Gall buddsoddi mewn technolegau newydd a meddalwedd arloesol ddod â manteision niferus, megis gwell prosesau, gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a thwf mewn elw.  Fodd bynnag, nid yw’r broses gychwynnol o ymchwilio hyd at fuddsoddi ac yna gweithredu yn debygol o fod yn un syml. Rydym eisoes wedi mynd i'r afael â'r gwrthwynebiad posibl y gallai gweithwyr eu hwynebu, ond:

 

Beth ddylech chi ystyried wrth werthu'r syniad o weithredu technoleg ddigidol newydd i reolwr?

 

Os nad ydych chi’n gyfarwydd â gwerthu prosesau gweithio newydd i reolwr, efallai y byddwch yn poeni ynghylch y ffordd orau o fynegi’r angen am dechnoleg ddigidol i’r union berson fydd â’r gyllideb a’r awdurdod i roi sêl bendith. 

 

Darllenwch isod am 9 pheth y dylech eu paratoi er mwyn i’r rheolwr gymeradwyo mabwysiadu digidol:

 

Ymchwilio i’r dechnoleg

 

Cyn gwerthu’r syniad o fabwysiadu technoleg newydd i’ch rheolwr, dylech sicrhau eich bod chi wedi ymchwilio’n ddigonol. Er enghraifft, os oes diddordeb gennych mewn mabwysiadu system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, dylech ystyried y gwahanol frandiau sy’n dod o fewn eich cyllideb ac yn diwallu eich anghenion a photensial i dyfu yn y dyfodol. Pwyso a mesur y manteision a’r anfanteision a byddwch yn barod i gynnig rhai opsiynau o becynnau technoleg neu feddalwedd ymarferol i’w cyflwyno.

 

Ystyried y gost a’r costau posibl yn y dyfodol

 

Efallai bod y dechnoleg ddigidol yn gwneud popeth dan yr haul, ond mae’n bwysig eich bod yn ystyried cyllideb y busnes a sut all cost gychwynnol buddsoddiad atal twf yn y dyfodol. Mae'n hanfodol ystyried nid yn unig y gost gychwynnol, ond a fydd costau parhaus? A fydd angen i chi ystyried talu am ychwanegiadau? Beth fyddai’r gost bosibl yn y dyfodol pe byddai’r busnes yn tyfu ac angen ehangu - neu grebachu, hyd yn oed?

 

Trefnu cyfarfod penodol

 

Neilltuwch amser i drafod eich syniad arfaethedig gyda'r rheolwr neu ddeiliad y gyllideb. Peidiwch â’u gorlwytho â gwybodaeth pan fyddant yn brysur neu’n gweithio ar brosiect arall oherwydd nid ydych yn debygol o gael eu sylw llawn na’u cefnogaeth ynghylch y syniad. Siaradwch â nhw mewn lleoliad sy’n caniatáu i’r ddau ohonoch drafod y syniad yn llawn a llunio rhai camau gweithredu er mwyn symud ymlaen.

 

Paratoi

 

Unwaith y bydd y cyfarfod yn cael ei drefnu, sicrhewch eich bod wedi paratoi. Dylid cefnogi eich syniadau gyda chostau, ystadegau ac amserlen go iawn (neu bosibl) ar gyfer mabwysiadu’r dechnoleg ddigidol. Ni fydd y rheolwr yn hyderus eich bod chi wedi llawn ystyried y broses o fabwysiadu technoleg newydd, os nad ydych chi wedi paratoi’n ddigonol ar gyfer y cyfarfod.

 

Amlygu’r manteision

 

Er ei fod yn bwysig bod yn ymarferol, peidiwch ag ofni anelu’n uchel. Mae buddsoddi mewn technoleg ddigidol yn ymwneud â'r manteision posibl i'r busnes – felly sicrhewch fod eich rheolwr yn ymwybodol ohonynt! Sut bydd y dechnoleg yn cefnogi’r busnes ehangach? Sut bydd yn helpu staff? Sut bydd yn newid prosesau gweithio bob dydd? Pa brosesau fydd yn eu gwella? A fydd yn rhoi hwb i elw? A fydd yn helpu denu cwsmeriaid newydd? Mae'r rhain i gyd bwyntiau allweddol a fydd yn helpu i hoelio diddordeb a sylw'r rheolwr.

 

Mynd i'r afael â'r heriau posibl

 

Y prif beth yw bod yn ymarferol ym mhob pwynt a drafodir. Peidiwch ag addo’r byd oherwydd efallai mai chi fydd dan y lach pan fydd heriau anochel yn codi. Ystyriwch y rhwystrau posibl y gallech eu hwynebu ar hyd y ffordd o ran mabwysiadu ac addasu i’r dechnoleg. Bydd paratoi ar gyfer problemau posibl yn dangos eich rheolwr i’ch bod wedi ystyried y materion ehangach a allai fod yn gysylltiedig – nid y manteision yn unig. 

 

Rhagweld eu pryderon

 

Os ydych yn adnabod eich rheolwr yn dda, mae’n debyg y byddwch chi’n gyfarwydd â'u meysydd canolbwyntio penodol, eu pryderon ac uchelgeisiau nodweddiadol ar gyfer y busnes. Byddai bod yn barod ar gyfer y cwestiynau anodd a allai gael eu gofyn yn eich helpu i reoli eu hymateb. Ystyriwch sut allai’r dechnoleg helpu i'w cefnogi gyda'u hamcanion penodol neu weithgareddau allweddol eu hunain o fewn y busnes.

 

Ystyried y cwmni ehangach

 

Yn ogystal ag ymdrin â sut gall unigolion, timau ac adrannau cael eu cefnogi gan y dechnoleg newydd, mae’n bwysig ystyried sut byddai hyn o fudd i’r cwmni yn ei gyfanrwydd. A fydd gennych fwy o allu i gynnig cymorth i dimau eraill? A fyddai’n symleiddio'r broses o rannu gwybodaeth ar draws adrannau? Mae’n debygol y bydd effaith uniongyrchol o wella prosesau unigol.

 

Sut fydd y dechnoleg yn bodloni anghenion o ran tyfu yn y dyfodol?

 

Er y gallai technoleg wneud newidiadau cadarnhaol yn y tymor byr, sut bydd yn addas ar gyfer y busnes yn y dyfodol? Mae’n bwysig ystyried sut all twf yn y dyfodol effeithio ar ddefnydd y dechnoleg. A fydd angen diweddaru'r feddalwedd newydd mewn 3 blynedd? A fydd y system yn tyfu gyda'ch busnes neu’n myned yn amherthnasol? Mae’n bwysig eich bod yn ystyried manteision a photensial tymor hir unrhyw feddalwedd.

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen