Awgrymiadau da i Sicrhau Cwsmeriaid Newydd ar Gyfer eich Busnes

Mae cadw sylfaen cwsmeriaid deyrngar yn flaenoriaeth i unrhyw frand, ond os ydych chi'n fusnes newydd sy'n tyfu, mae'n hanfodol parhau i ennill cwsmeriaid newydd i dyfu cyrhaeddiad eich brand a gwella gwerthiannau. Yma edrychwn nid yn unig ar ddulliau caffael ond hefyd ar ddulliau cadw.  

Image removed.

 

 

 

 

 

 

 

 

Deall pwy rydych chi’n eu targedu 

Y cam pwysicaf i gaffael cwsmeriaid newydd yw deall pwy ydych chi eisiau i'ch grŵp cwsmeriaid targed fod. Os oes gennych sylfaen cwsmeriaid sy'n tyfu eisoes, gallwch adolygu demograffeg eich cwsmeriaid i ddeall pwy y dylech fod yn eu targedu. Mae demograffeg yn golygu gwybodaeth fel rhyw, oedran, lleoliad ac ati... Os ydych chi'n adeiladu eich cronfa ddata cwsmeriaid yn unig, ymchwiliwch i'r math o bobl fyddai â diddordeb yn eich cynnyrch neu wasanaethau. Dylai eich holl weithgareddau marchnata fod wedi’u seilio ar y wybodaeth hon. Efallai y gwelwch chi fod gyda chi fwy nag un grŵp targed cwsmeriaid ar sail eich cynhyrchion/gwasanaethau.  

Darganfod ble mae eich cynulleidfa 

Ar ôl i chi ddeall pwy rydych chi eisiau eu targedu, mae angen i chi ddarganfod ble maen nhw. Mae'n gamsyniad cyffredin y dylech fod ar bob sianel cyfryngau cymdeithasol. Mae pa sianeli rydych chi'n eu defnyddio, yn dibynnu'n llwyr ar gynnyrch/gwasanaethau. Nid yw pob dim yn addas i bawb. Bydd canolbwyntio eich ymdrechion ar lwyfannau lle rydych chi'n gwybod bod eich cwsmeriaid targed yn debygol o fod, yn hytrach na cheisio bod yn gyson â gormod o lwyfannau, yn gwasanaethu eich busnes yn dda. Er enghraifft, os ydych chi'n ffotograffydd priodas, efallai y bydd eich cynulleidfa darged yn debygol o fod ar blatfform gweledol fel Instagram. Os ydych chi'n fusnes mwy corfforaethol, mae'n ddigon posibl y bydd eich cynulleidfa darged ar LinkedIn. Gallwch ddechrau datblygu eich presenoldeb yn y mannau cyffwrdd allweddol lle maent yn ymgysylltu, yn cyfathrebu, yn defnyddio gwybodaeth, ac yn treulio eu hamser ar-lein.

Datblygu strategaeth farchnata ar gyfer cwsmeriaid newydd a chwsmeriaid sy’n dychwelyd 

Ystyriwch y gwahanol negeseuon y gallech eu defnyddio i ymgysylltu â'r cwsmeriaid presennol hynny yr ydych eisoes yn datblygu perthynas barhaol â nhw, a'r darpar gwsmeriaid newydd y bydd angen iddynt ddeall y gwerth rydych chi'n ei gynnig. Meddyliwch sut y byddech chi'n gwobrwyo eich cwsmeriaid presennol am eu teyrngarwch, ynghyd â sut i gaffael cwsmeriaid newydd. Dylai eich strategaeth farchnata eich helpu i lunio'r gwahanol negeseuon hyn.  

Datblygu profiad gwych i ddefnyddwyr  

Dylai eich profiad defnyddiwr ar-lein ddarparu'r broses a'r platfform mwyaf syml, hawdd a phleserus i unrhyw gwsmer, ar unrhyw adeg yn nhaith y prynwr. Bydd y profiad defnyddiwr a ddarperir gennych yn chwarae rhan fawr wrth lunio canfyddiad y darpar gwsmer o'ch busnes, felly meddyliwch yn ofalus ynghylch a yw eich gwefan neu blatfform yn hawdd i'w ddefnyddio. Mae'n bwysig cofio bod pobl yn byw bywydau prysur, ac maen nhw eisiau cyrraedd y man lle maen nhw eisiau mynd yn gyflym. O ran negeseuon e-bost, meddyliwch am gynnwys cryno a galwad glir i weithredu, a gwnewch yn siŵr bod galwad i weithredu yn mynd â'r defnyddiwr yn syth i'r man lle rydych chi am iddyn nhw fynd. Ni ddylai defnyddwyr orfod mynd i chwilio. O ran profiad defnyddwyr gyda gwefan, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys ôl-ddolenni i wahanol dudalennau o'ch gwefan er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu pori'n rhwydd.  

Sefydlu eich gwasanaeth cwsmeriaid 

Peidiwch â chyfleu'r gwerth rydych chi'n ei gynnig gyda'ch marchnata digidol yn unig – dangoswch ef. Ar unrhyw adeg pan fydd darpar gwsmer yn rhyngweithio â'ch busnes, dylent dderbyn gwasanaeth cwsmeriaid gwych. P'un a yw hynny ar y ffôn, e-bost, sgwrs ar-lein neu unrhyw un o'ch mannau cyffwrdd ar-lein, dylai'r defnyddiwr deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i fod yn bwysig i chi – hyd yn oed cyn iddo brynu. 

Image removed.

 

 

 

 

 

 

 

Argymhellion

Mae argymhelliad ar lafar gwlad yn offeryn gwych felly gwnewch y mwyaf ohono. Mae marchnata e-bost gyda'r opsiwn i'w rannu gyda ffrind neu gyhoeddi ar twitter yn ffordd hawdd i'ch cwsmeriaid teyrngar argymell eich busnes neu'r cynnwys rydych chi'n ei rannu i'w rhwydwaith. Gall cod disgownt ar-lein arbennig ar gyfer argymell i ffrind neu gydweithiwr fod yn ffordd wych o gynhyrchu ymwybyddiaeth o frand a gwobrwyo eich cwsmeriaid presennol. Os ydych chi'n fusnes sydd â lleoliad ffisegol, peidiwch ag anghofio creu tudalen fusnes Google, fel y gall pobl ddod o hyd i chi ar chwiliadau lleol. Gallwch hefyd ofyn i gwsmeriaid presennol adael adolygiadau ar eich tudalen fusnes Google, sy'n helpu argymhellion. Mae pawb ar eu hennill!  

Partneriaethau

A allech chi weithio gyda busnesau eraill yn eich diwydiant neu gyda gorgyffwrdd yn y sylfaen cwsmeriaid? Yn hytrach na bod yn enghraifft o wrthdaro buddiannau, gall partneriaeth dda gyda'r busnes cywir eich helpu i amlygu eich enw mewn marchnad na fyddech efallai wedi dod o hyd iddi fel arall a rhoi ffynhonnell argymhelliad ddibynadwy i chi. Efallai y cewch gyfleoedd i gydweithio ar brosiectau neu weithgareddau marchnata a dyblu eich allbynnau a'ch cyrhaeddiad! 

Cymryd rhan mewn sgyrsiau ar gyfryngau cymdeithasol

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o ddechrau neu gymryd rhan mewn sgyrsiau gyda darpar gwsmeriaid a gall eich helpu i ddysgu llawer am eu diddordebau a'u hanghenion. Gall hyn lywio'r math o gynnwys rydych chi'n ei greu, y pynciau rydych chi'n eu trafod a'r llwyfannau rydych chi'n ymgysylltu â nhw. Mae llawer o offer ar gael i wrando am sylwadau am frand, fel eich bod bob amser yn gweithredu’n gyflym. Cofiwch hefyd ddathlu llwyddiant busnes a chwsmeriaid wrth ymgysylltu ar gyfryngau cymdeithasol. 

Mesur beth sy’n gweithio a beth nad yw’n gweithio i chi 

Mae'n bwysig eich bod yn gwerthuso pa weithgareddau sy'n dal sylw ac yn cynyddu gwerthiannau. Os yw gweithgaredd yn gweithio'n arbennig o dda, fel cyfryngau cymdeithasol neu eich partneriaethau, gallwch ganolbwyntio mwy o amser ac egni yn y rhain. Fel arall, os gwelwch nad yw tacteg farchnata benodol yn cael llawer o sylw, gallwch wneud newidiadau i'ch strategaeth.  

Yr hyn sy’n dda am dechnoleg ddigidol yw bod gennych y rhyddid, a'r rheolaeth, i roi cynnig ar dechnegau newydd i ddod o hyd i gwsmeriaid sy'n tyfu a'u denu, ond hefyd i wneud newidiadau amser real i'r gweithgareddau hynny nad ydynt o fudd i chi.

  

Image removed.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Darganfyddwch sut y gall technoleg ddigidol gefnogi eich gweithgareddau ar-lein gyda'n gweminarau am ddim!