Mae VoIP yn dechnoleg eithaf syml i’w deall a’i mabwysiadu ond mae'n gallu sicrhau manteision enfawr i fusnesau o unrhyw faint.

 

Mae Voice over IP neu VoIP yn caniatáu i chi wneud galwadau ffôn drwy gysylltiad rhyngrwyd ar gyflymder uchel. Mae’r system hon yn golygu bod galwadau am ddim neu am gost llawer is, waeth ble y gwneir y galwadau.

 

Isod mae 3 rheswm pam y dylech fod yn ystyried buddsoddi mewn VoIP – gydag enghreifftiau o fusnesau go iawn yng Nghymru sydd eisoes yn elwa ar y feddalwedd!  

 

Lleihau costau’n sylweddol

 

Mae Nordic International yn gweithredu o’i brif ganolfan yn Rhondda Cynon Taf, ond mae'n rheoli rhwydwaith o fwy na 70 o newyddiadurwyr a chyfieithwyr proffesiynol. Pwysleisiodd Andrew Draper, cyd-berchennog, sut byddai “ gwaith a oedd yn cynnwys cyfweliad ffôn 30 munud gyda rheolwr cronfa yn yr Ynys Las” yn costio mwy na’r ffi oedd y cwmni wedi’i dderbyn”.

 

Trwy gyflwyno galwadau ar y rhyngrwyd, mae Nordic bellach wedi lleihau eu bil ffôn o “£500 y chwarter” i tua “£20 y mis”. Darllenwch fwy am eu stori yma.

 

Yn union fel Nordic International, gallai newid galwadau traddodiadol i VoIP sicrhau arbedion enfawr yn enwedig os ydych yn ffonio’n rheolaidd neu os oes gennych gleientiaid a chwsmeriaid ledled y byd. Os yw’r ddau ohonoch yn defnyddio systemau VoIP yna bydd y galwadau am ddim!

 

Gwaith yn unrhyw le, unrhyw bryd

 

Hope Rescue – elusen a sefydlwyd yn 2005 yn Ne Cymru yw Hope Rescue i helpu cŵn wedi crwydro neu wedi’u gadael ar eu pen eu hunain. Gan fod ganddynt ganolfan achub yn Llanharan a siop elusennol ym Mhontypridd, mae'n bwysig bod y timau’n cysylltu â’i gilydd.

 

Nid yn unig mae VoIP yn caniatáu i’r ddau safle gyfathrebu’n gyson, ond mae’n caniatáu i’r elusen gyflawni ei gwaith hanfodol unrhyw amser o’r dydd. Mae’r system yn caniatáu i staff wneud galwadau y tu allan i oriau sy’n golygu bod pobl yn gallu ffonio unrhyw adeg i roi gwybod am gŵn y maent wedi eu gweld neu eu darganfod, neu sydd angen cymorth.

 

Trwy fuddsoddi yn VoIP, gall busnesau fel Hope Rescue sicrhau eu bod wastad mewn cysylltiad, boed staff oddi ar y safle neu’n gweithio y tu allan i oriau arferol.

 

Gwella cynhyrchiant tîm

 

Gyda dros 12,500 o erwau o dir, siop ar y safle, bistro a bwyty sy’n gwerthu bwyd i fynd, mae nifer o elfennau sy’n cadw Ystâd Rhug i redeg. Ers i gyflenwr lleol osod system VoIP, mae’r cysylltedd rhwng y siop ag adran cyfanwerthu Ystâd Rhug wedi gwella’n enfawr (yn ogystal â sicrhau £4,000 o arbedion yn y flwyddyn gyntaf).

 

Os oes gan eich busnes dimau’n gweithio ar fwy nag un safle – neu hyd yn oed ar draws y byd – mae'n bwysig cyfathrebu’n sefydlog a pharhaus i sicrhau bod y tîm yn gallu gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd, ar waetha’r pellter.

 

Os ydych yn credu y gallai eich busnes elwa ar gostau is, gweithio mewn ffordd fwy hyblyg a gwella cynhyrchiant, edrychwch ar ein Cyfeirlyfr Meddalwedd hwylus i ddysgu mwy am systemau Voice over sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint!

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen