Canllawiau ‘Sut i’

Mae sawl canllaw ar gael os ydych yn cynllunio digwyddiad mawr ac angen rhywfaint o arweiniad.
Ceir canllawiau ar iechyd a diogelwch ac asesu risg, 'gwyrddu' digwyddiad a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’r Gymraeg. Mae rhai wedi'u rhestru isod.

Volvo Ocean Race 2017-18 - Turn the Tide on Plastics - VW Library

Rheoli Digwyddiadau’n Gynaliadwy
Mae safon y BSI ar reoli digwyddiadau’n gynaliadwy: ISO 20121 yn seiliedig ar Safon Brydeinig gynharach o’r enw ‘BS 8901 Specification for a Sustainability Management System for Events’, a gafodd ei datblygu yn 2007.  Oherwydd lefel y diddordeb yn BS 8901, penderfynwyd creu fersiwn ryngwladol ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012. 
 

 

O’i roi’n syml, mae ISO 20121 yn disgrifio gwahanol rannau system reoli fydd yn helpu trefnydd digwyddiad i:

  • Barhau i wneud elw 
  • Bod yn fwy cymdeithasol gyfrifol 
  • Lleihau ei ôl troed amgylcheddol 

Mae Croeso Cymru wedi datblygu Pecyn Twristiaeth Gynaliadwy ar-lein a rhyngweithiol allai fod yn ddefnyddiol ichi ddatblygu’ch polisi cynaliadwyedd. 


 

Y Gymraeg
Rydym am hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o'r Gymraeg. Mae hyn yn golygu codi ymwybyddiaeth o statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru ac annog y defnydd ohoni.  Gall roi ymdeimlad cryf o berthyn i’ch digwyddiad a’i wneud yn unigryw.

I gael cyngor cyffredinol ar ddarparu gwasanaethau'n ddwyieithog ac i gael gwybodaeth am ba sefydliadau sy'n gallu eich cefnogi, cysylltwch â'r gwasanaeth cyngor iaith Gymraeg "Helo Blod" ar 03000 258888 neu e-bostiwch heloblod@gov.cymru gyda'ch ymholiad. 

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh

Mae cyngor ac astudiaethau achos ynghylch Creu Naws Lle ar gael.

Tafwyl 2019 - Castell - © Tafwyl

Effeithiau’r Digwyddiad
Mae’r pecyn eventIMPACTS (saesneg yn unig) wedi’i greu i roi cyngor ac egwyddorion arfer da i drefnwyr a chefnogwyr digwyddiadau cyhoeddus ar sut i asesu effeithiau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chyfryngol eu digwyddiadau.  Mae disgwyl i bob digwyddiad sy’n cael help ariannol gan yr Uned Digwyddiadau Mawr gyfrif ei effaith economaidd trwy ddefnyddio’r y pecyn. 


International Association of Event Hosts
Mae Cymru’n aelod o’r IAEH.  Mae’n rhoi cyfle i aelodau: 

  • ddysgu o brofiad digwyddiadau mawr eraill
  • rhannu gwybodaeth 
  • creu mwy o fanteision cymdeithasol ac economaidd tymor hir wrth gynnal digwyddiadau. 

Mae’r wefan (saesneg yn unig) yn cynnig help ac astudiaethau achos sydd ar gael i bawb ac a allai fod yn defnyddiol ichi wrth drefnu’ch digwyddiad.


Cyngor i’r rheini sy’n gofalu am lefydd llawn pobl
Mae'r Swyddfa Gwrthfrawychiaeth Genedlaethol (NaCTSO) (saesneg yn unig)  a’r Ganolfan er Diogelu'r Seilwaith Cenedlaethol (CPNI) (saesneg yn unig) yn cynnig cyngor i’r rheini sy’n gyfrifol am lefydd sy’n llawn pobl. Mae’n cynnwys canllawiau sydd newydd eu diwygio a’u hadnewyddu, ar gyfer perchenogion a rheolwyr safleoedd i helpu’r rheini sy’n gyfrifol am ddiogelwch mewn llefydd llawn pobl i leihau’r bygythiad a helpu i wneud y DU yn llai agored i ymosodiadau.  

Mae’r Canllawiau ar gyfer Llefydd Llawn Pobl (saesneg yn unig) yn cynnig help uniongyrchol ar gyfer digwyddiadau 


Adnoddau llywodraethu Digwyddiadau Mawr
Ar y cyd ag argymhellion y Canllaw ar Lywodraethu Digwyddiadau Mawr, mae'n bleser gan UK Sport roi cymorth ymarferol ar ffurf templedi i roi’r arfer gorau hwn ar waith yn gynt ac yn haws.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan UK Sport (saesneg yn unig). 


Asesiad risg
Sut mae sicrhau fod eich digwyddiad yn ddiogel ac yn cael ei reoli’n dda a sut mae osgoi problemau all amharu arno? Mae gofyn cyfreithiol ar bob cyflogwr a pherson hunangyflogedig i gynnal asesiad o'r risg i iechyd a diogelwch. Y lle gorau i ddechrau yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (saesneg yn unig).