Cydymffurfiaeth busnes: Cytundebol
Telerau contractau
Bydd eich busnes yn ymrwymo i lawer o gontractau a chytundebau ar gyfer cyfnewid nwyddau, gwasanaethau neu arian. Mae contract yn gytundeb cyfreithiol rwymol y gellir ei orfodi'n gyfreithiol.
Mae angen i chi sicrhau eich bod yn darllen holl delerau ac amodau cytundeb yn ofalus cyn cytuno arno. Ar ôl llofnodi, bydd angen i chi gadw at ei holl delerau ac amodau.
Eiddo deallusol
Mae hawlfraint, patentau, dyluniadau a nodau masnach i gyd yn ffyrdd o ddiogelu eiddo deallusol. Cewch rai mathau o ddiogelwch yn awtomatig, ac mae eraill y mae'n rhaid i chi wneud cais amdanynt.
Cytundebau ariannu
Os byddwch yn ymrwymo i gytundebau ariannu, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn fodlon â'r telerau ac amodau cyn i chi ymrwymo i hyn.
Gall cytundebau ariannu gyfeirio'n benodol at ddefnyddio cyllid a'r ffordd y cyfrir yr arian e.e. ei ddal a'i gyfrif mewn 'cyfrif cyfyngedig' (yn cynnwys arian na ellir ond ei ddefnyddio at ddibenion penodol).
Ar ôl llofnodi, bydd angen i chi gadw at yr amod a darparu adroddiadau monitro i gyllidwyr.
Yn yr adran hon:
Cydymffurfiaeth busnes: Dogfen lywodraethol
Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddwyr
Cydymffurfiaeth busnes: Ariannol
Cydymffurfiaeth busnes: Adnoddau dynol
Cydymffurfiaeth busnes: Iechyd a diogelwch
Cydymffurfiaeth busnes: Data a chyfathrebu
Cydymffurfiaeth busnes: Cytundebol
Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddio sy'n benodol i weithgaredd