Skip to main content

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gwneud pethau'n symlach. Rhagor o wybodaeth am gwcis.

Welsh Government
  • EN
  • CY
Business Wales Home
  • Business Wales Hafan
  • Pencadlys Newyddion
  • Cyfeiriadur Busnes
  • Mwy
Drupal
Toggle navigation
  • Home
  • Y blynyddoedd thematig
  • Cyllid
  • Graddio
  • Gweithio gyda Croeso Cymru
  • Dolenni defnyddiol
    • Ystadegau ac ymchwil
    • Wefan llyw.cymru
    • Cruise Wales (Saesneg yn unig)
  1. Cartef
  2. Pecyn Cymorth Cynaliadwy
Modules
Modules

Offeryn Hunanasesu

Mae'r rhestru gwirio hyn wedi'u bwriadu i fwrw golwg lefel uchel ar eich dull o fynd ar drywydd cynaliadwyedd.

Atebwch y cwestiynau'n onest os gwelwch yn dda. Bydd cynllun gweithredu pwrpasol yn cael ei baratoi i'ch galluogi i flaenoriaethu camau gweithredu a rhoi prosiectau ar waith. Gallwch ddewis unrhyw un o'r modiwlau a'u gwneud mewn unrhyw drefn.

    1
    legislation management type of accommodation tab controls
    2
    A yw eich busnes yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol perthnasol?
    A yw eich busnes yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol perthnasol?
    Erlyniad yw canlyniad diffyg cydymffurfio, ond fe allai fod goblygiadau eraill ar gyfer busnes, megis premiymau yswiriant uwch neu anhawster cael benthyciadau. Cyfeiriwch at y canllaw.
    legislation management environmental regulations tab controls
    3
    A oes gennych bolisi cynaliadwyedd a pherson sy'n gyfrifol am faterion cynaliadwyedd?
    A oes gennych bolisi cynaliadwyedd a pherson sy'n gyfrifol am faterion cynaliadwyedd?
    Mae tanategu polisi â chynllun gwella'n arfer da. Trwy wneud rhywun yn gyfrifol bydd yn helpu'r busnes i ganolbwyntio ar gyflawni'r ymrwymiadau Polisi trwy gyfres o dargedau unigol. Ceir canllawiau ynghylch sut i ysgrifennu polisi a'i roi ar waith yma: Polisi amgylcheddol.
    legislation management sustainability policy tab controls
    4
    A yw gwybodaeth am eich busnes a'i fentrau cynaliadwyedd ar gael i ymwelwyr?
    A yw gwybodaeth am eich busnes a'i fentrau cynaliadwyedd ar gael i ymwelwyr?
    Mae darparu gwybodaeth yn gallu dyfnhau dealltwriaeth eich ymwelwyr am eich lleoliad ac fe all eu hysbrydoli i leihau eu hôl troed carbon personol.
    legislation management sustainability initiatives tab controls
    5
    Ydych chi'n annog cwsmeriaid i roi adborth ar fentrau cynaliadwyedd?
    Ydych chi'n annog cwsmeriaid i roi adborth ar fentrau cynaliadwyedd?
    Mae adborth yn helpu busnes i fynd ati'n barhaus i wella gwasanaethau. Gweler y canllaw: Hyrwyddo eich nodweddion gwyrdd.
    legislation management sustainability feedback tab controls
    6
    A oes gennych chi achrediad cynaliadwyedd neu amgylcheddol cydnabyddedig?
    A oes gennych chi achrediad cynaliadwyedd neu amgylcheddol cydnabyddedig?
    Mae achrediad yn dangos ymrwymiad y busnes i gynaliadwyedd a gellir ei ddefnyddio yn offeryn marchnata ychwanegol. Mae yna amrywiaeth o raglenni ardystio, gan gynnwys - Scheme Business Twristiaeth Gwyrdd, y Ddraig Werdd, Allwedd Gwyrdd, Arweinydd Gwyrdd. Am ragor o gyngor gweler: Cynlluniau achredu a dyfarniadau gwyrdd
    legislation management recognised sustainability tab controls
    7
    A oes gennych bolisi ailddefnyddio tywelion (sy'n cynnwys hyfforddiant ar gyfer staff)?
    A oes gennych bolisi ailddefnyddio tywelion (sy'n cynnwys hyfforddiant ar gyfer staff)?
    Mae polisi ailddefnyddio tywelion yn newid tywelion ymwelwyr ar gais. Mae hyn yn arbed ynni a dwr ac yn defnyddio llai o gemegolion.
    legislation management towel reuse tab controls
    8
    A oes gennych bolisi ailddefnyddio dillad gwely (sy'n cynnwys hyfforddiant ar gyfer staff)?
    A oes gennych bolisi ailddefnyddio dillad gwely (sy'n cynnwys hyfforddiant ar gyfer staff)?
    Mae polisi ailddefnyddio dillad gwely yn newid tywelion ymwelwyr ar gais. Mae hyn yn arbed ynni a dwr ac yn defnyddio llai o gemegolion.
    legislation management linen reuse tab controls
    9
    Os ydych yn cynnal digwyddiadau, ydych chi'n cynnig mesurau i wneud y digwyddiad yn gynaliadwy?
    Os ydych yn cynnal digwyddiadau, ydych chi'n cynnig mesurau i wneud y digwyddiad yn gynaliadwy?
    Mae rhedeg digwyddiad yn ei hanfod yn anghynaliadwy; eto, gellir cymryd camau i leihau ei effeithiau negyddol a manteisio ar y cyfleoedd. Gweler y canllaw annibynnol.
    legislation management sustainable events tab controls
      1
      energy type of accommodation tab controls
      2
      energy how much tab controls
      3
      Ydych chi'n darllen eich mesurydd trydan/nwy ac yn cofnodi defnydd o olew gwresogi/LPG (lle y bo'n berthnasol)?
      Ydych chi'n darllen eich mesurydd trydan/nwy ac yn cofnodi defnydd o olew gwresogi/LPG (lle y bo'n berthnasol)?
      Mae darlleniadau mesuryddion misol a mesuryddion deallus yn darparu data ar gyfer dadansoddi. Gallwch ganfod patrymau o ran defnyddio ynni, pennu targedau ar gyfer defnyddio llai o ynni, adnabod ble y gellir gwneud arbedion a monitro llwyddiant mesurau arbed ynni. Gallai rheolaeth dda ar ynni arbed dros 10%.
      energy meter tab controls
      4
      A oes gennych lefelau inswleiddio da? Inswleiddio'r atig a, lle y bo'n briodol, waliau.
      A oes gennych lefelau inswleiddio da? Inswleiddio'r atig a, lle y bo'n briodol, waliau.
      Mae hyd at 25% o'r gwres a gollir o ffabrig adeilad yn cael ei golli trwy ei do a 10% trwy waliau. Mae inswleiddio toeau sydd heb eu hinswleiddio â 300mm o wlân ffeibr mwynol (neu ddeunydd inswleiddio cyfatebol) yn gallu gostwng hyn hyd at 90%. Mae inswleiddio wal geudod heb ei hinswleiddio yn gallu gostwng hyn hyd at 80%.
      energy insulation tab controls
      5
      A oes gennych ddrafftiau? Yn arbennig o ddrysau a ffenestri allanol.
      A oes gennych ddrafftiau? Yn arbennig o ddrysau a ffenestri allanol.
      Pan nad oes drafft yn eich adeilad, nid yw eich systemau gwresogi'n gorfod gweithio mor galed a gellir gwella lefelau cyfforddusrwydd ymwelwyr. Mae atal drafftiau'n ffordd rad ac effeithiol o arbed symiau bach neu gymedrol o ynni.
      energy drafts tab controls
      6
      Ydych chi`n gallu addasu tymheredd ystafelloedd unigol?
      Ydych chi`n gallu addasu tymheredd ystafelloedd unigol?
      Dylech wastad wirio ac addasu thermostat(au). Tymheredd cyfforddus ar gyfer cysgu a gweithgareddau yn y dydd yw 16ºC ac 20ºC yn y drefn honno. Gellir cadw ystafelloedd gwag ar 14ºC heb unrhyw risg o leithder.
      energy temperature tab controls
      7
      A oes gennych systemau gwresogi ac oeri`n gweithredu ar yr un pryd?
      A oes gennych systemau gwresogi ac oeri`n gweithredu ar yr un pryd?
      Oni bai bod gofyniad penodedig, nid oes angen i ardaloedd wedi'u haerdymheru fod yn oerach na 24ºC.
      energy heating cooling tab controls
      8
      A oes seler gwrw gennych? Os felly, ydych chi'n cadw tymheredd eich seler ar 12ºC?
      A oes seler gwrw gennych? Os felly, ydych chi'n cadw tymheredd eich seler ar 12ºC?
      Dylai system oeri seler fod wedi'i throi ymlaen drwy'r amser a dylid cadw'r tymheredd ar 12°C, sef yn yr ystod 11-13°C.
      energy beer cellar tab controls
      9
      A yw tanciau, pibellau a chantelau dwr poeth wedi`u lapio?
      A yw tanciau, pibellau a chantelau dwr poeth wedi`u lapio?
      Mae lapio'n fesur cymharol rad i'w osod a gall arbed rhag colli hyd at 90% o'r gwres. Mae pob tanc, cantel, falf neu ddarn o bibell yn gweithredu fel rheiddiadur, gan ollwng gwres i mewn i'ch adeilad.
      energy lagged tab controls
      10
      A yw goleuadau (nad ydynt yn ofynnol at ddibenion diogelwch neu weithredol) yn cael eu diffodd ar ddiwedd y dydd neu pan nad oes mo`u hangen?
      A yw goleuadau (nad ydynt yn ofynnol at ddibenion diogelwch neu weithredol) yn cael eu diffodd ar ddiwedd y dydd neu pan nad oes mo`u hangen?
      Mae'n rhatach diffodd goleuadau na'u gadael ymlaen. Gwnewch yn siwr bod goleuadau'n cael eu diffodd ar ddiwedd y dydd a phan fo adeiladau neu ystafelloedd yn wag.
      energy lights tab controls
      11
      A yw bylbiau/lampau/tiwbiau`n rhai ynni isel? - Lampau Fflwroleuol Cryno (CFL), Deuodau Allyrru Golau (LED) neu Fflwroleuadau Amledd Uchel T5.
      A yw bylbiau/lampau/tiwbiau`n rhai ynni isel? - Lampau Fflwroleuol Cryno (CFL), Deuodau Allyrru Golau (LED) neu Fflwroleuadau Amledd Uchel T5.
      Gall bylbiau/lampau/tiwbiau eraill roi'r un disgleirdeb a thymheredd lliw â lampau confensiynol. Maent yn pylu'n esmwyth ac yn cyrraedd disgleirdeb llawn yn syth. Gall y lampau hyn arbed hyd at 80%, nid ydynt yn creu gormod o wres ac o ganlyniad ni fyddant yn cyfrannu at orboethi.
      energy lights low tab controls
      12
      A oes rheolyddion wedi`u gosod ar ffitiadau goleuadau priodol? - Switshis amser, synwyryddion golau dydd neu symudiad
      A oes rheolyddion wedi`u gosod ar ffitiadau goleuadau priodol? - Switshis amser, synwyryddion golau dydd neu symudiad
      Mae'n beth cyffredin darganfod bod goleuadau wedi cael eu gadael ymlaen pan nad oes mo'u hangen. Gellir defnyddio switshis amser, a synwyryddion golau dydd a symudiad i reoli goleuadau.
      energy lights controls tab controls
      13
      Ydych chi'n prynu offer trydanol â Label Ynni'r UE - Dosbarth A neu well, ardystiad ENERGY STAR?
      Ydych chi'n prynu offer trydanol â Label Ynni'r UE - Dosbarth A neu well, ardystiad ENERGY STAR?
      Bydd prynu offer sy'n defnyddio ynni a dŵr yn effeithlon yn lleihau'r effeithiau amgylcheddol a'r ynni a ddefnyddir.
      energy eu tab controls
      14
      Ydych chi'n cynhyrchu trydan neu wres o ffynhonnell adnewyddadwy?
      Ydych chi'n cynhyrchu trydan neu wres o ffynhonnell adnewyddadwy?
      Byddai'r busnes yn cael budd o wrthbwysiad ynni, incwm o ynni a gaiff ei allforio a chymelliadau gan y Llywodraeth megis y Tariffau Cyflenwi Trydan (FiT) a'r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy (RHI). Mae ystod o gyhoeddiadau gan yr Ymddiriedolaeth Garbon ar gael yn: www.carbontrust.com/resources (saesneg yn unig)
      energy generate tab controls
        1
        water type of accommodation tab controls
        2
        water how much tab controls
        3
        Ydych chi'n darllen eich mesurydd dŵr?
        Ydych chi'n darllen eich mesurydd dŵr?
        Mae darlleniadau mesuryddion misol yn darparu data i ganfod patrymau o ran defnyddio dŵr er mwyn gallu adnabod ble y gellir gwneud arbedion a monitro llwyddiant mesurau arbed dŵr a chanfod gollyngiadau. Gallai rheolaeth dda ar ddŵr arbed dros 10%.
        water meter tab controls
        4
        Ydych chi'n gwirio am ollyngiadau a thapiau sy'n gadael i ddŵr ddiferu?
        Ydych chi'n gwirio am ollyngiadau a thapiau sy'n gadael i ddŵr ddiferu?
        Gallai tapiau sy'n gadael i ddŵr ddiferu wastraffu hyd at 140 o litrau o ddŵr bob wythnos. Os ydych yn amau bod dŵr yn gollwng cymerwch ddarlleniadau mesurydd dros gyfnod pan nad oes dŵr yn cael ei ddefnyddio. Os yw'r mesurydd yn symud rhwng y darlleniad cyntaf a'r ail ddarlleniad, pan nad oes dŵr wedi cael ei ddefnyddio, yna fe all fod dŵr yn gollwng.
        water leaks tab controls
        5
        A yw`r ffitiadau yn eich ystafelloedd ymolchi ar gyfer gwesteion yn cyrraedd safonau effeithlonrwydd dŵr ar gyfer llif a fflysh?
        A yw`r ffitiadau yn eich ystafelloedd ymolchi ar gyfer gwesteion yn cyrraedd safonau effeithlonrwydd dŵr ar gyfer llif a fflysh?
        Mae ffitiadau sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon (neu ffitiadau llif isel) yn lleihau'r dŵr a ddefnyddir yn sylweddol. Caiff toiledau eu gwerthuso ar sail Litrau y Fflysh (LPF). Caiff tapiau a phennau cawodydd eu gwerthuso ar sail Litrau y Funud (LPM). I gael rhagor o wybodaeth am y rhestr technoleg dŵr: www.watertechnologylist.co.uk (saesneg yn unig)
        water guestroom tab controls
        6
        A yw eich toiledau cefn tŷ a'ch toiledau cyhoeddus yn cyrraedd safonau effeithlonrwydd dŵr?
        A yw eich toiledau cefn tŷ a'ch toiledau cyhoeddus yn cyrraedd safonau effeithlonrwydd dŵr?
        Mae ffitiadau sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon (neu ffitiadau llif isel) yn lleihau'r dŵr a ddefnyddir yn sylweddol. Caiff toiledau eu gwerthuso ar sail Litrau y Fflysh (LPF). Caiff tapiau a phennau cawodydd eu gwerthuso ar sail Litrau y Funud (LPM). I gael rhagor o wybodaeth am y rhestr technoleg dŵr: www.watertechnologylist.co.uk (saesneg yn unig)
        water boh tab controls
        7
        A oes gennych ddyfeisiau (megis peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad) â defnydd isel o ddŵr?
        A oes gennych ddyfeisiau (megis peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad) â defnydd isel o ddŵr?
        Mae peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad yn dod yn fwy effeithlon o ran defnyddio dŵr.
        water appliances tab controls
        8
        Ydych chi'n casglu dŵr glaw i'w ddefnyddio yn yr ardd?
        Ydych chi'n casglu dŵr glaw i'w ddefnyddio yn yr ardd?
        Casglu dŵr glaw yw un o'r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o arbed dŵr.
        water rainwater tab controls
          1
          waste type of accommodation tab controls
          2
          Ydych chi'n cofnodi faint ydych yn ei wario ar wastraff?
          Ydych chi'n cofnodi faint ydych yn ei wario ar wastraff?
          waste how much tab controls
          3
          waste how much annually tab controls
          4
          Ydych chi'n cofnodi faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu?
          Ydych chi'n cofnodi faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu?
          Bydd monitro gwahanol ffrydiau gwastraff yn darparu gwybodaeth am symiau'r gwastraff, y mathau o wastraff a tharddiad y gwastraff a gynhyrchir. Bydd y data hwn yn eich galluogi i'w leihau ac, o bosibl, i'w osgoi yn y lle cyntaf. Mae cost gwastraff yn golygu nid dim ond cost ei waredu, ond hefyd pris prynu'r deunydd a wastreffir, amser staff, storio a chludo. Ceir enghraifft o dempled ar gyfer monitro gwastraff yma (saesneg yn unig).
          waste amount produced tab controls
          5
          Ydych chi'n lleihau, yn gwahanu, yn ailgylchu ac yn gwaredu gwastraff yn briodol?
          Ydych chi'n lleihau, yn gwahanu, yn ailgylchu ac yn gwaredu gwastraff yn briodol?
          Atal, arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu: A oes angen i chi brynu eitem? Os felly, allwch chi arbed rhag prynu cymaint (e.e. deunydd pacio)? Cyn ei waredu, gofynnwch i chi eich hun a ellir ei ailddefnyddio? Os na ellir yna anfonwch y gwastraff i gyfleuster ailgylchu, compostio neu dreulio anaerobig (fel y bo'n briodol). Rhaid gwaredu'r holl wastraff gan gydymffurfio â deddfwriaerth, gyda chyn lleied â phosibl yn mynd i safle tirlenwi. Mae llawer o ymwelwyr yn ailgylchu gartref ac yn disgwyl cyfleusterau priodol pan ydynt ar eu gwyliau.
          waste minimise tab controls
          6
          Ydych chi'n ailgylchu offer electronig/trydanol gwastraff ac yn gwaredu gwatraff peryglus yn briodol?
          Ydych chi'n ailgylchu offer electronig/trydanol gwastraff ac yn gwaredu gwatraff peryglus yn briodol?
          Mae gwastraff peryglus yn cynnwys olew, batrîs, arlliwydd, cetris, offer electronig/trydanol a thiwbiau goleuadau fflwroleuol. Rhaid cydymffurfio â rheoliadau penodol wrth waredu'r deunyddiau hyn. Gweler y ddogfen: Sut i leihau a rheoli eich gwastraff.
          waste recycle tab controls
          7
          Ydych chi'n cadw Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff a Nodiadau Cludo?
          Ydych chi'n cadw Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff a Nodiadau Cludo?
          Mae'n ofynnol i fusnesau gadw Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff am ddwy flynedd a Nodiadau Cludo (ar gyfer Gwastraff Peryglus) am dair blynedd.
          waste notes tab controls
            1
            hazardous substances type of accommodation tab controls
            2
            Mae enghreifftiau i'w hystyried yn cynnwys storio olew tanwydd, gweithredu tanc carthion, llygredd sŵn a golau a risgiau o weithgareddau tymor byr, megis llwch o waith adeiladu. Mae risgiau'n cynnwys ffynhonnau, cyrsiau dŵr, draeniau, tir cymdogion a.y.b.
            hazardous substances pollution risk tab controls
            3
            Mae enghreifftiau o sylweddau peryglus yn cynnwys rhai cyfryngau glanhau, chwynladdwyr, plaladdwyr a chynhyrchion sy'n seiliedig ar doddyddion megis paentiau. I atal y deunyddiau hyn rhag cael eu camddefnyddio neu eu gwaredu'n anghywir dylent gael eu defnyddio gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol.
            hazardous substances requirements tab controls
            4
            Gallai cemegolion glanhau a glanedyddion gael eu newid i gynhyrchion bioddiraddadwy, nad ydynt yn cynnwys ffosffad i atal llygredd amgylcheddol.
            hazardous substances friendly tab controls
            5
            Gosodwch y tanc i leihau'r perygl y caiff ei ddifrodi gan gerbydau ac i ddiogelu derbynyddion sensitif (e.e. >10 metr i ffwrdd o gwrs dŵr neu >50 metr o ffynnon neu dwll turio). Rhowch ystyriaeth i ddiogelwch unrhyw danc storio gan fod problemau'n gallu deillio o fandaliaeth neu ddwyn. Gellir cael cyngor o'r canlynol: Tanciau storio olew uwchben y ddaear, PPG 2 (saesneg yn unig).
            hazardous substances store oil tab controls
            6
            Mae tanciau carthion yn darddiad llygredd cyffredin, gan eu bod yn aml allan o'r golwg ac yn peidio â chael eu gwirio na'u gwacau'n rheolaidd. Gellir cael cyngor o'r canlynol: Gwaredu carthffosiaeth lle nad oes prif ddraenio ar gael, PPG4 (saesneg yn unig).
            hazardous substances septic tank tab controls
              1
              transport type of accommodation tab controls
              2
              Mae'n arfer da cynyddu'r defnydd o gerbydau i'r eithaf, lleihau casgliadau sengl a chynllunio casgliadau 'crynswth' i leihau llygredd a'r tanwydd a ddefnyddir.
              transport route planning tab controls
              3
              Mae'n bwysig bod allyriadau cerbydau'n cael eu cadw dan reolaeth i leihau llygredd a chynyddu effeithlonrwydd tanwydd i'r eithaf.
              transport serviced tab controls
              4
              Mae dewis cerbyd sy'n defnyddio llai o danwydd nid yn unig yn gallu eich helpu i arbed arian, ond mae hefyd o fudd i'r amgylchedd gan ei fod yn defnyddio llai o adnoddau naturiol ac yn lliehau allyriadau nwyon ty gwydr. Mae gan yr Asiantaeth Ardystio Cerbydau gronfa ddata ar-lein y gellir ei defnyddio i ddarganfod y ffigyrau defnyddio tanwydd ac allyriadau CO2 ar gyfer cerbydau newydd sydd ar werth ar hyn o bryd yn y DU.
              transport replacing tab controls
              5
              Gellir datblygu cynllun teithio ar gyfer y gweithlu i'w hannog i ddefnyddio dewisiadau yn lle car ag un teithiwr ynddo. Mae hyn yn lleihau'r effeithiau amgylcheddol, a bydd yn dwyn manteision ariannol, o ganlyniad i wella cynhyrchiant ac arbed arian ac amser i'r busnes ac i staff. Mae teithio yn gallu dwyn costau cudd, megis darpariaeth parcio.
              transport staff travel tab controls
              6
              Mae darparu dulliau cludiant eraill yn lleihau'r ddibyniaeth ar geir ac yn annog gwesteion i archwilio'r ardal. Gweler y canllaw: Annog eich gwesteion i deithio'n gynaliadwy
              transport guests travel tab controls
                1
                procurement type of accommodation tab controls
                2
                Mae caffael cynaliadwy'n golygu ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd wrth wneud penderfyniad ynghylch prynu. Dylid ystyried o beth y mae'r cynnyrch wedi'i wneud, o ble y daeth a phwy a'i gwnaeth. Nid oes diffiniad ffurfiol o gynhyrchion 'gwyrdd' neu 'gynaliadwy'. Gweler y canllaw
                procurement policy tab controls
                3
                Mae nifer o labeli rhyngwladol, labeli gan yr UE, labeli cenedlaethol a labeli lleol sydd fel arfer wedi'u lleoli ar ddeunydd pacio'r cynnyrch. Mae labeli'n cynnwys masnach deg, organig yr UE a LEAF a chynnyrch lleol.
                procurement sustainable tab controls
                4
                Mae prynu cynhyrchion papur â chynnwys wedi'i ailgylchu a defnyddio cetris arlliwio wedi'u hailgylchu a/neu ailgylchu'r rhai a ddefnyddir gennych chi yn lleihau i'r eithaf y defnydd o adnoddau.
                procurement paper tab controls
                5
                Mae prynu pethau ymolch â chynhwysion organig a deunydd pacio sy'n fioddiraddadwy neu sydd â chynnwys wedi'i ailgylchu'n lleihau i'r eithaf yr adnoddau a ddefnyddir.
                procurement toiletries tab controls
                6
                Mae hyn yn dwyn manteision economaidd i'r gymuned. Mae hefyd yn ychwanegu gwerth i ymwelwyr trwy ddarparu gwybodaeth leol a chyngor lleol.
                procurement local people tab controls
                  1
                  biodiversity type of accommodation tab controls
                  2
                  Mae angen i fioamrywiaeth gael ei gwarchod a'i hybu i gael ei mwynhau gan bawb (gennych chi, eich ymwelwyr, eich plant ...) a rhaid iddi beidio â diflannu na chael ei niweidio na'i lleihau. Ymfalchïwch yn eich treftadaeth naturiol ac anogwch eich ymwelwyr i'w darganfod a'i mwynhau; bydd hyn yn ei chadw'n fyw ac yn fywiog.
                  biodiversity local biodiversity tab controls
                  3
                  Os ydych yn dymuno ysgogi bioamrywiaeth, yna mae'n gwneud synnwyr darganfod beth sydd eisoes ar y safle. Mae profiad ymwelwyr wastad yn cael ei wella gan fynediad at natur, hyd yn oed dim ond gwylio adar yn porthi amser brecwast!
                  biodiversity study tab controls
                  4
                  Gellir ysgogi bioamrywiaeth trwy fabwysiadu cynlluniau plannu gan ddefnyddio rhywogaethau coed, prysgwydd a phlanhigion eraill sy'n frodorol, gosod blychau adar neu greu pyllau bach. Gall eich Ymddiriedolaeth Natur leol gynnig cyngor cynhwysfawr.
                  biodiversity encourage tab controls
                    1
                    community benefit type of accommodation tab controls
                    2
                    Bydd hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion lleol sy'n defnyddio llafur a deunyddiau lleol yn arwain at ail-gylchredeg arian yn yr ardal. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol mewn ardaloedd gwledig. Gall cynhyrchion lleol hybu ymdeimlad cadarnhaol yr ymwelydd, gan fod gan yr ymwelydd rywbeth i gofio am ei wyliau sy'n gynnyrch diledryw o'r ardal a chan ei fod yn gwybod ei fod wedi cefnogi'r economi leol.
                    community benefit promote local tab controls
                    3
                    Mae gweithio gyda'r gymuned yn gallu dyfnhau a chryfhau eich perthnasoedd yn yr ardal yn ogystal â'ch cyflwyno i bobl newydd a syniadau newydd. Gall hyn arwain at brosiectau trwy ysbrydoli syniadau gwych. Fe all fod gan bobl leol arbenigedd mewn llu o feysydd perthnasol megis deall anghenion eich cynulleidfa darged, amseriadau a logisteg, ac awgrymiadau ynghylch eraill y gallech weithio gyda hwy. Gweler y ddogfen: Gweithio gyda'ch cymuneed
                    community benefit initiatives tab controls
                    4
                    Un o gryfderau twristiaeth yng Nghymru yw ei hunaniaeth unigryw, y mae'r Gymraeg yn rhan annatod ohoni. Felly, mae hyrwyddo'r iaith, hyd yn oed defnyddio ymadroddion syml, yn cynnal y diwylliant lleol ac yn cyfoethogi profiad ymwelwyr. Bydd mabwysiadu polisi iaith yn helpu gyda hyn hyd yn oed os yw'n weddol sylfaenol. Gweler y ddogfen: Hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru
                    community benefit bilingual tab controls
                    5
                    Bydd rhannu traddodiadau, diwylliant a threftadaeth Cymru'n gwella profiad ymwelwyr.
                    community benefit history tab controls

                    Diolch

                    Rydych bellach wedi cwblhau'r hunanasesiad; un o'r naw adran sydd ar gael fel rhan o'r Pecyn Cymorth Twristiaeth Gynaliadwy.

                    Mae adroddiad wedi'i deilwra wedi cael ei baratoi ar eich cyfer yn seiliedig ar yr atebion yr ydych wedi'u rhoi. Nod yr adroddiad yw rhoi argymhellion i'w hystyried wrth wneud gwelliannau i ddull eich busnes o fynd ar drywydd cynaliadwyedd.

                    Cysylltwch â ni

                    Facebook Icon LinkedIn Icon Twitter Icon Youtube Icon Instagram Icon

                    Tanysgrifio i ebost

                    Tanysgrifiwch i dderbyn e-gylchlythr

                    Tanysgrifio

                    I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

                    03000 6 03000

                    Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

                    • Darganfyddwch fwy Amdanom ni
                    • Hygyrchedd
                    • Cysylltwch â ni
                    • Cwcis
                    • Hawlfraint
                    • Preifatrwydd
                    • Telerau ac amodau
                    • Datganiad Iaith Gymraeg
                    Llywodraeth Cymru | Welsh Government
                    Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop | European Regional Development Fund

                    Mae'r holl gynnwys ar gael yn Open Government Licence, oni noder yn wahanol

                    Busnes Cymru. Llywodraeth Cymru © 2023