Awgrymiadau da i Sicrhau Cefnogaeth eich Tîm i roi Technoleg Ddigidol ar Waith

Efallai nad costau neu logisteg yw un o’r rhwystrau mwyaf wrth fabwysiadu technoleg ddigidol, ond yn hytrach sicrhau cefnogaeth eich tîm i’r newidiadau i’w harferion gweithio.

Gallai newid y ffordd mae aelodau eich tîm yn gweithio wneud iddynt deimlo'n bryderus am beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu i’w diwrnod gwaith bob dydd mewn gwirionedd. Fe allech wynebu rhywfaint o wrthwynebiad neu amharodrwydd i groesawu’r prosesau, systemau neu ddulliau newydd o weithio. Gallai materion posib godi hefyd oni fydd staff yn cael cyfarwyddiadau clir a hyfforddiant digonol, a allai arwain at ddryswch o ran sut, pryd a beth ddylent fod yn ei wneud i addasu i’r dechnoleg newydd hon. 

Os nad yw eich tîm yn barod i groesawu’r broses o weithredu technolegau newydd, fe allech weld fod anghysonderau mewn systemau neu strategaethau, a allai wneud y dechnoleg yn ddiwerth.

Dyma 6 ffordd y gallwch helpu i gael cefnogaeth gadarnhaol eich tîm gyda newidiadau digidol:

Cyfleu’r newidiadau

Byddwch yn glir ac yn agored gyda’ch staff am y newidiadau fydd yn cael eu rhoi ar waith. Gwnewch yn siŵr bod pawb yn y tîm yn gwybod am y dechnoleg newydd ond rhowch fwy o sylw i’r aelodau o staff hynny y bydd y newid yn effeithio'n uniongyrchol arnynt.

Pwysleisio'r manteision

Yn hytrach na chanolbwyntio dim ond ar y tarfu posib i batrymau gwaith, rhannwch y manteision hollbwysig y bydd eich busnes a’ch gweithwyr yn eu gweld wrth ddefnyddio’r dechnoleg newydd. A fydd yn arbed amser i’ch busnes? A fydd yn gwneud y broses yn haws? A fydd yn awtomeiddio gweithgareddau? A allai greu mwy o arian i’ch busnes? A wnaiff helpu i sicrhau cleientiaid neu gwsmeriaid? Beth bynnag yw’r manteision, cofiwch ddweud wrth eich tîm!

Gwrando ar bryderon

Rhowch gyfle i’r staff leisio eu pryderon a’u cwestiynau. Gallai’r ymholiadau hyn godi materion posib nad oeddech chi wedi meddwl amdanynt cynt efallai, neu dynnu sylw at anghenion hyfforddi nad oeddech wedi eu hystyried. 

Cynnig hyfforddiant ac addysg

Rhowch ddigon o amser a mynediad i staff at adnoddau er mwyn deall sut bydd y dechnoleg yn newid neu'n helpu gyda’u gweithgareddau gwaith. Fe allech gynnig hyfforddiant mewnol neu allanol, canllawiau cam wrth gam neu ddiwrnod hyfforddiant i’r tîm. Drwy gyflwyno'r tîm i'r dechnoleg newydd a’i helpu i ddod yn gyfarwydd â hi, mae’n fwy tebygol o groesawu’r newidiadau yn hytrach na bod yn wyliadwrus ohoni.

Rhoi’r dechnoleg ar waith yn raddol

Mae'n arfer da rhoi newidiadau ar waith yn raddol ac yn ddiogel ar draws eich busnes. Rhowch gynnig ar un adran neu aelod o’r tîm ar y tro er mwyn gwneud yn siŵr bod y system yn cael ei mabwysiadu'n iawn. Gallai gweithredu system yn aneffeithiol ar draws yr holl dîm arwain at golli data, aneffeithlonrwydd a gwastraffu amser. Rhowch amser i’r tîm ddod i arfer â’r system newydd er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn ei ddefnyddio'n gywir er mwyn cyflawni eich nodau penodol.

Monitro cynnydd

Ar ôl i chi roi eich technoleg newydd ar waith, gwnewch yn siŵr eich bod yn monitro’r newid mewn gweithgareddau ac allbynnau. Gallai gymryd rhywfaint o amser cyn i chi sylwi ar unrhyw dwf neu lwyddiannau ffurfiol felly byddwch yn realistig o ran eich amcanion yn y tymor byr. Dylech fonitro cynnydd gweithwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y dechnoleg newydd yn cael ei defnyddio'n effeithiol er mwyn i chi fynd i’r afael ag unrhyw broblemau neu anghysonderau cyn iddynt ddod yn arferion gwael neu'n broblemau mawr. 

Ydych chi’n gwybod pa dechnolegau y gallech chi eu rhoi ar waith i ddatblygu eich busnes?

Ymunwch â dosbarth meistr Cyflymu Cymru i Fusnesau sy'n cael ei ariannu'n llawn er mwyn cael gafael ar gyngor a chefnogaeth mae modd gweithredu arnynt. Edrychwch ar y digwyddiadau lleol sydd ar y gweill!