Mae ymgyrch marchnata digidol integredig cigydd o Gonwy wedi helpu i greu swyddi a chynyddu gwerthiant, ac erbyn hyn dyma’r brand selsig a byrgers mwyaf yng Nghymru.

 

Mae Edwards o Gonwy a’i chwaer frand The Traditional Welsh Sausage Company yn awr yn bwriadu estyn ei safle cynhyrchu ac ychwanegu cynnyrch newydd i’w arlwy o dan gynlluniau uchelgeisiol i ehangu.

 

Outside of a shop

 

Mae’r cwmni, sy’n cyflogi dros 60 o bobl ac yn cyflenwi archfarchnadoedd mawr yn y DU, hefyd yn gwerthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid yn ei siop ar y stryd fawr, a thrwy farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbyseb deledu ddwyieithog, hysbysebu ar fysiau a byrddau hysbysebu, hysbysebu digidol, a chysylltiadau traddodiadol â’r cyfryngau.

 

Agorodd Edwards o Gonwy, cigydd stryd fawr sydd wedi ennill sawl gwobr, yn 1984, ac yn 2004 lansiwyd The Welsh Sausage Company, sy’n arbenigo mewn cyflenwi cynnyrch i archfarchnadoedd a’r diwydiant arlwyo. Mae wedi ennill contractau gyda’r Co-op a Bwyty Dylan’s yn y 18 mis diwethaf.

 

Cynlluniau uchelgeisiol i ehangu

 

Mae’r busnes yn gobeithio gweld twf o 20 y cant yn y 12 mis nesaf, a bydd y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan allweddol.

 

Dywedodd Laura Baker, rheolwr marchnata: “Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ehangu, ac yn sgil ein hymgyrch marchnata rydym wedi sicrhau twf mewn categorïau sy’n sefydlog neu’n dirywio. Er enghraifft, gydag un cwmni manwerthu blaenllaw yng Nghymru, rydym wedi gweld twf yn y categori selsig a oedd ar i lawr.

 

“Mae ein hystod o gynnyrch wedi ennill cyfanswm o dros 200 o wobrau, a’r mwyaf nodedig o’r rhain yw’r 11 o Wobrau Great Taste. Dim ond cynhwysion o’r ansawdd gorau rydym yn eu defnyddio ac mae modd olrhain ein cig i gyd yn llawn. Rydym yn cyfuno ein gwerthoedd traddodiadol â dull blaengar o gynnal busnes a marchnata.

 

“Rydym mor brysur fel bod angen safle mwy arnom cyn bo hir. Yn ddiweddar, fe werthon ni 130,000 o fyrgers cig eidion Cymreig mewn wythnos, sy’n fwy nag erioed o’r blaen, ac rydym yn gwerthu rhwng 1.5 a 2 filiwn o selsig y mis.

 

“Bydd y cyfryngau cymdeithasol yn allweddol i ni”

 

“Oherwydd ein bod yn buddsoddi i ddatblygu cynnyrch newydd ac ehangu’r safle cynhyrchu rydym yn chwilio am ffordd fwy cost-effeithiol o gynnal y momentwm a chyrraedd ein targed o 20 y cant o ran twf. Ac rydym yn credu y bydd y cyfryngau cymdeithasol yn allweddol i ni.

 

“Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae dros hanner (58 y cant) pobl 18-34 mlwydd oed a bron i draean (31 y cant) pobl dros eu 55 yn fwy tebygol o brynu bwyd a diod ar ôl gweld lluniau ar gyfryngau fel Facebook.

 

Cyngor un ag un a marchnata ar-lein

 

“Buom mewn gweithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau a oedd yn trafod y cyfryngau cymdeithasol, a chawsom gyngor un ag un i helpu â’n strategaeth marchnata ar-lein. Roedd y gweithdy’n wych ac fe ddysgon ni lawer iawn yno. Cawsom lawer o awgrymiadau ac fe ddysgon ni ambell i dric, er enghraifft sut i ddefnyddio rhestrau Twitter, ac rydym wedi sylwi ein bod yn cyrraedd mwy o bobl.

 

“Mae’r wybodaeth hon wedi ein galluogi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd fwy strwythuredig ac ystyrlon, a bydd hynny’n parhau i wella ymwybyddiaeth o’n brand a denu mwy o bobl i’r safle.

 

“Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddeall sut i guradu cynnwys y cyfryngau cymdeithasol mewn modd mwy proffesiynol. Byddwn hefyd yn rhannu mwy ar LinkedIn er mwyn meithrin perthynas â phobl fusnes allweddol ar y llwyfan hwnnw.

 

“Rydym yn mawr obeithio y bydd ein gweithgarwch digidol yn helpu i ddenu mwy o bobl i’r siop ar y stryd fawr.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen