Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddwyr
Rhaid i bob busnes gadw at y rheolau a nodir gan ei reoleiddiwr/rheoleiddwyr. Bydd y rheoleiddiwr/rheoleiddwyr y mae angen i chi fod yn atebol iddo/iddynt yn cael ei benderfynu gan strwythur cyfreithiol eich busnes cymdeithasol. Efallai y bydd eich busnes hefyd yn atebol i reoleiddwyr eraill yn dibynnu ar natur benodol eich gweithgareddau. Nodir y meysydd allweddol i'w hystyried isod.
Rhaid cyflwyno (neu "ffeilio") ffurflenni blynyddol gyda'ch rheoleiddiwr. Mae'r ffurflen hon yn rhoi cipolwg cyffredinol o wybodaeth am eich busnes a'ch Bwrdd. Caiff fformat, cynnwys penodol a therfynau amser eu pennu gan bob rheoleiddiwr unigol.
Mae Tŷ'r Cwmnïau yn cyfeirio at eu ffurflen flynyddol fel 'Datganiad Cadarnhau'. Mae hefyd yn ofynnol i gwmnïau nodi a chofrestru ar wahân Bobl â Rheolaeth Arwyddocaol, rhestr o bobl sy'n berchen ar y busnes neu'n ei reoli oherwydd eu cyfran o gyfranddaliadau neu hawliau pleidleisio.
Mae hefyd yn ofynnol rhoi gwybod i'ch rheoleiddiwr am newidiadau yn eich trefniadau llywodraethu, e.e. swyddfa gofrestredig, aelodau'r Bwrdd, enw'r cwmni ac ati.
Mae rheolau penodol ar baratoi cyfrifon, fformat cyfrifon, yr angen am archwiliad a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cyfrifon i'ch rheoleiddiwr (proses y cyfeirir ati’n ffurfiol fel ffeilio cyfrifon). Mae rheolau penodol hefyd ar gadw cofnodion.
Gofyniad i gofrestru gyda CThEM a bodloni'r holl rwymedigaethau treth drwy gyfrifyddu (neu geisio esemptiad) ar gyfer treth ar weithgareddau eich busnes:
- Treth gorfforaeth ar unrhyw elw neu wargedion a gynhyrchir
- TAW lle mae cyflenwadau trethadwy’n fwy na £85,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis
- Talu Wrth Ennill ac Yswiriant Gwladol ar gostau staff.
Mae cyfraith cwmnïau’n mynnu bod eich deunydd ysgrifennu a'ch deunyddiau cyhoeddusrwydd (gan gynnwys y wefan) yn nodi hunaniaeth a statws cyfreithiol eich busnes yn glir.
Gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau penodol a nodir ar gyfer gweithgareddau penodol, e.e. cofrestru gofal cymdeithasol, trwyddedau, gwiriadau DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd), diogelwch bwyd ac ati.
Yn yr adran hon:
Cydymffurfiaeth busnes: Dogfen lywodraethol
Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddwyr
Cydymffurfiaeth busnes: Ariannol
Cydymffurfiaeth busnes: Adnoddau dynol
Cydymffurfiaeth busnes: Iechyd a diogelwch
Cydymffurfiaeth busnes: Data a chyfathrebu
Cydymffurfiaeth busnes: Cytundebol
Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddio sy'n benodol i weithgaredd