Cydymffurfiaeth busnes: Adnoddau dynol
Mae llawer o ofynion cyfreithiol yn ymwneud â recriwtio a chyflogi staff. Nodir y meysydd allweddol i'w hystyried isod.
Mae cyfraith cyflogaeth yn cwmpasu ystod eang o faterion penodol sy'n ymwneud â hawliau gweithwyr y mae angen i chi eu hystyried wrth gyflogi staff gan gynnwys:
- Yr angen am gontract cyflogaeth ysgrifenedig
- Cyflogau, isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyflog byw
- Didyniadau treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol
- Gwyliau ac amser gweithio
- Gweithdrefnau aflonyddu, disgyblu a chwyno
- Cyfnodau diswyddo a rhybudd
- Pensiwn cofrestru awtomatig.
Mae angen i'ch busnes gael yswiriant digonol gan gynnwys yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant atebolrwydd cyflogwyr. Mae'r ail fath yn orfodol os ydych yn cyflogi staff, gweithwyr llawrydd, isgontractwyr a gwirfoddolwyr.
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn sicrhau cysondeb yn yr hyn y mae angen i gyflogwyr a gweithwyr ei wneud i wneud eu gweithleoedd yn amgylchedd teg ac er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith. Mae'n amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu yn y gweithle.
Defnyddir ‘diogelu’ i ddiffinio'r camau a gymerir i amddiffyn grwpiau bregus rhag niwed. Mae angen i bob busnes sy'n gweithio neu'n dod i gysylltiad â phlant neu oedolion sy'n agored i niwed fod â pholisïau a gweithdrefnau diogelu ar waith.
Mae angen i chi amddiffyn pobl sy'n dod i gysylltiad â'ch busnes cymdeithasol rhag cael eu cam-drin mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn berthnasol i'ch Bwrdd, eich staff, eich gwirfoddolwyr a'ch cymuned sy'n defnyddio eich gwasanaethau. Bydd angen i chi gael polisïau, prosesau ac adroddiadau diogelu priodol ar waith i reoli hyn gan gynnwys gwiriadau'r DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) lle bo hynny'n briodol.
Yn yr adran hon:
Cydymffurfiaeth busnes: Dogfen lywodraethol
Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddwyr
Cydymffurfiaeth busnes: Ariannol
Cydymffurfiaeth busnes: Adnoddau dynol
Cydymffurfiaeth busnes: Iechyd a diogelwch
Cydymffurfiaeth busnes: Data a chyfathrebu
Cydymffurfiaeth busnes: Cytundebol
Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddio sy'n benodol i weithgaredd