Canllawiau manwl ar systemau a gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfiaeth busnes

Unwaith y bydd eich strwythur cyfreithiol wedi'i sefydlu, bydd angen i chi neilltuo digon o amser ac adnoddau i sefydlu'r systemau a'r prosesau priodol ar gyfer y busnes fel bod gofynion cydymffurfio'n cael eu bodloni. Bydd hyn yn golygu sefydlu:

  • Systemau ar gyfer rheoli’r broses o lywodraethu eich busnes cymdeithasol
  • Systemau a rheolaethau ariannol
  • Systemau ar gyfer rheoli staff a gwirfoddolwyr
  • Systemau gweinyddu
  • Systemau ar gyfer rheoli asedau ac adnoddau.

Bydd angen i chi hefyd sicrhau trwyddedau ac achrediadau priodol ar gyfer eich busnes yn dibynnu ar fath a natur eich gwasanaethau a'ch cynhyrchion.

Bydd lefel y system sydd ei hangen yn dibynnu ar faint a natur eich busnes cymdeithasol. Bydd angen i chi benderfynu beth yw'r gofynion sylfaenol ar gyfer eich busnes.

Yn dilyn sefydlu’r pethau hyn, bydd angen i chi sicrhau bod gennych systemau a phrosesau priodol ar gyfer cynnal cydymffurfiaeth.

Graphic - detailed guidance for business compliance