Cydymffurfiaeth busnes: Dogfen lywodraethol
Mae eich dogfen lywodraethol yn nodi'r rheolau cyfreithiol perthnasol wrth sefydlu eich busnes cymdeithasol. RHAID i chi weithredu o fewn y rheolau hyn. Mae'r meysydd allweddol sydd wedi'u cynnwys yn y ddogfen lywodraethol fel a ganlyn:
Mae'r rhain yn nodi'r hyn y sefydlwyd eich busnes cymdeithasol i'w wneud a'r hyn y gallwch ac na allwch ei wneud i gyflawni eich gweithgareddau.
Mae'r rheolau aelodaeth yn nodi pwy all ac na all fod yn aelodau o'r busnes cymdeithasol. Gallant gynnwys:
- y gwahanol gategorïau o aelodaeth
- proses ymgeisio
- terfynu aelodaeth
- ffioedd aelodaeth a lefelau tanysgrifio.
Gwybodaeth am y Bwrdd a'i aelodau:
- penodi aelodau'r Bwrdd
- cymhwysedd aelodau'r Bwrdd
- ymddiswyddiadau a diswyddiadau
- hyd gwasanaeth
- gwrthdrawiad buddiannau
- penodi swyddogion
- sut y gwneir penderfyniadau.
Manylion unrhyw ddirprwyaethau cyffredinol a / neu benodol y mae'r Bwrdd yn eu caniatáu a'r broses ar gyfer dirprwyo. Er enghraifft, mae dirprwyaethau ariannol sy’n caniatáu cymeradwyo gwariant, o fewn terfynau penodol, wedi'i nodi mewn dogfen dirprwyo ariannol.
Rheolau gweinyddol ar gyfer meysydd gan gynnwys:
- cyfarfodydd bwrdd
- cyfarfodydd aelodau a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol (CCB)
- bodloni gofynion hysbysiadau
- cworwm (isafswm y niferoedd sy'n bresennol mewn cyfarfodydd cyn y gellir gwneud penderfyniadau ffurfiol)
- cofnodion cyfarfodydd
- cofrestrau o aelodau, aelodau'r bwrdd a swyddogion.
Gweler Canllaw i gyfarfodydd aelodaur Bwrdd.
Mae templedi ar gyfer Cofrestr eich Cwmni ar gael yma
Cyfeirir at y cofnodion hyn yn aml fel cofnodion statudol y busnes.
- gofynion adrodd rheoleiddiol, ariannol ac archwilio.
Mae hwn yn nodi sut y penderfynir cau'r busnes a beth sy'n digwydd i asedau ac eiddo'r busnes pan fydd yn cau.
Yn yr adran hon:
Cydymffurfiaeth busnes: Dogfen lywodraethol
Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddwyr
Cydymffurfiaeth busnes: Ariannol
Cydymffurfiaeth busnes: Adnoddau dynol
Cydymffurfiaeth busnes: Iechyd a diogelwch
Cydymffurfiaeth busnes: Data a chyfathrebu
Cydymffurfiaeth busnes: Cytundebol
Cydymffurfiaeth busnes: Rheoleiddio sy'n benodol i weithgaredd