Grantiau Cyflymu Seilwaith
Bydd y Grantiau Cyflymu Seilwaith yn cynnig arian ar gyfer prynu offer y gellir ei ddefnyddio gan fwy nag un defnyddiwr. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a gyflwynir gan fwy nag un defnyddiwr neu grŵp ymchwil. Rhoddir blaenoriaeth i gynigion fydd yn rhoi cyfleoedd i bartneriaid masnachol ddefnyddio'r offer.
Rhagwelir y bydd y grantiau hyn yn helpu grwpiau ymchwil i gynhyrchu data peilot all helpu i gryfhau ceisiadau i, er enghraifft, cynghorau ymchwil, Innovate UK a'r Gronfa Her Diwydiannol.
Gallai ceisiadau amrywio o £50,000 i £1miliwn+.
Pwy sy'n Gymwys
- Dylai'r cais gael ei arwain gan Sefydliad yng Nghymru a chaiff yr offer ei gadw yno. Caiff cyd-ymgeiswyr ddefnyddio'r offer pan fydd angen.
- Rhaid nodi'n glir y rhaglenni ymchwil y bydd yr offer yn eu cefnogi.
- Rhaid nodi'n glir faint y rhagwelir y bydd pob prifysgol neu bartner masnachol yn defnyddio'r offer.
- Rhaid bod yr ymgeiswyr yn cael eu cyflogi gan Sefydliad yng Nghymru
- Rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â'r egwyddorion moesegol sylfaenol a ddisgrifir yn yr adran am foesegau.
- Rhaid bod gan ymgeiswyr gefnogaeth y sefydliad masnachol/academaidd y maent am weithio ynddo
Y Broses Ymgeisio
Bydd angen i ymgeiswyr gynnig prosiect addas i'w wneud mewn sefydliad sy'n eu cynnal yng Nghymru sydd ar y rhestr.
Bydd y prosiect ymchwil yn cael ei greu gan yr ymgeisydd ond mae'n rhaid iddynt drafod hyn gyda'u harolygydd posibl cyn ei gyflwyno.
Bydd craffu moesegol ar bob prosiect a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu adran foeseg wedi'i chwblhau o fewn eu ffurflen gais.
Dylai'r ymgeisydd hefyd gyflwyno copi o'u CV diweddaraf o fewn eu ffurflen gais, dim mwy na 3 tudalen o hyd. Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am eu haddysg, eu gwaith blaenorol a phrofiad perthnasol arall, gwybodaeth am unrhyw seibiant yn eu gyrfa ar gyfer mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu ac ati; a rhestr o'u cyhoeddiadau a grantiau a ddyfarnwyd.
Dylai'r ymgeiswyr hefyd anfon enwau dau ganolwr sy'n gyfarwydd â'u gwaith a'r maes ymchwil arfaethedig yn yr e-bost i gyd-fynd â'u cais.
Dylai'r sefydliadau sy'n eu cynnal roi dadansoddiad o gostau gan ddefnyddio'r tablau o fewn eu ffurflenni cais.