Datganiad Preifatrwydd - Arbenigedd Cymru
- Pam yr ydym yn casglu a phrosesu y data yr ydym wedi’i gasglu
Caiff y data y byddwn yn ei gasglu yn cael ei ddefnyddio i’ch adnabod chi, a phenderfynu ar y cymorth mwyaf priodol ar eich cyfer nawr ac yn y dyfodol. Drwy rannu eich gwybodaeth gyda ni rydych yn cydsynio inni gysylltu â chi yn nhasgau cyhoeddus Llywodraeth Cymru i fodloni ei hamcanion i greu swyddi, twf a chyfoeth yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi yn dilyn unrhyw gymorth i fesur yr effaith a’r canlyniadau. Byddai methu â darparu’r wybodaeth yn ein rhwystro rhag gallu eich cefnogi. Llywodraeth Cymru fydd Rheolwr Data ar gyfer y data personol yr ydych yn ei ddarparu ar Ffurflen Cysylltwch â Ni Arbenigedd Cymru.
- Pwy fydd yn gweld eich data
Os bydd angen cynnig cymorth sy’n fwyaf addas at eich anghenion, bydwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda thimau eraill yn Llywodraeth Cymru a chyrff 3ydd parti eraill.
Bydd detholiad o’r cofnodion sy’n mynd ymlaen i dderbyn cymorth yn cael eu rhannu gyda trydydd partïon gan gynnwys Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru at ddibenion:
- Cyflawni gofynion cofnodi y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer prosiectau sy’n derbyn Cyllid Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd.
- Monitro a chofnodi nifer yr unigolion a’r mentrau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy’n cael eu cefnogi (e.e. gwahanol oedrannau, rhyw ac ethnigrwydd).
- Drwy sefydliadau ymchwil cymeradwy, cynnal gwaith ymchwil, dadansoddi neu gyfle cyfartal.
- At ddibenion archwilio.
- Gwerthuso effaith y prosiect ar yr unigolion a’r mentrau a gymerodd ran.
- Ni fyddwn yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i eraill at ddibenion ar wahân i’r rhai a amlinellir uchod heb eich cymeradwyaeth.
- Am faint fyddwn ni'n cadw'ch manylion
Er mwyn cyflawni gofynion cofnodi'r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer prosiectau Cyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop, caiff y cofnodion eu cadw am 10 mlynedd wedi cau y prosiect hwn yn 2021.
- Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth ar ddiogelu data, mae gennych yr hawliau a ganlyn:
- yr hawl i weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru’n eu cadw amdanoch;
- yr hawl i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny
- yr hawl i wrthwynebu (o dan amgylchiadau penodol) prosesu’ch data personol neu gyfyngu ar ei brosesu
- yr hawl i ofyn (o dan amgylchiadau penodol) inni ddileu’ch data
- yr hawl i gofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
Am help gydag unrhyw rai o’r hawliau uchod, ffoniwch ein Llinell Gymorth 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi.
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod o'r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth bersonol amdanoch chi, fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn gofyn ichi am eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.
- Newidiadau i’r polisi hwn
Pan fydd y polisi hwn yn cael ei newid, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn ichi allu gweld y fersiwn newydd a diweddaru eich dewisiadau cydsynio.
Am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth
Cyfeiriad:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad E-bost: data.protectionofficer@wales.gsi.gov.uk