeth i un busnes yng Nghaerffili yn ystod y pandemig. Wrth wynebu colled incwm pan oedd ysgolion wedi’u cau ac arholiadau wedi’u canslo, roedd y cwmni tiwtora Educalis wedi gorfod mabwysiadu dull gwahanol o weithio neu wynebu’r risg o golli’r busnes.  

Drwy newid o’r ystafell ddosbarth i’r cwmwl, gyda help gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, roedd yn gallu darparu gwersi ar-lein drwy ddefnyddio Google Classroom a chynnig cymorth hollbwysig i ddisgyblion lleol.  

Roedd y newid i ddarparu ar-lein wedi achub y busnes a chreu cyfleoedd ychwanegol i ennill incwm wrth i fyfyrwyr ymuno o bell ar gyfer dysgu ar-lein.  

“Mae’r newid i ddigidol wedi bod yn dda i ni, a’n gwneud yn barod at beth bynnag a ddaw.” 

 

Dewch i gael gwybod rhagor am ffyrdd mwy hwylus o weithio gyda’r cwmwl 

Magu Seibergadernid 

Mae seiberddiogelwch wedi bod yn bwnc llosg ers y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau seiber yn y blynyddoedd diwethaf. Ac yn groes i’r gred gyffredin, busnesau bach lle mae llai o staff sydd fwyaf agored i’r perygl o fygythiadau seiber yn aml iawn.   

Yn y 12 mis diwethaf, mae cwmnïau wedi profi 44 o ymosodiadau seiber – 1 bob 8 diwrnod – yn y sector manwerthu yn y DU, yn ôl yr adroddiad ar Gyfrifiad Seiberddiogelwch 2021

Mae’n hollbwysig i chi roi amser i ganfod beth fyddai’r risg bosibl i’ch busnes pe byddai’n cael ei dargedu gan droseddwyr seiber. Ac nid cost y pridwerth i’w dalu yw’r unig beth sydd angen ei ystyried ond hefyd a ydych chi’n gallu fforddio’r niwed i’ch enw da os bydd data cwsmeriaid yn cael eu camddefnyddio. 

Gan ddilyn cyngor gan Cyflymu Cymru i Fusnesau, roedd Tarvin Precision wedi mynd ati i ailwampio ei seilwaith TG yn 2017 er mwyn atgyfnerthu ei ddiogelwch ar-lein, dod yn fwy effeithlon ac arbed costau.  

Roedd y camau hyn wedi helpu’r cwmni peirianneg fanwl hwn i gynyddu ei refeniw 20% ac ehangu i farchnadoedd proffidiol.   

“Cawson ni gyngor i newid ein holl beiriannau i’r system weithredu Windows 10, ac mae hyn nid yn unig wedi sicrhau cysondeb ond hefyd wedi gwella seiberddiogelwch o fewn y busnes.  

“Mae hyn yn hanfodol i fusnes yn y diwydiannau awyrofod a modurol, ac rydyn ni ar ganol y broses o ennill achrediad Cyber Essentials i ddangos ein hymroddiad yn y maes hwn.” 

 

Dewch i gael gwybod rhagor am Seibergadernid yn ein gweminar rad ac am ddim


I gael gwybod sut i dyfu’ch busnes gyda digidol, cysylltwch â ni a dewch i weld ein rhaglen gymorth rhad ac am ddim.   


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen