Wrth i ni gyd ddilyn y canllawiau presennol i aros gartref, mae miliynau ohonom yn chwilio am ffyrdd hawdd o aros mewn cysylltiad ar-lein. Boed gyda theulu, ffrindiau, cwsmeriaid, cyflenwyr a phawb arall, mae erioed wedi bod mor bwysig i gadw mewn cysylltiad.

ZMae Zoom yn gynyddol yn dod yn un o’r llwyfannau fideogynadledda a ddefnyddir fwyaf gan ei fod mor hwylus i’w ddefnyddio ac mae am ddim! (er bod fersiynau â thâl ar gael hefyd).

Gyda’r fersiwn am ddim, gallwch siarad â hyd at 100 o bobl, neu un yn unig, am hyd at 40 munud. Yr unig beth mae ei angen arnoch yw cyfeiriad e-bost a gallwch ddechrau arni naill ai drwy ddefnyddio fersiwn bwrdd gwaith neu drwy lawrlwytho’r ap i’ch ffôn symudol neu lechen - defnyddio’r ap yw siŵr o fod y ffordd fwyaf hwylus o ddefnyddio Zoom.

Dyma ychydig o enghreifftiau o bethau y gallwch eu gwneud gyda Zoom:

  • Dosbarthiadau ffitrwydd – gall hyd at 100 o bobl ymuno neu gallwch deilwra sesiwn ar gyfer un cleient ar y pryd
  • Sesiynau celf a chrefft
  • Arddangosiadau coginio a ryseitiau i roi cynnig arnynt
  • Cwisiau tafarn rhithwir a slotiau DJs
  • Garddio neu help DIY
  • Awgrymiadau harddwch
  • Neu i ddweud helô a chadw mewn cysylltiad â’ch cwsmeriaid

Sut i ddechrau arni:

  1. Naill ai ewch i Zoom neu lawrlwythwch yr ap
  2. Dewiswch greu cyfrif am ddim a dilyn y camau – byddwch yn derbyn e-bost i ddilysu eich cyfrif
  3. Cliciwch ar Cyfarfod Newydd i gael sgwrs sydyn gyda rhywun neu Trefnu Cyfarfod - dewiswch eich dyddiad a'ch amser a chadwch. I wahodd pobl, cliciwch ar Copïo Gwahoddiad ac yna ei anfon trwy e-bost neu ble bynnag arall y dewiswch. DS Mae cyfarfodydd Zoom am ddim, ond os ydych chi am gynnal rhywbeth ychydig yn fwy soffistigedig, megis gweminar y gallwch newid presenoldeb ar ei gyfer, bydd angen i chi dalu amdano – rhagor o wybodaeth yma.
  4. Mae pob cyfarfod Zoom, boed yn sydyn neu wedi’i drefnu, bellach yn cael ei ddiogelu gan gyfrinair yn ddiofyn. Am ragor o wybodaeth am gadw’ch cyfarfodydd Zoom yn ddiogel – cliciwch yma.
  5. Mae mor syml â hynny!
  6. Mae arfau fideogynadledda eraill ar gael – ragor o wybodaeth yma.

Mae gennym weminarau ar gael i helpu busnesau mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Bydd y gyfres yn cynnwys pynciau allweddol sy’n ymwneud â COVID-19 a’ch busnes. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen