Rheoli pobl: Rheoli gwirfoddolwyr

Rheoli gwirfoddolwyr

Os yw eich busnes cymdeithasol yn defnyddio gwirfoddolwyr, yna mae'n bwysig bod gennych broses rheoli gwirfoddolwyr addas ar waith. Bydd hyn yn sicrhau bod gan wirfoddolwyr ddigon o wybodaeth a chymorth i gyflawni eu rolau'n effeithiol.

Bydd lefel y manylder sydd ei angen arnoch yn gymesur â maint eich busnes, y gwasanaethau a gynigiwch a nifer y gwirfoddolwyr a ddefnyddir, ond efallai yr hoffech ystyried y canlynol:

  • Disgrifiadau rolau gwirfoddolwyr
  • Polisi a gweithdrefnau gwirfoddolwyr
  • Llawlyfr gwirfoddolwyr
  • Sefydlu gwirfoddolwyr
  • Goruchwylio, cyfarfodydd a monitro gwirfoddolwyr.

Canllawiau pellach:

CGGC: Gweithio gyda Gwirfoddolwyr 

 

Yn yr adran hon: