Cymrodoriaethau Diwydiannol Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon Sêr Cymru

 

Yn unol â rhaglen ehangach Sêr Cymru II, mae Cymrodoriaethau Diwydiannol Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon (SFI) yn gynllun peilot fydd yn profi'r potensial i gryfhau'n cysylltiadau ag Iwerddon ar ôl Brexit.

Rhagwelir y bydd y cynllun peilot hwn yn arwain at fwy o gydymchwilio a chydarloesi rhwng Cymru ac Iwerddon mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.

Mae Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon wrthi'n rhedeg cynllun i ymchwilwyr academaidd a masnachol sydd wedi ennill PhD neu sydd wedi cael hyfforddiant ar ôl PhD mewn Sefydliad yn Iwerddon allu treulio amser gyda menter fasnachol gan gynnwys mentrau masnachol yng Nghymru.

Byddai Rhaglen Beilot Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon Sêr Cymru II yn ategu grant yr SFI fel bod ymchwilydd yn cael treulio amser mewn sefydliad academaidd yng Nghymru yn ogystal â chyda menter fasnachol.  Ni fyddai grant yr SFI ar ei ben ei hun yn caniatáu hynny.

Mae 6 grant ar gael o dan y cynllun hwn, 2 ar gyfer y Dwyrain a 4 ar gyfer y Gorllewin a'r Cymoedd.

Pwy sy'n Gymwys

  • Bydd y cynllun peilot yn para 6 mis.
  • Bydd y grantiau o gwmpas £50,000 ac yn talu am gyflog, nwyddau traul a theithio a chynhaliaeth.
  • Disgwylir i'r grant arwain at gydweithio masnachol.
  • Rhaid nodi'n glir yn y cais y manteision a ddaw o ran cryfhau'n cysylltiadau menter ag Iwerddon.
  • Caiff ymgeiswyr fod yn ddinasyddion unrhyw wlad.
  • Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais a dogfennau cysylltiedig (ffurflen goruchwyliwr, ffurflen foesegau a CV)
  • Rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â'r egwyddorion moesegol sylfaenol a ddisgrifir yn yr adran am foesegau.
  • Rhaid bod gan ymgeiswyr gefnogaeth y sefydliad academaidd/busnes masnachol y maent am weithio ynddo

Y Broses Ymgeisio

Bydd angen i ymgeiswyr gynnig prosiect addas i'w wneud mewn  sefydliad sy'n eu cynnal yng Nghymru sydd ar y rhestr.  

Bydd y prosiect ymchwil yn cael ei greu gan yr ymgeisydd ond mae'n rhaid iddynt drafod hyn gyda'u harolygydd posibl cyn ei gyflwyno.

Bydd  craffu moesegol ar bob prosiect a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu adran foeseg wedi'i chwblhau o fewn eu ffurflen gais.

Dylai'r ymgeisydd hefyd gyflwyno copi o'u CV diweddaraf o fewn eu ffurflen gais, dim mwy na 3 tudalen o hyd. Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am eu haddysg, eu gwaith blaenorol a phrofiad perthnasol arall, gwybodaeth am unrhyw seibiant yn eu gyrfa ar gyfer mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu ac ati; a rhestr o'u cyhoeddiadau a grantiau a ddyfarnwyd.

Dylai'r ymgeiswyr hefyd anfon enwau dau ganolwr sy'n gyfarwydd â'u gwaith a'r maes ymchwil arfaethedig yn yr e-bost i gyd-fynd â'u cais.

Dylai'r sefydliadau sy'n eu cynnal roi dadansoddiad o gostau gan ddefnyddio'r tablau o fewn eu ffurflenni cais.