Cymrodoriaethau Diwydiannol Cenedlaethau'r Dyfodol Sêr Cymru
Amcan Cymrodoriaethau Diwydiannol Cenedlaethau'r Dyfodol yw cryfhau'r berthynas rhwng ymchwilwyr academaidd yng Nghymru a phartneriaid diwydiannol yn y DU a thu hwnt.
Rhagwelir y bydd y partneriaethau hyn yn arwain at gydweithredu mwy ffurfiol rhwng Sefydliadau Addysg Uwch a mentrau masnachol a allai arwain at geisiadau ar y cyd am gyllid ar gyfer er enghraifft, cynlluniau SMART a'r Gronfa Her Diwydiannol.
Bydd y cymrodoriaethau'n galluogi ymchwilydd academaidd yng Nghymru i dreulio amser gyda menter fasnachol neu'n helpu i ryddhau ymchwilydd masnachol i dreulio amser yn gweithio mewn prifysgol.
Mae 6 chymrodoriaeth ar gael, 2 yn Rhanbarth y Dwyrain a 4 yn y Gorllewin a'r Cymoedd.
Pwy sy'n Gymwys
- Caiff ymgeiswyr ddod o unrhyw ddisgyblaeth ym Meysydd Blaenoriaeth Strategol WEFO: Gwyddorau Bywyd ac Iechyd, Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch a TGCh a'r Economi Ddigidol.
- Caiff grantiau eu rhoi am 12 mis hyd at ddiwedd y rhaglen, gan ddarparu arian i dalu am gostau cyflog (pro rata yn ôl swm yr amser a dreulir gyda'r diwydiant/sefydliad academaidd).
- Rhaid i'r sawl sy'n derbyn y grant allu mynd yn ôl i'w swydd wreiddiol.
- Bydd y grant yn werth rhyw £150,000 (heb gynnwys gorbenion).
- Caiff cymrodor sy'n mynd o Sefydliad yng Nghymru i fenter fasnachol dreulio amser y tu allan i'r rhanbarthau targed cyn belled â'i fod yn dychwelyd i'r Sefydliad. Bydd gofyn i gynnig o'r fath gydymffurfio â rheolau Cymhwysedd Daearyddol yr ERDF.
- Caiff ymgeiswyr fod yn ddinasyddion unrhyw wlad.
- Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais a dogfennau cysylltiedig (ffurflen goruchwyliwr, ffurflen foesegau a CV).
- Rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â'r egwyddorion moesegol sylfaenol a ddisgrifir yn yr adran am foesegau.
- Rhaid bod gan ymgeiswyr dystiolaeth bod eu dewis sefydliad academaidd/menter fasnachol yn barod i'w cefnogi a'u bod yn gallu darparu'r dystiolaeth honno.
(Darllenwch y Canllaw am Gymorth Gwladwriaethol i sicrhau'ch bod yn gymwys)
Y Broses Ymgeisio
Bydd angen i ymgeiswyr gynnig prosiect addas i'w wneud mewn sefydliad sy'n eu cynnal yng Nghymru sydd ar y rhestr.
Bydd y prosiect ymchwil yn cael ei greu gan yr ymgeisydd ond mae'n rhaid iddynt drafod hyn gyda'u harolygydd posibl cyn ei gyflwyno.
Bydd craffu moesegol ar bob prosiect a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu adran foeseg wedi'i chwblhau o fewn eu ffurflen gais.
Dylai'r ymgeisydd hefyd gyflwyno copi o'u CV diweddaraf o fewn eu ffurflen gais, dim mwy na 3 tudalen o hyd. Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am eu haddysg, eu gwaith blaenorol a phrofiad perthnasol arall, gwybodaeth am unrhyw seibiant yn eu gyrfa ar gyfer mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu ac ati; a rhestr o'u cyhoeddiadau a grantiau a ddyfarnwyd.
Dylai'r ymgeiswyr hefyd anfon enwau dau ganolwr sy'n gyfarwydd â'u gwaith a'r maes ymchwil arfaethedig yn yr e-bost i gyd-fynd â'u cais.
Dylai'r sefydliadau sy'n eu cynnal roi dadansoddiad o gostau gan ddefnyddio'r tablau o fewn eu ffurflenni cais.